Cod y Modiwl | AP20320 | ||||||||||||||
Teitl y Modiwl | DYFEISIO A PHERFFORMIO | ||||||||||||||
Blwyddyn Academaidd | 2006/2007 | ||||||||||||||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Dr Roger Owen | ||||||||||||||
Semester | Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod | ||||||||||||||
Blwyddyn nesaf y cynigir | N/A | ||||||||||||||
Semester nesaf y cynigir | N/A | ||||||||||||||
Staff Eraill sy'n Cyfrannu | Ms Charmian C Savill | ||||||||||||||
Rhagofynion | AP10120 | ||||||||||||||
Manylion y cyrsiau | Sesiwn Ymarferol | Darlithoedd Ymarferol 10 x 3 awr | |||||||||||||
Seminarau / Tiwtorialau | 6 x 1 awr | ||||||||||||||
Dulliau Asesu |
|
1. deall a chymhwyso'r systemau perfformiadol a astudir yn y modiwl
2. defnyddio'r dulliau gweithredu a'r ymarferion a astudir ar y modiwl er mwyn dyfeisio 'sgript' perfformiadol a chyflwyniad enghreifftiol
3. arddangos dealltwriaeth o natur perfformiad personol a pherfformiad grwp, yn enwedig o safbwynt gwaith a safle'r corff
4. ystyried, fesul grwp, y broses o ddyfeisio perfformiadau a chyflwyno cysyniadau perfformiadol
5. ail-ystyried yr ymarfer hwn ar sail unigol, gan ddatblygu ymwybyddiaeth bellach o broses gorfforol a meddyliol yr unigolyn yn ystod perfformiad
Cyflwynir 6 o seminarau yn ogystal â'r uchod er mwyn helpu a chynghori'r myfyrwyr wrth iddynt baratoi eu hasesiadau ymarferol.
Problem_solving | Datblygir y medrau hyn wrth i'r myfyrwyr geisio cymhwyso'r gwahanol ddiffiniadau o berfformiad fel digwyddiad esthetig a amlygir gan y technegau corfforol a'r termau theoretig a gyflwynir yn ystod y modiwl. Adlewyrchir llwyddiant y myfyrwyr wrth ddatrys problemau yn eu gwaith asesiedig ond nid asesir y medrau hyn yn uniongyrchol fel rhan o'r modiwl. | ||
Research skills | Fe fydd cyflawni ymchwil a darllen cefndirol unigol yn agwedd bwysig ar y modiwl hwn, wrth i'r myfyrwyr geisio deall a gwerthfawrogi cyd-destun nifer o enghreifftiau o berfformio a ddangosir iddynt | ||
Communication | Mae'n amlwg y bydd ymdrech i gyfathrebu trwy gyfrwng dulliau gweithredu ac ymarferion dyfeisio/cyflwyno yn datblygu medrau cyfathrebu'r myfyrwyr, a hynny ar lafar ac yn gorfforol yn y sesiynau dysgu ac yn ystod yr asesiadau. | ||
Improving own Learning and Performance | Mae'r ffaith fod yr asesiadau'n datblygu'r dechneg gorfforol, weledol a lleisiol o un asesiad i'r llall yn arwydd clir o'r modd y datblygir y medrau hyn yn y modiwl. Disgwylir datblygiad pendant o'r naill asesiad i'r llall o ran meistrolaeth y myfyrwyr ar eu deunydd, ond nid asesir y medrau hyn yn benodol yn ystod y modiwl. | ||
Team work | Datblygir y medrau hyn yn uniongyrchol yn y modiwl. Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu a gwreiddio gwaith tîm y myfyrwyr yn yr asesiad cyntaf. Fe sylwir o'r rhestr darlithoedd fod trafodaeth o waith ensemble a gwaith tîm yn rhan eang o gynnwys y modiwl hwn | ||
Information Technology | Ni ddatblygir y medrau hyn yn uniongyrchol yn y modiwl. Fe all myfyrwyr sy'n dewis hynny wneud defnydd arbennig o ddulliau a chyfryngau technoleg gwybodaeth wrth lunio'u hail asesiad, ond nid oes lle yn y modiwl i gynnig hyfforddiant ffurfiol i fyfyrwyr yn y mater hwn | ||
Personal Development and Career planning | Ni ddatblygir y medrau datblygiad personol a chynllunio gyrfa: yn uniongyrchol yn y modiwl eithr fe fe ddatblyga'r modiwl hwn ymwybyddiaeth o ddulliau gweithredu a pherfformio sydd yn seiliedig ar sgiliau cyflwyno deunydd perfformiadol fel unigolyn a grwp |
Mae'r modiwl hwn ar Lefel 5 FfCChC