Cod y Modiwl | DD10920 | |||||||||||||||||
Teitl y Modiwl | DADANSODDI CYNHYRCHIAD | |||||||||||||||||
Blwyddyn Academaidd | 2005/2006 | |||||||||||||||||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Dr Catrin P Jones | |||||||||||||||||
Semester | Semester 2 | |||||||||||||||||
Staff Eraill sy'n Cyfrannu | Mrs Anwen M Jones, Ms Charmian C Savill, Dr Roger Owen | |||||||||||||||||
Manylion y cyrsiau | Darlithoedd | 10 x 1 awr | ||||||||||||||||
Seminarau / Tiwtorialau | 5 x 1 awr | |||||||||||||||||
Eraill | 5 ymweliad a'r theatr, 3 awr o hyd | |||||||||||||||||
Dulliau Asesu |
|
Yn y darlithoedd, rhoddir cyflwyniad cyffredinol i'r myfyrwyr ynglyn a'r gwahanol elfennau sydd yn gyfrifol am roi ystyr i gynhyrchiad theatraidd. Sonir am rol y dramodydd, yr actor, y cyfarwyddwr, cynllunydd y set, cynllunwyr sain, goleuo a gwisg, rheolwr y cynhyrchiad a'r rheolwr llwyfan, ac yn y blaen. Fe fydd y darlithoedd hefyd yn gyfle i'r darlithydd gynnig cyflwyniad penodol i'r cynyrchiadau hynny y dewisir eu trin fel testunau gosod, ac i amlinellu technegau defnyddiol ar gyfer dadansoddi'r cyfryw gynyrchiadau.
Yn y seminarau, rhoddir cyfle i'r myfyrwyr leisio'u hymateb i'r cynyrchiadau a welwyd ganddynt ac i gymharu'r ymateb hwnnw a sylwadau eu cyd-fyfyrwyr a'r darlithydd. Fe fydd y sesiynau hyn yn baratoad allweddol bwysig ar gyfer aseinadau'r modiwl.
Yn ogystal a chynnig cyflwyniad i'r cynyrchiadau penodol y bydd y myfyrwyr yn ymweld a hwy, bydd y darlithoedd yn gyfle i amlinellu gwahanol swyddogaethau'r gweithwyr yn y theatr:
Problem_solving | Ni fydd y modiwl hwn yn rhoi pwys arbennig ar ddatrys problemau fel y cyfryw, ond fe fydd yn siarsio¿r myfyrwyr i ddatblygu dulliau dadansoddiadol a fydd yn eu galluogi i ddadelfennu cynhyrchiad theatraidd. | ||
Research skills | Gofynnir i¿r myfyrwyr gyflawni rhywfaint o ymchwil personol wrth iddynt ddarganfod mwy am gefndir a chyd-destun y cynyrchiadau gosod, ond ni fydd y modiwl hwn yn rhoi pwys arbennig ar ddatblygu medrau ymchwil fel y cyfryw. | ||
Communication | Bydd pob elfen o¿r modiwl yn hyrwyddo cyfathrebu rhwng y myfyriwr unigol a¿i gyd-fyfyrwyr ac â¿r staff fydd yn cyflwyno¿r deunydd. Bydd aseiniadau¿r modiwl hefyd yn rhoi cryn bwys ar gyfathrebu effeithiol, boed yn unigol neu mewn gr¿p. | ||
Improving own Learning and Performance | Fe fydd y gwahanol elfennau o¿r asesiad ar gyfer y modiwl hwn yn rhoi cyfle a chyfrifoldeb ar y myfyrwyr i geisio gwella'u dysgu a'u perfformiad eu hunain. Trefnwyd elfennau¿r asesiad fel ag i alluogi¿r myfyrwyr i fanteisio ar y broses o gyflwyno deunydd mewn gr¿p wrth iddynt baratoi eu gwaith unigol eu hunain tua diwedd y modiwl. | ||
Team work | Fe rydd yr elfen o asesu cyflwyniad gr¿p gyfle i¿r myfyrwyr feithrin a datblygu¿r medrau hynny sy¿n angenrheidiol wrth gydweithio fel tîm: dosrannu gwaith, cyd-drafod, hunan-ddisgyblaeth a chyfraniad i gywaith a.y.b. | ||
Information Technology | Ni fydd y medrau hyn yn rhan ganolog o¿r modiwl, eithr disgwylir y bydd y myfyrwyr yn datblygu rhywfaint o allu wrth brosesu geiriau wrth gyflwyno aseiniadau ysgrifenedig, a galluoedd i baratoi delweddau pwrpasol ar gyfer cyflwyniad llafar | ||
Personal Development and Career planning | Ni ddatblygir medrau penodol parthed cynllunio gyrfa yn y modiwl. Fel pob modiwl arall, disgwylir y bydd y modiwl hwn yn cyfrannu at ddatblygiad personol y myfyrwyr, ond ni roddir cyfarwyddyd pendant yn y modiwl hwn yngl¿n ag unrhyw faterion yn ymwneud â chofnodi datblygiad personol. | ||
Subject Specific Skills | Ni ddatblygir medrau penodol parthed cynllunio gyrfa yn y modiwl. Fel pob modiwl arall, disgwylir y bydd y modiwl hwn yn cyfrannu at ddatblygiad personol y myfyrwyr, ond ni roddir cyfarwyddyd pendant yn y modiwl hwn yngl¿n ag unrhyw faterion yn ymwneud â chofnodi datblygiad personol. |
Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC