Cod y Modiwl AG24610  
Teitl y Modiwl MATERION CYFOES YNG NGHEFN GWLAD  
Blwyddyn Academaidd 2006/2007  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Mr Penri James  
Semester Semester 2  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Asesiad Semester Cyflwyniad Seminar: Seminar ar bwnc penodol40%
Asesiad Semester Cyflwyniad Seminar: Cyfraniad i seminarau eraill 20%
Asesiad Semester Traethodau:  40%

Canlyniadau dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn dylai myfyrwyr fedru:

1. Disgrifio'r ffactorau integredig sy'n dylanwadu ar ddefnydd tir yng nghefn gwlad yn arbennig wrth gyfeirio at gynnyrch cnydau a
   chynnyrch anifeiliad;
2. Disgrifio effaith dyn ar y amgylchedd ac ar bioamrywiaeth yng nghyd-destun cefn gwlad;
3. Trafod polisi cefn gwlad Ewrop, Cenedlaethol a Rhanbarthol a'r modd mae'n dylanwadu ar strwythur a llwyddiant busnes;
4. Dadansoddi'r problemau cyfredol sy'n gwynebu adaloedd gwledig;
5. Defnyddio ystod eang o derminoleg Cymraeg sy'n berthnasol i gefn gwlad.

Disgrifiad cryno

Bwriad y modiwl yma yw cyfuno'r ystod eang o astudiaethau cefn gwlad sy'n bodoli ad ehangu'r cyfleon sydd ar gael i astudio - drwy gyfrwng y Gymraeg - maes sydd mor allweddol i ffyniant Cymru. Drwy ddadandoddi a thrafod bydd y myfyriwr yw magu'r hyder i ddefnyddio ac ehanu'r teminoleg angenrheidiol. Yn ogystal bydd darlithwyr gwadd yn trafod eu gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn rhoi engraifft o sut y defnyddir terminoleg Gymraeg yn y byd cyfoes. Disgwylir i'r pynciau gynnwys cyndau, cynnyrch anifeiliad, busnes yng nghefn gwlad, polisi cefn gwlad ewrop a'r amgylchedd a bioamrywiaeth. Bydd y modiwl yn caniatau myfyriwr ddewis pynciau priodol i draddodi seminar a chyflwyno traethawd, yn ogystal, bydd y modiwl yn datblygu ymhellach sgiliau TG drwy'r ofyniad i ddefnyddio taflunydd digidol a chyflwyno gwybodaeth ar ffurf electronig.

Nod

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 5 FfCChC