Cod y Modiwl DD19820  
Teitl y Modiwl DADANSODDI PERFFORMIO  
Blwyddyn Academaidd 2005/2006  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Roger Owen  
Semester Semester 1  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Ms Charmian C Savill  
Elfennau Anghymharus PF10320 , PF20110  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   10 x 2 awr  
  Eraill   Sesiynau Gwylio: 10 x 2 awr  
  Eraill   Paratoi ar gyfer Darlithoedd/Sesiynau Gwylio: 40 awr (4 awr yr wythnos)  
  Eraill   Paratoi Sylwebaeth 1: 60 awr  
  Eraill   Paratoi Cyflwyniad Grwp: 60 awr  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Asesiad Semester 1 x Sylwebaeth Ysgrifenedig 2000 o eiriau  50%
Asesiad Semester 1 x Sylwebaeth Lafar mewn Grwp (20 munud)  50%
Asesiad Ailsefyll rhaid ail-gyflwyno'r gwaith a fethwyd: gosodir darn fideo newydd fel testun ar gyfer y rheini syn ail-sefyll100%

Canlyniadau dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:

  1. cymhwyso'r termau a gyflwynir yn ystod y modiwl wrth ddadansoddi darn o berfformiad
  2. arddangos eu gallu i sylwebu'n gryno a deallus ar ddarn o berfformiad
  3. dangos dealltwriaeth sylfaenol o gyd-destun ffurfiol a hanesyddol perfformio
  4. arddangos eu gallu i gydweithio mewn grwp i greu cyflwyniad llafar deallus

Disgrifiad cryno

Bwriad y modiwl hwn fydd cynnig cyflwyniad i theori Perfformio. Fe fydd y darlithoedd yn gosod y syniad o berfformio mewn cyd-destun diwylliannol a chelfyddydol eang, gan awgrymu bod a wnelo perfformio nid yn unig a'r theatr, ond a ffurfiau eraill ar gelfyddyd fyw megis dawns, celfyddyd berfformiadol, a ffurfiau arbennig ar weithredu cymdeithasol megis defodau cymdeithasol, chwaraeon ac ati. Cyflawnir hyn trwy gyflwyno geirfa o dermau dadansoddiadol arbennig i'r myfyrwyr a fydd yn eu galluogi i drafod perfformiadau theatraidd, defodau a chwaraeon o fewn yr un cwmpas beirniadol.
Fe fydd y darlithoedd hefyd yn cynnig perspectif hanesyddol ar waith rhai o'r ffigyrau mwyaf dylanwadol ym myd theatr gorfforol, celfyddyd berfformiadol a er 1945, gan gynnwys Jerzy Grotowski, Eugenio Barba, Marina Abramovic, Pina Bausch, Kazuo Ohno, Robert Wilson, The Wooster Group a'r cwmni Cymraeg Brith Gof.

Nod

Cynigir diwygio DD23420 Dadansoddi Perfformio o ganlyniad i benderfyniad yr Adran i gyflwyno gradd Anrhydedd Gyfun mewn Astudiaethau Perfformio. Yn y gorffennol (er 1996), cyflwynwyd y modiwl Dadansoddi Perfformio ar ddechrau'r ail flwyddyn, am fod y modiwl ar yr adeg honno yn cynnig golwg amgen ar bynciau o fewn Astudiaethau Theatr. Ers hynny, fe ddatblygodd yr Adran ddarpariaeth lwyddiannus iawn mewn Astudiaethau Perfformio trwy gyfrwng y Saesneg, ac mae creu darpariaeth gyffelyb trwy gyfrwng y Gymraeg yn ymestyniad naturiol ar y broses honno. I'r perwyl hwnnw, mae'r modiwl Dadansoddi Perfformio yn allweddol bwysig fel rhagarweiniad i'r pwnc yn ei grynswth, ac felly mae'n gwbl briodol i'w gyflwyno, ar wedd ddiwygiedig, fel modiwl Rhan I.

Cynnwys

Trefn Arfaethedig y Darlithoedd

1. Cyflwyno'r Derminoleg: enghreifftiau cychwynol
2. Theatr, Chwarae, Gemau, Defodau: arolwg o ffurfiau Perfformiadol
3. Tempo a Threfniant Amser mewn Perfformiadau
4. Strategaethau a Thactegau mewn Perfformiadau
5. Senograffiaeth a Thrac Sain mewn Perfformiadau
6. Technegau Sylwebu: ymarfer
7. Grwpiau, timau a Pherfformiadau
8. Cynulleidfaoedd mewn Perfformiadau
9. Beirniaid a Pherfformiadau
10. Technegau Sylwebu: Cyflwyniad Grwp

Sgiliau Modiwl

Rhestr Ddarllen

Llyfrau
** Testun A Argymhellwyd
Schechner, Richard (2002) Performance Studies: an Introduction London; New York: Routledge
Schechner, Richard (1988) Performance Theory (revised and expanded) New York; London: Routledge, 1988
Bial, Henry (ed.) (2004) The Performance Studies Reader London: Routledge
Carlson, M (1996) Performance: a Critical Introduction Routledge
Huxley, M & Witts, N (1996) The Twentieth-Century Performance Reader Routledge
Sontag, S (ed.) (1988) Antonin Artaud: Selected Writings California
Grotowski, J (1975) Towards a Poor Theatre Methuen
Grotowski, J (1975) Towards a Poor Theatre Methuen
Kumiega, J (1985) The Theatre of Grotowski Methuen
Barba, Eugenio, & Savarese, Nicola (1991) A Dictionary of Theatre Anthropology: The Secret Art of the Performer Routledge
Watson, I (1993) Towards a Third Theatre Routledge

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC