Cod y Modiwl DA10810  
Teitl y Modiwl AMGYLCHEDD CYMRU  
Blwyddyn Academaidd 2005/2006  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Rhys A Jones  
Semester Semester 2  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Dr Aled P Rowlands  
Manylion y cyrsiau Seminarau / Tiwtorialau   Dau seminar cynhaliol/sesiwn cymhorthfa  
  Eraill   Deg darlith ddyawr  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Asesiad Semester Traethawd 1500 o eiriau gan ymchwilio i thema un or darlithiau yn fwy manwl. Rhoddir dewis o gwestiynau i fyfyrwyr iddynt eu trafod yn y traethawd. Er mair myfyrwyr fydd yn gosod cyflymder y gwaith, gosodir dyddiadau cau terfynol i bob elfen. Bydd polisi safonol y Sefydliad Daearyddiaeth a wyddorau Daear mewn grym. Rhaid cwblau ddwy elfen yr asesiad er mwyn cael marc pasio yn seiliedig ar y perfformiad cyfansawdd.25%
Asesiad Semester Llyfr gwaith syn cynnwys 20 tasg fer (gosodir un ym mhob darlith).75%
Asesiad Ailsefyll Mae aisefyll yn golygu ailgyflwyno elfennau penodol a fethwyd.  100%

Canlyniadau dysgu

Mae'r modiwl yn cyflwyno i fyfyrwyr amryw agweddau ar amgylchedd Cymru yn y cyd-destun ffisegl a dynol, ac yn eu hannog i ystyried a deall yr ymwneud a geir lle y mae'r byd dynol a'r byd ffisegol yn cysylltau a'i gilydd. Gan adeiladu ar hyn bydd yn gwella dealltwriaeth myfyrwyr o'r newidiadau yn y berthynas rhwng pobl a'r amgylchedd yng Nghymru dros amser, a'u gwerthfawrogiad o'r cyswllt rhwng amgylchedd Cymru a'r prosesu sy'n digwydd ar raddfeydd daearyddol eraill. Dysgir y modiwl gan ddefnyddio darlithiau a recordiwyd yn ddigidol y bydd myfyrwyr yn eu clywed yn eu hamser eu hunain. Yn ogystal bydd myfyrwyr yn mynychu nifer o seminarau cynhaliol/sesiynau cymhorthfa.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl yn cyflwyno i fyfyrwyr amryw agweddau ar amgylchedd Cymru yn y cyd-destun ffisegol a dynol, ac yn eu hannog i ystyried a deall yr ymwneud a geir lle y mae'r byd dynol a'r byd ffisegol yn cysylltu a'i gilydd. Gan adeiladau ar hyn bydd yn gwella dealltwriaeth myfyrwyr o'r newidiadau yn y berthynas rhwng pobl a'r amgylchedd yng Nghymru dros amser, a'u gwerthfawrogiad o'r cyswllt rhwng amgylchedd Cymru a'r prosesu sy'n digwydd ar raddfeydd daearyddol eraill. Dysgir y modiwl gan ddefnyddio darlithiau a recordiwyd yn ddigidol y bydd myfyrwyr yn eu clywed yn eu hamser eu hunain. Yn ogystal bydd myfyrwyr yn mynychu nifer o seminarau cynhaliol/sesiynau cymhorthfa.

Mae'r modiwl yn trafod y themau penodol isod:

Esblygiad a ffurf amgylchedd Cymru

  1. Daeareg a geomorffoleg Cymru (Dyfed Elis-Gruffydd)
  2. Cymru yn y cyfnod Cwaternaidd (Aled Rowlands)

Pobl ac amgylchedd yng Nghymru

  1. Poblogi Cymru (Dai Rogers)
  2. Cysylltiadau'r amgylchedd dynol: ichyd yr amgylchedd yng Nghymru (Aled Rowlands)

Economeg ac amgylchedd Cymru

  1. Natur ac economi Cymru (Rhys Jones)
  2. Datblygiad cynaladwy yng Nghymru (Rhys Jones)

Gwarchod amgylchedd Cymru

  1. Tirweddau Gwarchod yng Nghymru (Dyfed Elis-Gruffydd)
  2. Gwleidyddiaeth amgylcheddol ffermydd gwynt yng Nghymru (Dai Rogers)

Dychmygu amgylchedd Cymru

  1. Dychmygu'r Gymru ddiwydiannol (Pyrs Gruffudd)
  2. Dychmygu'r Gymru wledig (Pyrs Gruffudd)

Nod

Amcanion y modiwl hwn yw: (1) cyflwyno daearyddiaeth ffisegol a dynol Cymru i fyfyrwyr; (2) annog myfyrwyr i ddeall yr ymwneud a geir rhwng prosesau ffisegol a dynol yng Nghymru; (3) gwella dealltwriaeth myfyrwyr o'r newidiadau a geir yn y berthynas rhwng pobl a'r amgylchedd yng Nghymru dros amser; (4) hybu dealltwriaeth myfyrwyr o'r cyswllt sydd rhwng amgylchedd Cymru a phrosesau sy'n digwydd ar raddfeydd daearyddol eraill; (5) datblygu sgiliau myfyrwyr cyfrwng Cymraeg mewn TG a thrin gwybodaeth.

Rhestr Ddarllen

Llyfrau
** Testun A Argymhellwyd
Young, S. (1993) The Politics of the Environment Baseline Books ISBN 1897626045
Easterbrook, D.J. (1993) Surface Processes and Landforms Macmillan ISBN 0023312505

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC