Cod y Modiwl AD31020  
Teitl y Modiwl CAFFAEL YR IAITH GYNTAF  
Blwyddyn Academaidd 2006/2007  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Mr Robert Morris Jones  
Semester Semester 2  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   10 Hours.  
  Seminarau / Tiwtorialau   10 Hours.  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Asesiad Semester Traethawd 2,500 o eiriau  50%
Asesiad Semester Traethawd 2,500 o eiriau  50%

Canlyniadau dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Dangos eu bod yn gyfarwydd a nodweddion caffael iaith ar lefel disgrifiadol.

Dangos eu bod yn gyfarwydd ag egwyddorion a dulliau a'u defnyddir i ddadansoddi data caffael iaith.

Dangos eu bod yn gallu gwerthuso esboniadau ynglyn a sut mae plant yn caffael iaith trwy ddefnyddio eu gwybodaeth disgrifiadol a'u sgiliau dadansoddiadol.

Cynnwys

- Methodoleg astudio caffael iaith

- Caffael ynganiadau

- Caffael geiriau a ystyron

- Caffael cyfuniadau cynnar o eiriau

- Caffael cyfuniadau diweddarach o eiriau

- Llwybrau caffael iaith

- Esboniadau damcaniaethol

- Dylanwadau ar gaffael iaith

Disgrifiad cryno

Trafodir caffael yr iaith gyntaf trwy

- drin ffeithiau disgrifiadol ('beth' sy'n digwydd 'pryd'?)

- ystyried dulliau o astudio caffael iaith ('sut' mae casglu a dadansoddi data?)

- gwerthuso esboniadau ('sut' a 'pham' y mae caffael iaith yn digwydd fel y mae?).

Rhestr Ddarllen

Darllen Rhagarweiniols
INGRAM, David (1989) First Language Acquisition CUP
PECCEI, Jean Stillwell (1994) Child Language Routledge

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC