Cod y Modiwl GC10720  
Teitl y Modiwl CYFLWYNIAD I WYDDELEG MODERN A'I LLENYDDIAETH 2  
Blwyddyn Academaidd 2005/2006  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Ian Hughes  
Semester Semester 2  
Rhagofynion GC10620  
Elfennau Anghymharus IR11220 , IR10710  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   33 awr (3 gwers yr wythnos)  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Arholiad Semester2 Awr  70%
Asesiad Semester Adroddiad Sector Gr P:  10%
Asesiad Semester Asesiad Parhaus:  20%

Canlyniadau dysgu

Ar ôl dilyn y modiwl hwn:

1. Byddwch yn gallu defnyddio'r enw yn y cyflwr genidol.

2. Byddwch yn gallu defnyddio ffurfiau personol ar yr arddodiaid.

3. Byddwch yn gallu defnyddio'r ferf "bod" yn yr Wyddeleg yn yr amser presennol arferiadol, yr amser gorffennol arferiadol, a'r modd amodol.

4. Byddwch yn gallu defnyddio'r ferf reolaidd a'r ferf afreolaidd yn yr amser presennol arferiadol, yr amser dyfodol, a'r modd amodol.

5. Byddwch yn gallu defnyddio graddau cymhariaeth yr ansoddair.

6. Byddwch yn gallu cynnal sgwrs fwy estynedig yn yr Wyddeleg gan ddefnyddio'r pwyntiau gramadegol a chystrawennol uchod.

7. Byddwch yn gwybod am rai o lenorion pwysig yr Wyddeleg yn ystod yr ugeinfed ganrif.

Disgrifiad cryno

Cyflwynir teithi sylfaenol Gwyddeleg Modern gan bwysleisio ynganiad Conamara, yn ogystal â chyflwyno llenyddiaeth yr 20g

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC