Cod y Modiwl DD23420  
Teitl y Modiwl DADANSODDI PERFFORMIO  
Blwyddyn Academaidd 2005/2006  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Roger Owen  
Semester Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod  
Blwyddyn nesaf y cynigir 2004  
Semester nesaf y cynigir N/A  
Rhagofynion DD10520 , DD10320 , DD10120 Unrhyw Ddau o'r tri modiwl yma o rhan I  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd    
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Asesiad Semester 1 X SYLWEBAETH YSGRIFENEDIG 3000 EIRIAU  50%
Asesiad Semester 1 X SYLWEBAETH YSGRIFENEDIG 3000 EIRIAU  50%
Asesiad Ailsefyll RHAID AIL GYFLWYNO'R GWAITH: GOSODIR DARN VIDEO NEWYDD   

Canlyniadau dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:

Disgrifiad cryno

Bwriad y modiwl hwn fydd cynnig cyflwyniad i theori Perfformio. Fe fydd y darlithoedd yn dadansoddi'r syniad o berfformio, ac yn ystyried pa rol yn union sydd i berfformio mewn cyflwyniad theatraidd yn ogystal ag mewn nifer o ddulliau perfformiadol eraill nad ydynt o reidrwydd yn deillio o'r theatr. Gwneir hynny trwy gyflwyno geirfa o dermau dadansoddiadol arbennig i'r myfyrwyr a fydd eu galluogi i drafod perfformiadau Theatraidd, Defodau a Chwaraeon o fewn yr un cwmpas beirniadol.
Fe fydd y darlithoedd hefyd yn cynnig perspectif hanesyddol ar "Berfformio" fel ffurf annibynnol, yn enwedig fel y datblygwyd ef ers 1945. Gwneir hynny trwy ddisgrifio gwaith nifer o ddamcaniaethwyr a gweithredwyr blaenllaw fel Jerzy Grotowski, Eugenio Barba, Marina Abramovic, Pina Bausch, Kazuo Ohno, Robert Wilson, The Wooster Group a'r cwmni Cymraeg Brith Gof.

Cynnwys

Trefn Arfaethedig y Darlithoedd

  1. Cyflwyno'r Derminoleg: enghreifftiau cychwynol
  2. Theatr, Chwarae, Gemau, Defodau: arolwg o ffurfiau Perfformiadol
  3. Tempo a Threfniant Amser mewn Perfformiadau
  4. Strategaethau a Thactegau mewn Perfformiadau
  5. Senograffiaeth a Thrac Sain mewn Perfformiadau
  6. Technegau Sylwebu: ymarfer
  7. Grwpiau, timau a Pherfformiadau
  8. Cynulleidfaoedd mewn Perfformiadau
  9. Beirniaid a Pherfformiadau
  10. Technegau Sylwebu: 'Ysgrifennu Perfformiadol'

Sgiliau Modiwl

Rhestr Ddarllen

Llyfrau
Schechner, Richard, (2002) Performance Studies: an Introduction Routledge
Schechner, Richard (1998) Performance Theory Routledge
Bial, Henry (ed) (2004) The Performance Studies Reader Routledge
Carlson, M (1996) Performance : A Critical Introduction Routledge
Huxley, M and Wits, N (1996) The Twentieth Century Performance Reader Routledge
Sontag, S (gol) (1988) Antonin Artaud: Selected Writings
Grotowski, J (1975) Towards a Poor Theatre Methuen
Kumiega, J (1985) The Theatre of Grotowski Methuen
Barba, E (1986) Beyond the Floating Islands PAJ
Watson, I (1993) Towards a Third Theatre Routledge
Sherbon, E (1982) On the Count of One: Modern Dance Methods Mayfield
McAuley, (gol.) (1992) The Documentation and Notation of Theatrical Performance
Kirby, M (gol.) (1974) The New theatre: Performance Documentation

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 5 FfCChC