| Cod y Modiwl |
CY34420 |
| Teitl y Modiwl |
HEN GYMRAEG A CHYMRAEG CANOL |
| Blwyddyn Academaidd |
2005/2006 |
| Cyd-gysylltydd y Modiwl |
Dr Rhisiart J Hincks |
| Semester |
Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod |
| Blwyddyn nesaf y cynigir |
N/A |
| Semester nesaf y cynigir |
N/A |
| Rhagofynion |
Cymraeg Lefel 1 (cyfartaledd o 40% rhwng y 4 modiwl) gydag o leiaf 50% yn y modiwlau iaith yn achos myfyrwyr ail iaith, CY10110 + CY10210 + CY10310 + CY10410 NEU CY10510 + CY10610 + CY10710 + CY10810 |
| Manylion y cyrsiau |
Darlithoedd | |
| Dulliau Asesu |
| Assessment Type | Assessment Length/Details | Proportion |
| Arholiad Semester | 2 Awr | 70% |
| Asesiad Semester | Traethawd 3000 o eiriau | 30% |
|
Canlyniadau dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Dylai'r myfyriwr ddeall prif nodweddion orgraffyddol, gramadegol a chystrawennol Hen Gymraeg a Chymraeg Canol.
2. Dylai fod yn medru trafod y rhain yn ddeallus, ac amgyffred y modd y mae'r iaith wedi newid drwy'r canrifoedd.
3. Dylai fedru brasegluro sut y datblygodd y Gymraeg o'r Frythoneg.
Disgrifiad cryno
Amcan y modiwl yw cyflwyno Hen Gymraeg a Chymraeg Canol a dangos nodweddion orgraff, ffurfiant a chystrawen yr iaith yn y ddau gyfnod. Gall fod o ddiddordeb i'r sawl sy'n astudio Hanes yr Iaith (CY34320) gan ei fod fel petai yn rhagymadrodd i'r modiwl hwnnw. Canolbwyntir yn bennaf ar astudio nifer o destunau Hen Gymraeg a Chymraeg Canol, ond edrychir hefyd ar ddatlygiad yr iaith o'r Frythoneg ac ar y problemau sy'n codi wrth astudio hanes dechrau ysgrifennu'r Gymraeg. Disgwylir i'r sawl sy'n dilyn y modwil ddarllen yr ymdriniaethau safonol a'r testun(au) gosod Hen Gymraeg.
Nodau
Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC