Cod y Modiwl | CC39030 | |||||||||||
Teitl y Modiwl | PROSIECT HIR | |||||||||||
Blwyddyn Academaidd | 2005/2006 | |||||||||||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Mr Jem Rowland | |||||||||||
Semester | Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester) | |||||||||||
Rhagofynion | Mae'r modiwl hwn ar gael i holl fyfyrwyr gradd yr Adran. | |||||||||||
Elfennau Anghymharus | CS39030, CI39030 & CS39110 | |||||||||||
Manylion y cyrsiau | Eraill | Prosiect dan oruchwyliaeth. Nid oes darlithoedd yn gysylltiedig a'r modiwl hwn. | ||||||||||
Dulliau Asesu |
| |||||||||||
Further details | http://www.aber.ac.uk/compsci/ModuleInfo/CC39030 |
Pwrpas y prosiect CC39030 yw rhoi'r cyfle i fyfyrwyr ddwyn ynghyd y sgiliau ymarferol a'r ddealltwriaeth ddamcaniaethol y maent wedi eu meithrin, trwy ddatblygu cynnyrch cyflawn, o'r cam o fanylu ar y gofynion hyd at ddangos bod y cynnyrch yn bodloni'r gofynion hynny. Mae'r broses hon yn cynnwys paratoi dogfennau addas, gan gynnwys dogfennau'r penderfyniadau a wnaed am y cynllun.
Mae rhestr o brosiectau posibl yn cael ei chadw a'i chynnal gan gyd-gysylltydd y drydedd flwyddyn. Fel arfer, dewisir prosiectau o'r rhestr hon ond rydym yn croesawu awgrymiadau gan fyfyrwyr, yn enwedig y rheiny sy'n deillio o'r flwyddyn mewn gwaith.
(Nid anogir myfyrwyr Anrhydedd Cyfun i wneud prosiect CC39030 fel arfer, ond yn hytrach cynigir prosiect CS3910 iddynt fel nad ydynt yn brin o fodiwlau trwy gwrs.)
2. Deunydd ysgrifenedig
Mae'r adran yn darparu amrywiaeth o ddeunydd ysgrifenedig ar sut i wneud y prosiect, ystyriaethau ynglyn ag asesu, a chyflwyno'r prosiect. Disgwylir i fyfyrwyr dreulio o bosibl ddeg awr o wythnos nodweddiadol ar y prosiect ac i weld eu harolygwr unwaith yr wythnos. Fe asesir y cwrs ar sail technegrwydd yr hyn a gyflawnir, yn ol tystiolaeth y sesiynau poster, arddangosfa prosiect ffurfiol, ac adroddiad ysgrifenedig sylweddol.
Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC