Cod y Modiwl | RG25520 | |||||||||||
Teitl y Modiwl | PROSIECT | |||||||||||
Blwyddyn Academaidd | 2005/2006 | |||||||||||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Dr Graham P Harris | |||||||||||
Semester | Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester) | |||||||||||
Staff Eraill sy'n Cyfrannu | Dr Iwan G Owen, Mr Penri James | |||||||||||
Dulliau Asesu |
|
Canlyniad 1
Llunio prosiect addas gan ddefnyddio fformat adroddiad technegol.
Meini Prawf Perfformiad
a. Dadansoddir y pwnc o dan isadrannau addas mewn perthynas a theitl y prosiect.
b. Dilynir y fformat ar gyfer cyflwyno'r prosiect.
Amrediad:
Yn ddibynnol ar y pwnc o dan sylw
Isadrannau addas: tudalen deitl, crynodeb, cydnabyddiaethau, tabl cynnwys, cyflwyniad, arolwg o lenyddiaeth, deunyddiau a dulliau (os yn gymwys), canlyniadau (os yn gymwys), trafodaeth, casgliadau, argymhellion, atodiadau, llyfryddiaeth.
Fformat: 60 tudalen ar y mwyaf ac eithrio deunydd ar wahan i'r testun. Wedi ei deipio a'i rwymo. Tri chopi.
Canlyniad 2
Darparu cyflwyniad a rhesymau dros astudio'r pwnc.
Meini Prawf Perfformiad
a. Mae'r cyflwyniad cyffredinol i'r pwnc yn rhoi cefndir i'r pwnc sydd o dan astudiaeth.
b. Dynodir arwyddocad a chyd-destun y pwnc o fewn y diwydiant.
c. Cyflwynir amcanion y prosiect.
ch. Nodir a chyflwynir cyfyngiadau'r prosiect/maes yr astudiaeth.
Amrediad:
Yn ddibynnol ar y pwnc o dan sylw.
Canlyniad 3
Ymgymryd ag arolwg o lenyddiaeth
Meini Prawf Perfformiad
a. Dewisir a chynhwysir gwybodaeth berthnasol yn yr arolwg.
b. Cyflwynir amrediad o ffynonellau gwybodaeth sy'n cwmpasu'r pwnc drwyddo draw.
c. Bydd myfyrwyr yn casglu, dethol, dehongli a chrynhoi gwybodaeth yn eu geiriau eu hunain.
ch. Dyfynnir cyfeiriadau at ddeunydd cyhoeddedig yn briodol yn y testun.
Amrediad:
Yn ddibynnol ar y pwnc o dan sylw.
Ffynonellau Gwybodaeth: llyfrau, erthyglau cyfnodolion, y wasg, cysylltiadau personol, deunyddiau cyhoeddedig eraill, canlyniadau o archwiliadau (lle bo'n gymwys).
Cyfeirnodi: System Harvard
Canlyniad 4
Defnyddio methodoleg briodol (os yn gymwys)
Meini Prawf Perfformiad:
a. Cyflwynir y fethodoleg a gellid ei hailadrodd gan weithwyr eraill.
b. Defnyddir methodoleg addas/gywir o fewn y prosiect.
c. Cofnodir manylion am offer/techneg arolwg.
Amrediad:
Methodoleg addas/gywir: yn ddibynnol ar y pwnc.
Offer/techneg arolwg: yn ddibynnol ar y pwnc
Mesur yn ol y system metrig
Bydd prosiect y flwyddyn olaf yn cymryd ffurf astudiaeth archwiliadol (treial, arbrawf neu arolwg) neu astudiaeth achos/astudiaeth dichonoldeb estynedig o broblem benodol neu bwnc. Bydd angen archwilio a gwerthuso problem benodol/pwnc trwy adfer gwybodaeth o sawl ffynhonnell gwahanol.
Mae prosiect archwiliadol yn gofyn am gynllunio systemau dadansoddi, a gwerthuso data arbrofol a gesglir o dreialon, arbrofion, arolygon neu astudiaethau achos.
Cyflwynir y prosiect fel adroddiad technegol. Bydd yn croes-gysylltu ac yn integreiddio gwybodaeth a sgiliau a ddysgwyd mewn sawl modiwl cwrs. Bydd y prosiect yn datblygu sgiliau trefnu, adfer gwybodaeth, ysgrifennu adroddiadau technegol, gwerthuso a dehongli data o wahanol ffynonellau, datrys problemau, gwneud penderfyniadau, a ffurfio casgliadau ac argymhellion.
Mae'r modiwl hwn ar Lefel 5 FfCChC