Cod y Modiwl | BG25110 | |||||||||||||||||
Teitl y Modiwl | GWYDDONIAETH A'R CYFRYNGAU | |||||||||||||||||
Blwyddyn Academaidd | 2005/2006 | |||||||||||||||||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Dr Dylan G Jones | |||||||||||||||||
Semester | Semester 2 | |||||||||||||||||
Staff Eraill sy'n Cyfrannu | Dr Aileen R Smith, Dr Gareth W Griffith, Dr Jennifer P Day | |||||||||||||||||
Manylion y cyrsiau | Darlithoedd | 10 x 50m 'darlithoedd' ar ffurf deunyddiau ar y WE. | ||||||||||||||||
Seminarau / Tiwtorialau | Bydd angen i fyfyrwyr roi amser i aastudio deunyddiau ychwanwegol a fydd ar gael ar y WE e.e. fideo, erthyglau pdf a.y.b. | |||||||||||||||||
Sesiwn Ymarferol | Cyflwyniadau a sesiynau 'cyfweld' (2 x 3awr) i gael eu hasesu. | |||||||||||||||||
Eraill | Gweithdy erthygl newyddiadurol, 2 awr | |||||||||||||||||
Dulliau Asesu |
|
Bydd y modiwl yn:
(a) bwrw golwg dros y berthynas rhwng gwyddoniaeth a'r cyfryngau (newyddion a ffuglennol), o safbwyntiau cyfoes a hanesyddol, gan ffocysu ar agweddau penodol ac astudiaethau achos. Sut mae canfyddiadau wedi newid, a pham? A ydy gwyddoniaeth, a `chynnydd? yn gyffredinol, yn cael ei gweld erbyn hyn fel rhywbeth sy'r fwy niweidiol i'r gymdeithas nag y mae'r llesol? Sut mae canfyddiadau pobl yn y DU yn cymharu a chanfyddiadau pobl yn, er enghraifft, yr UDA?
(b) trafod sut mae syniadau gwyddonol yn cael eu cyfleu yn y cyfryngau gwahanol, gan gynnwys agweddau ar ogwydd a phropaganda.
(c) anelu at ddysgu `arfer gorau? wrth gyfathrebu gwyddoniaeth, gan bwysleisio'r angen i wyddonwyr ddeall barn a phryderon carfannau gwahanol o'r cyhoedd yn ogystal a'r angen i'r carfannau hyn ddeall gwyddoniaeth (yn unol a pholisi presennol y BBSRC).
1. Cyflwyno'r prif themau ac esbonio gwahanol ddulliau dysgu'r cwrs. Beth yw gwyddoniaeth? Proses o ddarganfod, yn hytrach na chasgliad o ffeithiau. Esbonio natur y dull gwyddonol ac arolygu sut mae ymchwil yn cael ei wneud (profi damcaniaethau); cymharu hyn a sut mae newyddiadurwyr yn cael hyd i wybodaeth a sut mae'r cyhoedd yn ei deall.
2. Agweddau hanesyddol. Y papurau newyddion cynnar. Roedd iechyd yn un o'r pynciau cyntaf i gael eu hystyried gan ei fod o ddiddordeb mawr i'r cyhoedd (ac mae'r dal i gael sylw mawr am yr un rheswm). Oes Victoria a'r syniad o gynnydd fel peth da i ddynoliaeth. Cymhariaeth a syniadau modern am gynnydd, yn enwedig yng nghyd-destun difrodi'r amgylchedd a datblygiadau ym maes geneteg. Yn eironig, mewn oes `seciwlar? mae cyhuddiadau o `chwarae Duw? yn thema gyffredin pan fydd gwyddonwyr yn cael eu beirniadu.
3. Y sefyllfa heddiw. Problemau cyfathrebu a dealltwriaeth rhwng gwyddonwyr, y cyhoedd, a'r cyfryngau. Gall pynciau sy'r cael eu hystyried fel rhai pwysig gan wyddonwyr gael eu hanwybyddu gan y cyfryngau, neu gael eu `chwyddo i fyny? neu eu bychanu. Nid yw natur prawf gwyddonol yn cael ei deall yn eang, a gall canfyddiadau'r cyhoedd o ystadegau (e.e. ffigurau am risg mewn gwahanol sefyllfaoedd) fod yn afrealistig.
Astudiaethau achos:
4. Esblygiad vs. creadaeth
5. GM
6. Newid Hinsawdd
7. Bioderfysgaeth
8. Agweddau ymarferol
Sut i gyfathrebu syniadau ar gyfer cynulleidfaoedd gwahanol, yn ysgrifenedig ac ar lafar. Cymharu erthyglau / cyfweliadau a gwahanol arddulliau. Sut i gysylltu a'r Wasg, a chyngor yngl'r a sut i gael eich cyfweld ar gyfer y radio neu'r teledu.
9. Rhaglenni ffeithiol ar y teledu. Astudio rhaglenni penodol a thrafod sut maent yn cyfleu gwybodaeth benodol, sut maent yn diddanu, a pha ddelweddau o wyddoniaeth a gwyddonwyr sy'r cael eu cyfleu.
10. Canfyddiadau'r cyhoedd: Y gwyddonydd fel arwr ac fel dihiryn. Sut mae gwyddoniaeth a gwyddonwyr yn cael eu portreadu yn y cyfryngau gwahanol. Enghreifftiau o `arwyr a dihirod? gwyddonol drwy'r ganrif ddiwethaf, e.e. Einstein fel y caricatur cynddelwaidd o'r gwyddonydd ecsentrig, gwyn-ei-wallt, Christian Barnard fel arwr ym maes meddyginiaeth neu Steve Jones fel `wyneb geneteg? heddiw. Delweddau ffuglennol o wyddoniaeth a gwyddonwyr ar ffilm a theledu o Metropolis a Frankenstein hyd at The Fly a Jurassic Park.
11. Ymddiriedolaeth, neu ddiffyg ymddiriedolaeth
A yw'r wir nad yw pobl heddiw yn ymddiried yn yr hyn mae gwyddonwyr yn ei ddweud wrthynt? A yw hyn yn ymwneud a thuedd gyffredinol i beidio ag ymddiried mewn `ffigurau awdurdod? e.e. gwleidyddion, neu a'r ddelwedd o wyddonwyr yn gyffredinol (gw. 8 uchod) neu a phethau diweddar penodol fel BSE, MMR, GM. Agweddau propaganda, gogwydd, moeseg, ac achosion o ffugio gwybodaeth. Dylanwad y sefyllfa gyllid a'r pwysau i gyhoeddi (y realiti, a'r canfyddiadau cyhoeddus). Sut y gellid gwella pethau?
Mae cyfathrebu rhwng y byd gwyddonol a'r cyhoedd yn bwysicach nag erioed, ar gefndir dadleuon megis GM a newid hinsawdd. Cyn y gallwn ni gynyddu hyder y cyhoedd mewn gwyddoniaeth, rhaid i ni ddeall sut mae canfyddiadau pobl am wyddoniaeth a gwyddonwyr yn cael eu llunio, nid yn unig gan y cyfryngau newyddion a charfannau pwyso ond hefyd gan bortreadau ffuglennol o bynciau a `bygythiadau? gwyddonol. Bydd y modiwl hwn yn rhoi golwg dros sut mae'r cyfryngau yn dylanwadu ar ganfyddiadau'r cyhoedd o wyddoniaeth, ac ar eu dealltwriaeth o wyddoniaeth. Ystyrir hyn mewn perthynas a'r `hinsawdd? presennol, a hefyd o safbwynt hanesyddol. Mae'r modiwl hefyd yn bwriadu dangos sut i gyfathrebu syniadau gwyddonol yn effeithiol ac yn glir, boed hynny'r uniongyrchol i aelodau'r cyhoedd neu drwy'r cyfryngau.
Problem_solving | Cynhyrchu erthyglau ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd a chyda gogwydd gwahanol | ||
Research skills | Erthyglau a chyflwyniad | ||
Communication | Erthyglau, cyflwyniad a chyfweliadau | ||
Improving own Learning and Performance | Erthyglau, cyflwyniad a chyfweliadau | ||
Team work | Gan y bydd y cyflwyniadau yn cael eu dilyn gan cyfweliadau `cyfryngol¿ rydym yn credu mai¿r peth mwyaf teg yw i¿r myfyrwyr gynhyrchu ac `amddiffyn¿ eu cyflwyniadau yn unigol. | ||
Information Technology | Cyflwyniad, a defnyddio adnoddau ar y We | ||
Application of Number | Bydd deall data ystadegol, a¿u cyflwyno yn ddealladwy, yn bethau sy¿n cael eu cynnwys yn y darlithoedd ac anogir myfyrwyr hefyd i gynnwys yr agwedd hon mewn erthyglau a chyflwyniadau | ||
Personal Development and Career planning | Bydd y modiwl hwn nid yn unig yn helpu gwyddonwyr y dyfodol i gyfathrebu¿n well â¿r cyfryngau ac â¿r cyhoedd, ond bydd hefyd yn berthnasol iawn i¿r sawl sydd am ddilyn gyrfaoedd eraill ym meysydd addysg, llywodraeth/gweinyddiaeth neu, wrth gwrs, y cyfryngau. |
Mae'r modiwl hwn ar Lefel 5 FfCChC