Cod y Modiwl DA31020  
Teitl y Modiwl DAEARYDDIAETH GELTAIDD  
Blwyddyn Academaidd 2005/2006  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Rhys A Jones  
Semester Semester 1  
Manylion y cyrsiau Eraill   Case Study. 10 x 2 awr  
  Sesiwn Ymarferol   1 x 2 awr  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Arholiad Semester2 Awr Papur arholiad dwy awr, gyda phapur sydd wedi ei weld gan y myfyrwyr ymlaen llaw. Ateb dau gwestiwn allan o bedwar.75%
Asesiad Semester Aseiniad: Creu tudalennau gwe yn archwilio un agwedd o Ddaearyddiaeth Geltaidd iw cyflwyno yn wythnos 10 or modiwl.25%
Arholiad Ailsefyll Paper dwy awr (heb ei weld ymlaen llaw).100%

Canlyniadau dysgu

Wedi gorffen y modiwl hwn bydd y myfyrwyr yn gallu (1) arddangos dealltwriaeth glir o'r cysyniadau gwahanol sydd wedi eu crybwyll fel modd o esbonio'r hyn ydyw'r Celtaidd; (2) dangos dealltwriaeth o'r cyd-destunau gofodol a hanesyddol sydd yn gysylltiedig gyda'r Celtaidd; (3) disgrifio a gwerthuso'r gwahaniaethau a'r tebygrwydd rhwng y diwylliannol Celtaidd gwahanol; (4) integreiddio themau'r modiwl gyda'r darllen cefndir mewn ffordd synhwyrol; (5) gwerthuso'n feirniadol gwybodaeth o'r cyfryngau a'u cysylltu a themau'r modiwl; (6) cynhyrchu tudalennau gwe o safon uchel.

Nod

Bydd y modiwl yn cynyddu dealltwriaeth y myfyrwyr o brosesau rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol sydd yn effeithio pobl Celtaidd, y tu mewn a thu allan i'r gwledydd Celtaidd. Bydd y modiwl yn cynyddu sgiliau gwerthusol, beirniadol a chreadigol y myfyrwyr. Y mae'r modiwl, yn ogystal, yn ceisio gwella sgiliau Technoleg Gwybodaeth y myfyrwyr.

Cynnwys

Y mae'r modiwl hwn yn cynnig dehongliad eang o ddaearyddiaeth ddiwylliannol a wleidyddol y byd Celtaidd, o safbwynt hanesyddol a chyfoes. Trafodir y themau isod fel rhan o'r modiwl:

  1. Cyflwyniad: dehongliadau academaidd a phoblogaidd o'r byd Celtaidd

  1. Daearyddiaeth Geltaidd yn hen hanes
  2. Y byd Celtaidd a gwladychu mewnol
  3. Treftadaeth a chofio'r Celtaidd

  1. Daearyddiaeth ieithyddol Geltaidd
  2. Y byd Celtaidd a diwylliant boblogaidd
  3. Bydoli'r diwylliant Celtaid

  1. Y twf mewn ymwybyddiaeth wleidyddol Geltaidd
  2. Y byd Celtaidd a daearyddiaeth datganoli

  1. Casgliadau: amseri a lleoli'r Celtaidd

Rhestr Ddarllen

Llyfrau
** Testun A Argymhellwyd
A. Hale a P. Payton (gol) (2000) New Directions in Celtic Studies Gwasg Prifysgol Caerwysg, Caerwysg
D. Harvey, R. Jones, N. McInroy a C. Milligan (gol) (2001) Celtic Geographies: Old Cultures, New Times Routledge, Llundain

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC