Cod y Modiwl HC35230  
Teitl y Modiwl TWF CYMDEITHAS DREFOL: CYMRU 1750 - 2000  
Blwyddyn Academaidd 2005/2006  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Owen G Roberts  
Semester Semester 2  
Elfennau Anghymharus WH35230 , CF35220 , MW35220  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd    
  Seminarau / Tiwtorialau    
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Arholiad Semester3 Awr ARHOLIAD CAEEDIG, AC IDDO 3 CHWESTIWN  60%
Asesiad Semester 2 TRAETHAWD 2,500 O EIRIAU  40%

Canlyniadau dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
Disgrifio ac asesu patrymau demograffig a threfoli yng Nghymru dros gyfnod o 250 mlynedd

Beirniadu ac asesu canlyniadau cymdeithasol a gwleidyddol trefoli

Lleoli profiadau trefol o fewn cyd-destun ehangach hanes modern Cymru a Phrydain;

Trafod dadleuon hanesyddol gyda hyder cynyddol trwy waith ysgrifenedig a llafar;

Dadansoddi tystiolaeth wreiddiol mewn ffordd sy'r gynyddol feirniadol a deallus.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr astudio un o'r brif ffactorau sydd wedi bod yn gyfrifol am newid cymdeithasol yn y cyfnod modern ? sef trefoli. Asesir y rhesymau dros dwf y trefi, ac astudir patrymau demograffig. Yna bydd y cwrs yn canolbwyntio ar ganlyniadau cymdeithasol trefoli. Beirniadir y dadansoddiad traddodiadol o gymunedau diwydiannol cynnar y de fel `Cymunedau ar y Ffin?, ac astudir digwyddiadau syfrdanol megis Terfysg Merthyr. Astudir trefoli mwy eang ail hanner Oes Fictoria mewn dyfnder. Bydd seminarau yn trafod amrywiol agweddau o fywyd trefol ? megis iechyd cyhoeddus, trosedd a moesoldeb, mewnfudo, rhaniadau daearyddol, a phatrymau hamdden ? a chymherir gwahanol drefi. Caiff datblygiad hunaniaeth a syniadaeth sifig sylw teilwng. Bydd rhan ola'r cwrs yn olrhain profiad trefol yr ugeinfed ganrif, gan astudio'r dirwasgiad, diwygio tai, cynllunio trefol, ail-lunio'r trefi ar ol y rhyfel, ac ail-ddatblygiad canol dinas yn y cyfnod cyfoes. Rhoddir cynnwys y modiwl o fewn cyd-destun syniadaethol sydd wedi datblygu o ganlyniad i ddatblygiad hanes trefol fel is-bwnc pwysig yn ystod y deugain mlynedd diwethaf.

Nod

Bydd y modiwl yn cynnig i fyfyrwyr i cyfle i astudio datblygiad cymdeithas yng Nghymru dros gyfnod hir, gan olrhain y trawsnewidiad o gymdeithas wledig i un trefol. Bydd myfyrwyr yn medru astudio sgil-effeithiau cymdeithasol y newidiadau hyn

Cynnwys

1. Rhagarweiniad
2. Theori ac ymarferiad hanes trefol
3. Trefi Cymreig a phatrymau demograffig o'r cyfnod modern cynnar
4. Datblygiad trefi baddon
5. Y trefi diwydiannol cynnar ? yr economi a'r `Gymdeithas ar y Ffin?
6. Y gymdeithas ar y ffin ac anghydfod gwleidyddol a chymdeithasol, 1800-1850
7. Trefoli yn y de a datblygiad y cymoedd
8. Trefoli yn y gogledd
9. Trosedd a moesoldeb yn y dre
10. Iechyd cyhoeddus a datblygiad rhwydweithiau peirianyddol
11. Twf hunaniaeth a balchder ddinesig
12. Mewnfudo a chymeriad ethnig y trefi
13. Hamdden torfol a diwylliant, 1870-1939
14. Trefi bach a diboblogi yng nghefn gwlad
15. Tai, cynllunio, a diwygio cymdeithasol
16. Y Cymry trefol oddi cartref ? Llundain, Lerpwl ac America
17. Ail-adeiladu wedi'r rhyfel
18. Y rhaniad trefol-gwledig, a diffinio hunaniaeth Gymreig

Sgiliau Modiwl

Problem_solving Disgwylir i?r myfyrwyr nodi ac ymateb i broblemau hanesyddol a gwneud ymchwil addas cyn y seminarau a chyn ysgrifennu?r traethodau. Asesir y fedr hon fel rhan o?r traethodau.  
Research skills Datblygir hyn trwy?r ymchwil bydd y myfyrwyr yn gwneud cyn y seminarau a?r traethodau. Asesir y fedr hon fel rhan o?r traethodau.  
Communication Datblygir y fedr hon trwy gyfrwng y ddau draethawd a thrwy drafodaethau?r seminar. Disgwylir, yn ogystal, i?r myfyrwyr wneud cyflwyniadau yn y seminarau. Asesir y fedr hon fel rhan o?r trathodau. Ni asesir y cyflwyniadau ond rhoddir ymateb i?r myfyrwyr.  
Improving own Learning and Performance Bydd y traethodau yn cael eu dychwelyd mewn cyfweliadau traethawd a nodir camgymeriadau yngl?n ag arddull a chynnwys. Anogir y myfyrwyr i wella eu sgiliau ysgrifenedig a?u sgiliau cyfathrebu. Ni asesir y fedr hon.  
Team work Bydd y myfyrwyr yn gweithio gyda?i gilydd cyn, ac yn ystod, y seminarau.  
Information Technology Anogir y myfyrwyr i chwilio am ddeunydd ar y we ac oddi ar CD-Rom, ac i?w ddefnyddio mewn ffordd addas. Hefyd, anogir y myfyrwyr i ddefnyddio prosesydd geiriau wrth greu eu gwaith. Ni fydd asesu ffurfiol o?r sgiliau hyn.  
Application of Number Cyflwynir y myfyrwyr i rai ystadegau ynglyn a mudo, newid demograffig a datblygiad daearyddol trefi. Asesir y gallu i ddefnyddio?r wybodaeth yma mewn ffordd priodol fel rhan o?r traethodau lle mae?n addas.  
Personal Development and Career planning Bydd y modiwl hwn yn datblygu sgiliau ysgrifenedig a llafar. Bydd yn helpu?r myfyrwyr i ddatblygu sgiliau pwysig eraill, gan gynnwys gwneud ymchwil, asesu gwybodaeth ac ysgrifennu mewn ffordd ffurfiol.  
Subject Specific Skills Bydd y modiwl yn datblygu gallu?r myfyrwyr i gasglu tystiolaeth hanesyddol o ystod y ffynonellau, a?i gymhathu i ddadleuon craff o fewn cyd-destun syniadaethol.  

Rhestr Ddarllen

Llyfrau
** Testun A Argymhellwyd
P. O?Leary (2000) Immigration and Integration: the Irish in Wales
(2001-2) The Cambridge Urban History of Britain, cyfrolau 2 a 3
Asa Briggs (1963) Victorian Cities
C. Williams (1998) Capitalism, Community and Conflict
G. A. Williams (1978) The Merthyr Rising
R. Williams (1973) The Country and the City
Andy Croll (2000) Civilizing the Urban
John Davies (1980) Cardiff and the Marquesses of Bute
M. J. Fisk (1996) Housing in the Rhondda
W. E. Minchinton (1969) Industrial South Wales
Harold Carter (1965) The Towns of Wales
P. Lord (1998) The Visual Culture of Wales: Industrial Society
P. Ellis Jones (1983) Bangor: 1883-1983
Ieuan G. Jones (1987) Communities
D. J. V. Jones (1992) Crime in 19th Century Wales
Derek Fraser (1990) Cities, Class and Communication
Dyos and Wolff (1973) The Victorian City 2 gyf.
Martin Daunton (1977) Coal Metropolis. Cardiff 1870-1914

Cyfnodolyns
Llafur
Urban History
Urban History Yearbook
Journal of Hisorical Geography
Chylchgrawn Hanes Cymru

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC