Cod y Modiwl DD33720  
Teitl y Modiwl AMGYLCHFYD Y CYNHYRCHIAD  
Blwyddyn Academaidd 2005/2006  
Cyd-gysylltydd y Modiwl To Be Arranged  
Semester Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod  
Blwyddyn nesaf y cynigir N/A  
Semester nesaf y cynigir N/A  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Yr Athro Mike Pearson  
Rhagofynion Cwblhau Rhan un yn llwyddianus, ,  
Cyd-Ofynion DD24220  
Elfennau Anghymharus I fyfyrwyr Anrhydedd Sengl yn unig  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   10 x 1 awr  
  Seminarau / Tiwtorialau   3 x 1 awr  
  Eraill   Cyfnod arsylwi 7-14 days  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Asesiad Semester Traethodau: TRAETHAWD HIR (10,000)100%
Further details Am wybodaeth ynglyn a dyddiadau cau gwaith cwrs, cyfeiriwch at dudalennau we yr Adran ar http://www.aber.ac.uk/tfts/duedates.shtml  

Canlyniadau dysgu

Erbyn cwblhau`r modiwl hwn, fe ddylai myfyriwr/wraig sy`n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni`r canlynol:

- dadansoddi eu profiad ymarferol gan werthuso`r gwaith a gyflawnwyd ganddynt
- profi`u dealltwriaeth o fethodoleg dadansoddiadol gymwys ar gyfer ymdrin a`u profiadau ymarferol
- gwerthuso`r sgiliau ymarferol a brofwyd ganddynt yn yr ail flwyddyn, a`u cymhwyso i`r drafodaeth ar y gwaith a gyflawnwyd yn eu cyfnod arsylwi gyda chwmni proffesiynol
- ymateb yn feirniadol i`r gwaith ymarferol a gyflawnwyd ganddynt gan amlygu hynny mewn traethawd hir

Disgrifiad cryno

Mae`r modiwl yn galluogi myfyrwyr Anrhydedd Sengl i fyfyrio ar, a dadansoddi eu profiad o`r gwaith ymarferol a wnaethpwyd ganddynt yn ystod eu hail semester. Rhoddir gyfle i fyfyrwyr fynd at gwmni proffesiynol am gyfnod o wythnos i bythefnos gan arsylwi ar eu gwaith. Bydd disgwyl iddynt gadw cofnod manwl o`u profiadau ar ffurf ysgrifenedig.
Gall y traethawd gyfeirio at waith perfformio, cyfarwyddo neu ddylunio a ddilynwyd yn y modiwlau canlynol: Dadnsoddi P[erfformio, Cyflwyniad i Berfformio, Cyflwyniad i Ddylunio. Hefyd, yn amlwg, fe all y traethawd ddadansoddi`r broses o greu cynhyrchaid neu o weithio gyda chwmni proffesiynol mewn rhyw fodd. Yn ystod y cwrs bydd myfyrwyr yn strwythuro traethawd hir yn drefnus, yn cymhwyso a chyfathrebu gwybodaeth a phrofiad personol yn ysgrifenedig ac ar lafar, ac yn archwilio cores-doriad o gysyniadau sy`n ymwneud a meysydd penodol y gwahanol fodiwlau ymarferol a`r profiad galwedigaethol.

Nod

Ein nod wrth gyflwyno`r modiwl hwn yw eich galluogi i wneud y canlynol:

- annog myfyrwyr i ol-fyfyrio ar eu gwaith ymarferol a gyflwynwyd ganddynt yn ystod Rhan 2 o`u cwrs yn yr Adran
- darparu profiad o waith ymarferol gyda chwmni proffesiynol
- galluogi`r myfyrwyr i gymharu`r profiad proffesiynol hwnnw a`r egwyddorion a gyflwynwyd yn ystod y cwrs gradd

Rhestr Ddarllen

Llyfrau
I'w drefnu'n unigol yn ol natur y traethawd a'r profiad gwaith.

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC