Cod y Modiwl AP10120  
Teitl y Modiwl DADANSODDI PERFFORMIO  
Blwyddyn Academaidd 2006/2007  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Roger Owen  
Semester Semester 1  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Ms Charmian C Savill  
Elfennau Anghymharus PF20110 , PF10320  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   10 x 2 awr  
  Eraill   Sesiynau Gwylio 10 x 2 awr  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Asesiad Semester 1 x Sylwebaeth Ysgrifenedig 2000 o eiriau40%
Asesiad Semester 1 x Sylwebaeth Lafar mewn Grwp (20 munud)60%
Asesiad Ailsefyll Rhaid ail-gyflwyno'r gwaith a fethwyd: gosodir darn fideo newydd fel testun ar gyfer y rheini sy'n ail-sefyll 

Canlyniadau dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:

1. cymhwyso'r termau a gyflwynir yn ystod y modiwl wrth ddadansoddi darn o berfformiad
2. arddangos eu gallu i sylwebu'n gryno a deallus ar ddarn o berfformiad
3. dangos dealltwriaeth sylfaenol o gyd-destun ffurfiol a hanesyddol perfformio
4. arddangos eu gallu i gydweithio mewn grwp i greu cyflwyniad llafar deallus


Nod

Cynigir y modiwl hwn fel sail i'r radd Anrhydedd Gyfun mewn Astudiaethau Perfformio. Yn y gorffennol (er 1996), cyflwynwyd y modiwl Dadansoddi Perfformio ar ddechrau'r ail flwyddyn, am fod y modiwl ar yr adeg honno yn cynnig golwg amgen ar bynciau o fewn Astudiaethau Theatr. Ers hynny, fe ddatblygodd yr Adran ddarpariaeth lwyddiannus iawn mewn Astudiaethau Perfformio trwy gyfrwng y Saesneg, a bwriedir creu darpariaeth gyffelyb trwy gyfrwng y Gymraeg o 2006-7. I'r perwyl hwnnw, mae'r modiwl Dadansoddi Perfformio yn allweddol bwysig fel rhagarweiniad i'r pwnc yn ei grynswth.

Cynnwys

Trefn Arfaethedig y Darlithoedd

  1. Cyflwyno'r Derminoleg: enghreifftiau cychwynnol
  2. Theatr, Chwarae, Gemau, Defodau: arolwg o ffurfiau Perfformiadol
  3. Tempo a Threfniant Amser mewn Perfformiadau
  4. Strategaethau a Thactegau mewn Perfformiadau
  5. Senograffiaeth a Thrac Sain mewn Perfformiadau
  6. Technegau Sylwebu: ymarfer
  7. Grwpiau, timau a Pherfformiadau
  8. Cynulleidfaoedd mewn Perfformiadau
  9. Beirniaid a Pherfformiadau
  10. Technegau Sylwebu: Cyflwyniad Grwp

Disgrifiad cryno

Bwriad y modiwl hwn fydd cynnig cyflwyniad i theori Perfformio. Fe fydd y darlithoedd yn gosod y syniad o berfformio mewn cyd-destun diwylliannol a chelfyddydol eang, gan awgrymu bod a wnelo perfformio nid yn unig â'r theatr, ond â ffurfiau eraill ar gelfyddyd fyw megis dawns, celfyddyd berfformiadol, a ffurfiau arbennig ar weithredu cymdeithasol megis defodau cymdeithasol, chwaraeon ac ati. Cyflawnir hyn trwy gyflwyno geirfa o dermau dadansoddiadol arbennig i'r myfyrwyr a fydd yn eu galluogi i drafod perfformiadau theatraidd, defodau a chwaraeon o fewn yr un cwmpas beirniadol.
Fe fydd y darlithoedd hefyd yn cynnig perspectif hanesyddol ar waith rhai o'r ffigyrau mwyaf dylanwadol ym myd theatr gorfforol, celfyddyd berfformiadol a dawns gyfoes er 1945, gan gynnwys Jerzy Grotowski, Eugenio Barba, Marina Abramovic, Pina Bausch, Kazuo Ohno, Robert Wilson, The Wooster Group a'r cwmni Cymraeg Brith Gof.

Sgiliau Modiwl

Problem_solving Datblygir y medrau hyn wrth i'r myfyrwyr ymgymryd â chymhwyso ieithwedd ddadansoddiadol newydd, a cheisio'i ddefnyddio yn gyntaf oll er mwyn disgrifio perfformiad nad sydd o rheidrwydd yn gydnaws â chonfensiynau amlycaf theatr, ac yna'i ystwytho a'i ddatblygu fel y bo'n sail i ddadansoddiad ehangach yn y Cyflwyniad Grwp.  
Research skills Datblygir y medrau hyn yn bennaf wrth baratoi'r Cyflwyniad Grwp, ond hefyd wrth baratoi ar gyfer y darlithoedd a'r sesiynau gwylio. Fe fydd yn bwysig iawn i'r myfyrwyr ddeall a gwerthfawrogi cyd-destun nifer o'r enghreifftiau o berfformio a ddangosir iddynt yn ystod y modiwl cyn iddynt fedru cymhwyso'r eirfa ddadansoddiadol yn effeithiol.  
Communication Mae'n amlwg y bydd ymdrechu i gyflwyno trafodaeth feirniadol trwy gyfrwng terminoleg newydd yn datblygu medrau cyfathrebu'r myfyrwyr, a hynny yn ysgrifenedig yn y Sylwebaeth ac ar lafar yn y sesiynau dysgu a'r Cyflwyniad Grwp.'  
Improving own Learning and Performance Mae'r ffaith fod y Cyflwyniad Grwp yn datblygu a chymhwyso'r dechneg a ddefnyddir yn yr asesiad cyntaf yn arwydd clir o'r modd y datblygir y medrau hyn yn y modiwl. Disgwylir datblygiad pendant o'r naill asesiad i'r llall o ran meistrolaeth y myfyrwyr ar eu techneg a'u deunydd, ond nid asesir y medrau hyn yn uniongyrchol fel rhan o'r modiwl  
Team work Datblygir y medrau hyn yn uniongyrchol wrth i'r myfyrwyr baratoi a chyflwyno gwaith grwp. Disgwylir i'r cyflwyniad hwnnw dystio i allu'r grwp i gydweithio'n effeithiol, ac fel rhan o'r asesiad, rhoddir cyfle i'r myfyrwyr gwblhau holiadur yn nodi ansawdd eu profiad o gydweithio fel grwp.  
Information Technology Ni ddatblygir y medrau hyn yn uniongyrchol yn y modiwl. Fe all myfyrwyr sy'n dewis hynny wneud defnydd arbennig o ddulliau a chyfryngau technoleg gwybodaeth wrth lunio'r Cyflwyniad Grwp, ond nid oes le yn y modiwl i gynnig hyfforddiant ffurfiol i fyfyrwyr yn y mater hwn.  
Personal Development and Career planning Ni ddatblygir y medrau hyn yn uniongyrchol yn y modiwl. Fodd bynnag, disgwylir i'r myfyrwyr weithio'n ddyfal yn ystod y modiwl hwn i ddatblygu eu dulliau dadansoddi a gwerthuso perfformiad, ac felly o'r safbwynt hwnnw, fe gyfranna'r modiwl at ddatblygiad personol y myfyriwr unigol.  

Rhestr Ddarllen

Llyfrau
** Testun A Argymhellwyd
Barba, Eugenio and Savarese, Nicola (1991) A Dictionary of Theatre Anthropology - The Secret Arts of the Performer Routledge
Bial, H. (ed) (2004) The Performance Studies Reader London: Routledge
Carlson, Marvin (1996) Performance: A Critical Introduction Routledge
Grotowski, Jerzy (1975) Towards a Poor Theatre Methuen
Huxley, Michael & Witts, Noel (eds) (1996) The Twentieth Century Performance Reader Routledge
Kumiega, J (1985) The Theatre of Grotowski Methuen
Schechner, Richard (2002) Performance Studies - An Introduction London/New York: Routledge
Schechner, Richard (1988) Performance Theory London/New York: Routledge
Sontag, S (1988) Antonin Artaud: Selected Writings California
Watson, I (1993) Towards a Third Theatre Routledge

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC