Cod y Modiwl BG32930  
Teitl y Modiwl PROSIECT  
Blwyddyn Academaidd 2005/2006  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Glyn Jenkins  
Semester Semester 2  

Disgrifiad cryno

Mae pob myfyriwr yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol yn ymgymryd a phrosiect ymchwil 30 credyd ei werth yn y flwyddyn olaf. Mae'r gwaith yn cael ei rannu dros semesterau 1 a 2.

Erbyn diwedd blwyddyn 2, dylech fod wedi cael enw'rh prosiect, enw'rh goruchwyliwr a wedi cyflwyno crynodeb byr o'rh prosiect i gael ei gymeradwyo. Os nad yw hyn wedi digwydd, cysylltwch a Dr. Glyn Jenkins, cyd-drefnydd y modiwl, yn syth. Bydd natur y prosiect yn adlewyrchu diddordebau myfyrwyr unigol ac felly disgwylir amrywiaeth o ran pwyslais y gwaith, er y bydd gan bob prosiect yr un rheolau i'r dilyn a'r un amcanion. Bydd llawer o brosiectau'r seiliedig ar ymchwil yn y labordy neu yn y maes, tra bydd eraill yn canolbwyntio ar adolygiad beirniadol o ddeunydd sydd wedi'r gyhoeddi, ar ddadansoddiad o ddata cyhoeddedig neu heb ei gyhoeddi neu fodelu cyfrifiadurol. Serch hynny, bydd pob prosiect yn profi gallu'r myfyriwr i ffurfio rhagdybiaethau, i ddadansoddi data ac i ddarllen ac asesu llenyddiaeth berthnasol. Nid yw prosiectau sy'r hollol ddisgrifiadol, na rhai sydd ddim ond yn ailadrodd gwaith cyhoeddedig, yn dderbyniol.

AMCANION DYSGU

Bydd y prosiect yn galluogi myfyrwyr i ymgymryd a gwaith ymchwil annibynnol o'r dewis eu hunain o dan oruchwyliaeth un, neu fwy nag un, aelod o'r staff. Gwneir hyn mewn amgylchedd ymchwil er mwyn meithrin agwedd feirniadol tuag at gasglu, cofnodi ac asesu data. Disgwylir i fyfyrwyr:

GORUCHWYLIAETH

Bydd lefel y cyswllt rhwng myfyrwyr a goruchwylwyr yn ystod gwaith prosiect yn amrywio ar draws disgyblaethau gwahanol yn y Sefydliad ond mae'r ofynnol i bob myfyriwr gadw cysylltiad rheolaidd a'r goruchwyliwr. Eich cyfrifoldeb chi yw hyn. Dylech nodi fod rhaid i chi gyfarfod a'r goruchwyliwr o leiaf unwaith bob pythefnos yn ystod y semesterau i drafod sut mae'rh gwaith yn symud ymlaen. Cewch wneud apwyntiad i weld eich goruchwyliwr ar unrhyw adeg, wrth gwrs.

Bydd y Cyfarwyddwr Dysgu yn cael ei hysbysu ynghylch unrhyw fyfyrwyr sy'r methu a chadw cysylltiad rheolaidd a'r Goruchwyliwr.

Cofiwch, mae eich goruchwyliwr prosiect hefyd yn diwtor personol i chi ac fe ddylech drafod ag ef, neu hi, unrhyw bryderon a allai fod yn effeithio ar eich gwaith.

CYFLWYNO'r PROSIECT

Dylech roi copi bras o'r prosiect i'rh goruchwyliwr erbyn dyddiad a gytunir arno. Dyma'rh cyfle i dderbyn cyngor yngl'r a'r ysgrifennu a chyflwyniad. Peidiwch a cholli'r cyfle!

Rhaid cyflwyno'r prosiect gorffenedig i'r Swyddfa Gyffredin, Adeilad Cledwyn, erbyn 4.00 y.h. Dydd Mercher, 21 Ebrill, 2004.

Fe'rh atgoffir y bydd colli'r dyddiad cau yn golygu colli'r marciau i gyd ar gyfer y prosiect. Dim ond y Cyfarwyddwr a all roi caniatad cael estyniad, a rhaid gwneud cais ysgrifenedig iddo gan amlinellu'r glir y rhesymau dros ofyn am yr estyniad. Nodwch, os gwelwch yn dda, na chaniateir estyniadau ond mewn sefyllfaoedd eithriadol.

Cedwir pob adroddiad prosiect gan y Sefydliad. Fe'rh cynghorir felly i greu copi i'r gadw i'rh defnydd personol.

SEMINAR Y PROSIECT

Byddwch yn cyflwyno eich prosiect mewn ffurf seminar ymchwil i gynulleidfa a fydd yn cynnwys myfyrwyr eraill ac aelodau'r staff. Dylai'r cyflwyniad gymryd 10 munud gyda 5 munud ychwanegol ar gyfer cwestiynau. Disgwylir i'r cyflwyniad

Sgiliau Modiwl

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC