| Cod y Modiwl |
HC34230 |
| Teitl y Modiwl |
HUNANIAETHAU CENEDLAETHOL YN YNYSOEDD PRYDAIN 1801-1914 |
| Blwyddyn Academaidd |
2005/2006 |
| Cyd-gysylltydd y Modiwl |
Dr Paul B O'Leary |
| Semester |
Semester 1 |
| Elfennau Anghymharus |
CF34220 , MW34220 , WH34230 |
| Manylion y cyrsiau |
Darlithoedd | |
| |
Seminarau / Tiwtorialau | |
| Dulliau Asesu |
| Assessment Type | Assessment Length/Details | Proportion |
| Arholiad Semester | 3 Awr | 60% |
| Asesiad Semester | 2 TRAETHAWD O 2,500 O EIRIAU | 40% |
|
Canlyniadau dysgu
Ar ol cwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fod yn gallu:
Dangos eu bod yn gyfarwydd a chorff sylweddol o wybodaeth hanesyddol, sy'n gysylltiedig a ffurfio hunaniaethau cenedlaethol ym Mhrydain ac Iwerddon yn y cyfnod 1800-1914.
Ystyried yn feirniadol ffurfiad hunaniaethau cenedlaethol y pedair cenedl yn Ynysoedd Prydain, a'u perthynas a hunaniaeth Brydeinig sy'n pontio trostynt.
Dangos eu bod yn gyfarwydd ag ystod eang o dechnegau hanesyddol, sy'n berthnasol i'r astudiaeth o hunaniaethau cenedlaethol yn y gorffennol.
Casglu a dadansoddi eitemau priodol o dystiolaeth hanesyddol.
Darllen, dadansoddi, ac ystyried yn feirniadol destunau eilaidd.
Disgrifiad cryno
Nod y modiwl hwn yw archwilio datblygiad hunaniaethau cenedlaethol yn Ynysoedd Prydain wedi'r Uno rhwng Prydain ac Iwerddon yn 1801. Ymdrinir a themau penodol yng ngoleuni gwaith damcaniaethol ar genhedloedd fel 'cymunedau'r dychymyg'. Ymhlith y themau dan ystyriaeth fydd: y modd y crewyd hunaniaeth Brydeinig a'r tyndra rhyngddi ag hunaniaethau cenedlaethol eraill; dyfeisio 'traddodiadau' newydd; rhyfel ac imperialaeth boblogaidd; agweddau tuag at leiafrifoedd a gender; ac hunaniaeth genedlaethol mewn perthynas a gweithgareddau hamdden, megis chwaraeon. Trafodir yn ogystal y drafodaeth ddiweddar ar natur 'hanes Prydain'.
Rhestr Ddarllen
Llyfrau
** Testun A Argymhellwyd
Linda Colley Britons: Forging the Nation 1707-1837
Keith Robbins Nineteenth Century Britain
Nodau
Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC