| Cod y Modiwl | CY34320 | ||||||||||||||
| Teitl y Modiwl | DIRGELION IAITH | ||||||||||||||
| Blwyddyn Academaidd | 2005/2006 | ||||||||||||||
| Cyd-gysylltydd y Modiwl | Mrs Felicity Roberts | ||||||||||||||
| Semester | Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod | ||||||||||||||
| Blwyddyn nesaf y cynigir | N/A | ||||||||||||||
| Semester nesaf y cynigir | N/A | ||||||||||||||
| Rhagofynion | CY10110 + CY10210 + CY10310 + CY10410 NEU CY10510 + CY10610 + CY10710 + CY10810, Cymraeg Lefel 1 (cyfartaledd o 40% rhwng y 4 modiwl) gydag o leiaf 50% yn y modiwlau iaith yn achos myfyrwyr ail iaith | ||||||||||||||
| Manylion y cyrsiau | Darlithoedd | ||||||||||||||
| Seminarau / Tiwtorialau | Seminarau. | ||||||||||||||
| Dulliau Asesu |
| ||||||||||||||
1. Byddwch yn gyfarwydd â'r termau a ddefnyddir gan ieithyddion i drafod iaith, ac â'r symbolau rhyngwladol a ddefnyddir i nodi seiniau ar bapur.
2. Byddwch yn ymwybodol o fras gategoriau y dosberthir ieithoedd y byd iddynt, a lle a natur gymharol y Gymraeg a'i tharddiad yn eu plith.
3. Byddwch yn gyfarwydd â rhai o'r prif ddamcaniaethau am darddiad iaith ddynol a'i pherthynas â natur y ddynoliaeth a bywyd ar y ddaear.
4. Byddwch yn gallu trafod pa bryd y mae dwy dafodiaith wahanol yn troi'n ddwy iaith wahanol, a pha bryd mae tafodiaith yn troi'n fratiaith, neu yn wir ai un dafodiaith arbennig yw iaith safonol?
5. Byddwch yn gwybod am batrymau cymdeithasegol cyffredin a ddigwydd o ddefnyddio dwy iaith mewn gwledydd lle ceir dwyieithrwydd, yn ogystal â phatrymau gwahanol a all ddigwydd rhwng carfanau gwahanol megis y ddau ryw, neu bobl yn perthyn i genhedlaeth wahanol.
6. Byddwch yn ymwybodol o gydberthynas gwleidyddiaeth a'r defnydd a wneir o iaith, yn arbennig yn y gwledydd Celtaidd.
Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC