Cod y Modiwl | AD10310 | |||||||||||
Teitl y Modiwl | SEICOLEG ADDYSG | |||||||||||
Blwyddyn Academaidd | 2005/2006 | |||||||||||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Mr Iolo W Lewis | |||||||||||
Semester | Semester 1 | |||||||||||
Staff Eraill sy'n Cyfrannu | Mrs Ffion M Hoare | |||||||||||
Manylion y cyrsiau | Darlithoedd | |||||||||||
Seminarau / Tiwtorialau | ||||||||||||
Dulliau Asesu |
|
Ar ol astudio'r adran hon:
1. Byddwch yn medru egluro damcaniaeth Abraham Maslow ynglyn ag anghenion dynion a'i defnyddio i'ch diben eich hun fel myfyrwyr ynghyd â gweld ei gwerth i athrawon ysgol a choleg.
2. Byddwch yn medru rhoi amlinell o Theory Atgyfnerthu ac yn medru egluro sut y dylid ei defnyddio i wneud hyfforddiant mewn ysgol a choleg yn fwy effeithiol.
3. Byddwch yn medru egluro'r theori ynglyn a'r Angen i Gyflawni (need to Achieve) ac yn medru defnyddio agweddau ohoni i fod yn fwy effeithiol fel myfyrwyr.
4. Byddwch yn medru deall a defnyddio Theori Priodoli a'i defnyddio i egluro eich ymateb i lwyddiant
neu fethiant mewn rhyw orchwyl arbennig ac i feithrin dyfalbarhad ac agwedd gadarnhaol tuag at anawsterau.
II Dysgu a Chofio:
Wedi astudio'r adran hon
1. Byddwch yn medru rhoi amlinell o Theori Prosesu - Gwybodaeth o'r cof a'i defnyddio i fod yn fwy
effeithiol fel myfyrwyr.
2. Byddwch yn medru egluro gwahanol ddamcaniaethau ynglyn ag anghofio, disgrifio arbrofion ar anghofio ynghyd a'i canlyniadau a defnyddio'r wybodaeth i'ch budd eich hunain fel myfyrwyr.
3. Byddwch yn medru crynhoi canlyniadau arbrofion ar gaffael gwybodaeth a'i storio yn yr hir-gof a byddwch yn medru llunio cynghorion ar sail eich gwybodaeth i wneud myfyrwyr yn fwy effeithiol yn eu gwaith.
Diben y cwrs hwn yw ystyried rhai o'r atebion a gynigir gan sawl theori seicoleg dysgu i'r cwestiwn "Sut mae plant yn dysgu?" Rhoddir sylw i agweddau seciolegol ar ddysgu: ymddygiadaeth, datblygiad gwyboddol, a theori prosesu gwybodaeth.
1. Natur a nodweddion cymhelliant dynol.
2. Damcaniaeth Abraham Maslow ynglyn â Graddfa neu Hierarchi o Anghenion Dynol.
3. Agweddau o Theori Atgyfnerthu a'i defnydd mewn addysg.
4. Y Cymhelliant i gyflawni: arbrofion a wnaethpwyd a'r defnydd o'r canlyniadau mewn ysgol a choleg.
5. Theori Priodoli (Attribution Theory).
II. Dysgu a Chofio
1. Y Model Prosesu - Gwybodaeth o'r cof.
(The information - processing model of memory).
2. Damcaniaethau ynglyn ag anghofio ac arbrofion ar anghofio.
3. Arbrofion ar ddulliau o ddysgu (learning) a'r technegau sy'n gwneud dysgu'n fwy effeithiol.
Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC