Cod y Modiwl AD10510  
Teitl y Modiwl CYFLWYNIAD I NODWEDDION IAITH DDYNOL  
Blwyddyn Academaidd 2006/2007  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Mr Robert Morris Jones  
Semester Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod  
Blwyddyn nesaf y cynigir N/A  
Semester nesaf y cynigir N/A  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Mrs Ffion M Hoare  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   10 Hours.  
  Seminarau / Tiwtorialau   5 Hours.  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Arholiad Semester2 Awr Arholiad diwedd y semestr  60%
Asesiad Semester Traethawd 2,000 o eiriau  40%

Canlyniadau dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru dangos eu bod yn deall ystrwythur ieithyddol ar lefel disgrifiadol

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru dangos eu bod yn deall egwyddorion a dulliau ieithyddiaeth ddisgrifiadol

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru dangos eu bod yn gallu defnyddio'r dealltwriaeth uchod i drafod materion iaith, yn enwedig ym meysydd Addysg

Disgrifiad cryno

Iaith yw un o rinweddau amlycaf bodau dynol, a phwrpas y modiwl hwn yw gwerthfawrogi ei nodweddion sylfaenol. Trwy ddefnyddio Ieithyddiaeth fodern, disgrifir ystrwythur iaith ac esbonir y dulliau sylfaenol o ddadansoddi ystrwythur. Yn sgil y cyflwyniad, bydd cyfle i drafod ymagweddiadau tuag at iaith gan gynnwys y rhai sy'n seiliedig ar gywirdeb. Mae'r modiwl hwn yn cyd-fynd a diddordebau mewn cymdeithaseg iaith a Ieithyddiaeth gyfrifiadurol. Hefyd, mae'n gosod y sylfaeni ar gyfer dilyn modiwlau ar iaith sydd yn fwy arbenigol a manwl ar lefel 2 a 3.

Cynnwys

* Iaith a gwybodaeth ieithyddol

* Acennion a'u seiniau

* Seiniau dros y segmentau

* Systemau ysgrifennu

* Geiriau a'u categoriau

* Cyfuno geiriau: creadigrwydd ieithyddol

* Geiriau a'u hystyron

* Ystyr a chyd-destun ehangach iaith

* Amrywiaeth mewn iaith

* Iaith ddynol a chyfathrebu anifeiliaid.

Rhestr Ddarllen

Darllen Rhagarweiniols
** Argymhellir - Cefndir
THORNE, D A (1985) Cyflwyniad i Astudio'r Iaith Gymraeg Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru
TRASK, R L (1995) Language: the basics. London: Routledge
YULE, George (1996) The Study of Language. 2nd. Cambridge: CUP

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC