Module Identifier |
DD39120 |
Module Title |
CYFLWYNO YSTEM YMDRECH LABAN |
Academic Year |
2005/2006 |
Co-ordinator |
Miss Margaret P Ames |
Semester |
Semester 1 |
Course delivery |
Other | Sesiynau ymarferol profiadol 10 x 2 awr |
Assessment |
Assessment Type | Assessment Length/Details | Proportion |
Semester Assessment | Asesiad parhaol | 50% |
Semester Assessment | Cofnod Ysgrifenegig (3,000 o eiriau) | 50% |
Supplementary Assessment | Er bod y gallu i ddeall effaith y corff mewn unrhyw sefyllfa gyda phobl eraill yn werthfawr iawn, ni roddir unrhyw gyfarwyddyd penodol ynglyn a datblygiad personol a chynllunio gyrfa: yn y modiwl. | 100% |
|
Learning outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr sy'n cyrraedd safon gyffredin fedru:
-
arddangos dealltwriaeth o egwyddorion System Ymdrech Rudolf Laban
-
arddangos dealltwriaeth o eirfa'r System Ymdrech
-
arddangos gallu i gymhwyso'r eirfa gorfforol er mwyn deall agweddau o'u hunain a phobl eraill
-
arddangos ymwybyddiaeth o strwythur y corff, ynghyd a'r cydblethiad rhwng y corff a chyflwr emosiynol yr unigolyn
-
arddangos gallu i ddefnyddio'r 'Ymdrechion' i ddyfeisio, hwyluso a newid gwaith creadigol
Content
Trefn Arfaethedig y Sesiynau:
-
Sesiwn ymarferol/seminar i gyflwyno Rudolf Laban, ei hanes a'i waith
-
Dod yn gyfarwydd gyda'r eirfa newydd - cyflwyno 'Llif'
-
Cyflwyno 'Gofod'
-
Cyflwyno 'Pwysedd'
-
Cyflwyno 'Amser'
-
Ystyried tueddiadau personol trwy brofi a thrafod
-
Cyfuno'r eirfa a sylwadaeth
-
Teimlo ac ymateb - arbofi gyda 'Cyweiriad a Chamgymhariad'
-
'Cyfuno Ymdrechion' - sesiwn i gyflwyno'r system ar waith ac i ddangos ei chyfanrwydd a'i chymlethdod.
-
Parhau gyda chyfarwyddo corfforol ac arbrofi gyda chyfryngau eraill megis cerddoriaeth, testun a delwedd
Brief description
Trwy waith ymarferol bydd y myfyrwyr yn dysgu am y 4 'Ymdrech' gwahanol ac yn datblygu'r gallu i amgyffred eu defnydd yn y corff. Bydd y gwaith yn cynnwys arbrofi trwy symud, ystyried gweithredoedd syml beunyddiol, a sylwadaeth ar symudiadau gan bobl eraill.
Wrth ddod yn gyfarwydd a'r eirfa newydd a'i defnydd bydd y myfyrwyr yn deall mwy am bwysigrwydd cyfathrebu trwy gyfrwng y corff, ynghyd a natur datblygiad eu cyrff unigol.
Yn ystod sesiynau dysgu'r modiwl, rhoddir pwyslais ar gyflawni a gwylio gwaith byrfyfyr: bydd un grwp o fyfyrwyr yn gweithredu'n gorfforol tra bod grwp arall yn eu gwylio a'u dadansoddi. Bydd pob sesiwn yn pwysleisio'r angen i fyfyrwyr gefnogi'u proses ei gilydd. At hynny, disgwylir i'r myfyrwyr ddefnyddio termau dadansoddiadol Laban wrth iddynt sylwi a chyfeirio at symudaidau gan bobl eraill o'u cwmpas mewn bywyd
Module Skills
Notes
This module is at CQFW Level 6