Cod y Modiwl DD19920  
Teitl y Modiwl GWEITHIO GYDA'R CORFF  
Blwyddyn Academaidd 2005/2006  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Miss Margaret P Ames  
Semester Semester 1  
Manylion y cyrsiau Eraill   Sesiynau ymarferol profiadol 10 x 2 awr = 20 awr  
  Eraill   Sesiynau technegol ffurfiol 10 x 1 awr = 10 awr  
  Eraill   Paratoi ar gyfer y sesiynau profiadol = 40 awr (4 awr yr wythnos)  
  Eraill   Paratoi ar gyfer sesiynau technegol ffurfiol = 20 awr (2 awr yr wythnos)  
  Eraill   Paratoi cyflwyniad byr = 25 awr  
  Eraill   Paratoi llawlyfr nodiadau ysgrifenedig = 85 awr  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Asesiad Semester 1. Cyfraniad ac ymroddiad yn y dosbarthiadau:  40%
Asesiad Semester Llawlyfr Nodiadau Ysgrifenedig  40%
Asesiad Semester Cyflwyniad Ymarferol Byr (10 munud) o waith corfforol unigol  20%
Asesiad Ailsefyll Os methir y modiwl oherwydd methiant i gyflwyno unrhyw elfen unigol o'r asesiad, neu oherwydd marc isel mewn unrhyw elfen unigol o'r asesiad, rhaid ail-gyflwyno'r gwaith hwnnw. Os fydd mwy nag un elfen wedi'i methu, rhaid ail-gyflwyno'r holl elfennau a fethwyd. Os methir y modiwl oherwydd methu'r elfen o asesu parhaol (1.), rhaid i'r myfyrwyr gyflwyno elfen 3 o'r newydd, ynghyd ag arholiad llafar ar y cyflwyniad hwnnw.100%

Canlyniadau dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr sy'n cyrraedd safon gyffredin fedru:

1. arddangos gallu i baratoi'r corff yn ddiogel a thrylwyr ar gyfer gwaith corfforol mewn dosbarth technegol
2. cynnig prawf o'u datblygiad wrth ddefnyddio medrau corfforol
3. dangos ymwybyddiaeth o strwythur y corff a defnyddio'r ymwybyddiaeth hon mewn modd creadigol a deallus
4. dangos ymwybyddiaeth o'r angen am ddisgyblaeth a pharch tuag at yr ymarferion' y paratoi a'r perfformio

Disgrifiad cryno

Bwriad y cwrs yw paratoi myfyrwyr ar gyfer gwaith corfforol mewn nifer o dechnegau a dulliau gwahanol. Bydd y paratoad hwn yn pwysleisio agwedd broffesiynol a diogel wrth weithio'n gorfforol, ac yn amlygu'r pwysigrwydd o ystyried gweithrediad y corff o safbwynt mewnol (yn ôl y profiad) ac allanol (yn ôl effaith). Nod y gwaith hwn fydd dwyshau ymrwymiad a pherthynas y myfyrwyr gyda'r gwaith perfformiadol yr ymgymerant ag ef.

Bydd yr ymarferion a gyflwynir yn ystod y sesiynau dysgu yn cynnig patrwm gwaith corfforol ond hefyd yn pwysleisio ymwybyddiaeth ddeallusol er mwyn datblygu gallu a rheolaeth gorfforol. Bydd y cwrs yn defnyddio geirfa benodol ac yn cyflwyno termau anatomig wrth drafod rhai darnau o'r corff. Bydd y myfyrwyr yn dysgu am swyddogaethau rhai o'r prif gyhyrau ac yn datblygu medrau dadansoddi gweithredoedd y cyhyrau trwy gyflawni symudiadau syml.

Yn y sesiynau ymarferol 2 awr, fe fydd disgwyliad i'r myfyrwyr ymrwymo i broses o ddarganfod trwy arbrofi. Cyflwynir cyfres o ymarferion i hyrwyddo ymwybyddiaeth y myfyrwyr o'r corff ac i bwysleisio'r broses o newid corfforol a fydd yn digwydd yn ystod cyfnod y modiwl ei hun. Yn ogystal â'r sesiynau hyn, cynhelir seisynau 1 awr o waith technegol. Cyflwynir y sesiynau hyn mewn dull ffurfiol o dan arweiniad tiwtor y modiwl, ac fe fyddant yn cyflwyno ymarferion o'r maes dawns cyfoes, ioga a ffitrwydd. Y nod wrth gyflwyno dau fath gwahanol o sesiwn ymarferol fydd sicrhau bod y gwaith anatomig profiadol yn bwydo dealltwriaeth a medrau'r myfyrwyr yn ystod y sesiynau ffurfiol, a bod y sesiynau hyn yn cynnig cyfle i ddatblygu hyfforddiant personol cyson.

Nod

Bydd y modiwl yn ymgais i egluro egwyddorion anatomig sylfaenol y corff er mwyn hyrwyddo ymarfer diogel a dealltwriaeth dwysach o'r corff tra'n creu gwaith perfformio. Fe fydd yn cynnig rhagarweiniad sylfaenol i waith corfforol ymarferol mewn Astudiaethau Perfformio.
Trwy ddilyn y modiwl bydd myfyrwyr yn dysgu egwyddorion symud sydd yn sicrhau datblygiad deallusol a chorfforol, megis cyfliniad y corff, swyddogaeth cymalau a chyhyrau, cysylltiadau rhwng systemau symudedd corfforol, a phwysigrwydd cynnal ymarfer corfforol sylfaenol yn gyson. Mae'r agwedd hon tuag at baratoi perfformwyr yn seiliedig ar ddisgyblaeth dawns a theatr gorfforol a fydd yn tynnu ar waith amlddisgyblaethol o nifer o ffurfiau megis dawns gyfoes, ioga, anatomi profiadol (`experiential anatomy') a byrfyfyrio.

Cynnwys

Trefn Arfaethedig y Sesiynau:

1a. (2 awr) `Pwy ych chi nawr?' - sesiwn ymarferol yn seiliedig ar ganfyddiad yr unigolyn o'i hunan (oedran, golwg, cerddediad, ymwybyddiaeth o'r gofod a.y.b.)
1b. (1 awr) Gwaith corfforol technegol

2a. Disgyrchiant - sesiwn ymarferol i arbrofi gyda phwysedd y corff tra'n sefyll, eistedd a gorwedd ac i egluro sail cyfliniad y corff.
2b. Gwaith corfforol technegol

3a. Asgwrn y Cefn - sesiwn ymarferol i ddysgu am anatomi `y sgerbwd echelinol; - asgwrn y cefn a'r penglog - mewn perthynas a disgyrchiant.
3b. Gwaith corfforol technegol

4a. Yr Anadl - sesiwn ymarferol i feddwl am yr anadl fel proses sy'n hyrwyddo symud, ynghyd â pheirianwaith anadlu a'i bwysigrwydd i'r system gyfan.
4b. Gwaith corfforol technegol

5a. Paratoi'r corff - sesiwn ymarferol i ddysgu rhai o'r ymarferion wedi'u cynllunio i gynhesu'r cyhyrau a rhyddhau'r cymalau gan bwysleisio ymarfer diogel.
5b. Gwaith corfforol technegol

6a. Gweithio o'r Canol - sesiwn ymarferol a fydd yn datblygu gwaith paratoi'r corff ac yn edrych ar sadrwydd y Canol trwy dargedu cyhyrau dwfn.
6b. Gwaith corfforol technegol

7a. Gweithio gyda Phobl Eraill - sesiwn ymarferol i ddechrau cyfuno'r egwyddorion a gyflwynwyd eisoes. Bydd myfyrwyr yn arsylwi ar eu gweithgarwch corfforol ei gilydd er mwyn dysgu am weithredoedd y cyhyrau.
7b. Gwaith corfforol technegol

8a. Byrfyfyrio - sesiwn ymarferol lle defnyddir yr wybodaeth am egwyddorion Disgyrchiant ac Anadl wrth greu a dadansoddi gwaith symud.
8b. Gwaith corfforol technegol

9a. Byrfyfyrio 2 - Cyfuno'r holl egwyddorion a gyflwynwyd yn ystod y modiwl er mwyn herio¿r unigolyn i symud yn ôl ysgogiadau anatomig.
9b. Gwaith corfforol technegol

10a. `Pwy ych chi nawr?'(2) - sesiwn ymarferol/seminar i ddychwelyd at y gwaith cyntaf a dadansoddi newidiadau o ran agwedd, ymwybyddiaeth a phrofiad.
10b. Gwaith corfforol technegol

Sgiliau Modiwl

Rhestr Ddarllen

Llyfrau
** Testun A Argymhellwyd
Todd, M E (1997) The Thinking Body Dance Books
Olsen, A & McHose, C Body Stories
Blakey, P The Muscle Book
Hamilton, N & Luttgens, K (2002) Kinesiology Scientific Basis of Human Motion McGraw-Hill
Hay, D My Body The Buddhist
Bainbridge-Cohen, B

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC