Canlyniadau dysgu
Erbyn cwblhau`r modiwl hwn, fe ddylai myfyriwr/wraig sy`n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni`r canlynol:
-
cydweithio fel rhan o grwp creadigol i sylweddoli prosiect ymarferol i bobl ifainc.
-
paratoi deunyddiau perthnasol fel ffordd o gefnogi`r prosiect ymarferol.
-
arddangos ymwybyddiaeth o'r maes Theatr Mewn Addysg, ei swyddogiaeth, ei dechnegau perfformio amrywiol a'i effaith, trwy draethawd ysgrifenedig
-
arddangos sgiliau dehongli a pherfformio arbennig ar gyfer Theatr Mewn Addysg, gan gymryd cyfrifoldeb am benderfyniadau creadigol ac addysgiadol yn eu cywaith ymarferol
-
Gwerthuso eu gwaith ymarferol ac asesu priodolrwydd eu cywaith, ar lafar ac ar bapur
-
trefnu ei g/waith ymchwil a sgriptio, a chadw nodiadau manwl neu gofnod ysgrifenedig o'r gwaith archwilio a pharatoi'r cywaith ymarferol, sy'n amlygu ei c/gyfraniad personol i'r cywaith a'i gwerthusiad ohono.
Disgrifiad cryno
Yn y modiwl hwn bydd myfyrwyr yn cael cyfle i deithio rhaglen Theatr mewn Addysg o gwmpas ysgolion Cynradd neu Uwchradd. Pwysleisir cydweithrediad grwp yn y modiwl a rhoddir cyfleoedd i'r unigolion ymgymryd a tasgiau fel cyfarwyddo, perfformio, ymchwilio, dyfeisio, sgriptio, cynllunio gwisgoedd a set, gwaith cyswllt gydag ysgolion a.y.b.
Nod
Nod yr Adran wrth gyflwyno`r modiwl hwn yw:
- edrych ar y diwydiant addysg ac archwilio ei natur, ei swyddogaeth a`i effaith
- ystyried Theatr Mewn Addysg fel ffenomen theatraidd, fel amlygiad o ddiwylliant ac fel cangen o astudiaethau perfformio
- darganfod pwysigrwydd a pherthnasedd y fath fenter yng Nghymru
- archwilio amlygiadau gwahanol o`r weithred theatraidd a chofnodi`r cysylltiadau a`r gwrthbwynt rhwng theatr, addysg, drama, perfformio, gwleidyddiaeth a chymdeithaseg
Cynnwys
Byddwch yn mynuchu nifer o ddarlithoedd ac yn creu prosiect ymarferol. Er mwyn creu'r prosiect hwnnw byddwch yn ymweld ag ysgolion o bob math, ac os yn bosibl fe fydd cyfleoedd i fynychu perfformiadau byw. yn ystod cyfnod y prosiect disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio a chreu eu gwaith yn drylwyr gan gadw cofnod o'r broses. Ceir cyfnod gwaith yn ymarfer a pherfformio yn dilyn hynny.
Fydd y darlithoedd/gweithdai yn cynnwys y sesiynau canlynol:
Hanes Theatr Mewn Addysg
Drama Mewn Addysg a theatr Mewn Addysg
Dulliau a Fframweithiau Theatr Mewn Addysg (i)
Dulliau a Fframweithiau Theatr Mewn Addysg (ii)
Ystyr(on) y Perfformiad: Dadansoddi a Gwerthuso
Theatr Mewn Addysg a Theatr i Bobl Ifainc
Agweddau Ewropeaidd
Beth am y Dyfodol?
Rhestr Ddarllen
Llyfrau
** Testun A Argymhellwyd
Theatr Mewn Addysg
Llawlyfr ar gael o'r syddfa, sydd yn cynnwys nodiadau o gynadleddau ac erthyglau priodol o wahanol misolion
** Hanfodol
Jackson, T. (ed) (1993) Learning Through Theatre
Routledge
Oddey, A (2002) Devising
Routledge
Taylor, A-M (ed) (1997) Staging Wales
Gwasg Prifysgol Cymru
** Argymhellir - Cefndir
Schweitzer, P (ed) (1980) Theatre-In-Education: FourJunior Porgrammes
Boal, A. (2002) Games for Actors and Non-Actors
Routledge
Hodgson, J (ed) (1977) The Uses of Drama
O'Toole, J (1976) Theatre in Education
Redington, C (ed) (1980) Six Theatre-in-Education Programmes
Schweitzer, P (ed) (1980) Theatre-In-Education: Five Infant Programmes
Redington, C (1983) Can Theatre Teach?
Johnson, L & O'Neill, C (eds) (1984) Dorothy Heathcote: Collected Writings on Education and Drama
Edwards, D. (1998) The Shakespeare Factor; Moon River; The Deal; David
Schweitzer, P (ed) (1980) Theatre-In-Education: Four Secondary Programmes
Wagner, J B (ed) (1999) Dorothy Heathcote: Drama as a Learning Medium
Nodau
Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC