Cod y Modiwl AP30520  
Teitl y Modiwl BRITH GOF  
Blwyddyn Academaidd 2006/2007  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Ms Charmian C Savill  
Semester Semester 2  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Dr Roger Owen  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   10 x 2 awr  
  Seminarau / Tiwtorialau   6 x 1 awr  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Asesiad Semester 1 x Traethawd Ysgrifenedig 2500 o eiriau 50%
Asesiad Semester 1 x Perfformiad o Etude 20 munud 50%
Asesiad Ailsefyll Traethawd Ysgrifenedig: rhaid ail-gyflwyno'r gwaith a fethwyd: gosodir fideo arall ar gyfer rheini sy'n ail-sefyll Perfformiad o Étude: rhaid ail-gyflwyno'r gwaith a fethwyd, ond fel unigolyn. Fe fydd rhaid i'r perfformiad parhau 7 munud, mewn man arbennig, rhoddedig yn Aberystwyth gyda thema/strwythur rhoddedig sydd yn gysylltiedig â gwaith Brith Gof.  

Canlyniadau dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:

1. arddangos dealltwriaeth o'r dulliau gweithredu a'r gwahanol ymarferion dyfeisio/cyflwyno sy'n gysylliedig a gwaith Brith Gof
2. cydweithio'n greadigol a deallus a'u cydfyfywyr i baratoi Etude 20 munud o hyd
3. sylwebu'n gryno a deallus ar berfformiad mewn traethawd ysgrifenedig
4. defnyddio sgiliau perfformiadol i esbonio deunydd cysyniadol
5. arddangos dealltwriaeth o bwysigrwydd cyd-destun cymdeithasol a diwylliannol a'u heffaith ar ffurf a ffwythiant perfformiad

Nod

Honnir mai Brith Gof yw un o'r prif gwmnïau theatr yng Nghymru yn ystod ail hanner y ganrif ddiwethaf: rydym yn awyddus i sicrhau bod y myfyrwyr yn medru gwerthfawrogi pwysigrwydd cyfraniad Brith Gof i'r theatr Gymreig, yn ogystal â'u cyfraniad i feirniadaeth a theori perfformio yn gyffredinol. Mae gan y staff sydd yn cynnal y modiwl hwn ddiddordeb a phroffil ymchwil eisoes mewn perthynas â Brith Gof, a gobeithir y bydd llyfr ar Brith Gof yn deillio o¿r gwaith a wneir ganddynt wrth baratoi a chyflwyno'r modiwl hwn o fewn y dair mlynedd nesaf. Fe fydd y modiwl hwn hefyd yn ehangu a datblygu'r wybodaeth a gyflwynwyd mewn modiwlau blaenorol, yn enwedig DD23420 a DD24020.

Cynnwys

Trefn Arfaethedig y Darlithoedd:
1. Dechreuadau a Chefndir: Theatr Rat, Theatr Labordy Caerdydd, Hyfforddiant (Siapan, Gwlad Pwyl, Denmarc), pentrefi Cymreig Gorllewin Cymru
2. Aberystwyth 1: Yr Adran Ddrama a'r Mabinogion: Branwen, Rhiannon, Manawydan, Blodeuwedd
3. Aberystwyth 2: Bwyty Bananas, Dros Ben Llestri, Gernika!, Gwaelodion (Gorki)
4. Theatr y Gormesiedig: Ymfudwyr, 8961, In Patagonia
5. Cysylltiadau Ewropeaidd, cyd-destunau a gwaith stryd: Iddo Fe, Luna! Luna!, Pedole Arian
6. Mannau Arbennig: Ann Griffiths, Boris, Oherwydd y Mae'r Amser yn Agos, Gwyl y Beibl
7. Trychinebau Rhyfel: Rhannau 1-9 (1987-1989)
8. Gweithiau graddfa eang: Gododdin, Haearn, Pax, Los Angeles, Arturius Rex, Camlann
9. Diddymiad: EXX1, Tri Bywyd, Prydain, From Memory, The First Five Miles, Dead Men's Shoes, The Man Who Ate His Boots
10. Y Rhai Olaf: Y Pen Bas, Y Pen Dwfn, Once Upon a Time in the West, Lla'th, Llais Cynan, Draw, Draw yn...

Trefn Arfaethedig y Seminarau:
1. Trafodaeth o syniadau parthed yr Étude ymarferol (i): adfyfyriad ar y deunydd a drafodwyd yn ystod y modiwl
2. Trafodaeth o syniadau parthed parthed yr Étude ymarferol (ii): technegau cymhwyso a chymathu deunydd ymarferol
3. Trafodaeth o syniadau parthed parthed yr Étude ymarferol (iii): technegau ymarfer y cyflwyniad
4. Trafodaeth o syniadau parthed parthed yr Étude ymarferol (iv): datblygu'r weledigaeth gychwynol
5. Trafodaeth o syniadau parthed parthed yr Étude ymarferol (v): gweithio ar y manylion
6. Trafodaeth o syniadau parthed parthed yr Étude ymarferol (vi): adfyfyrio'n

Disgrifiad cryno

Bwriad y modiwl hwn yw i gyflwyno hanes a dadansoddiad manwl o waith Brith Gof, yn cynnwys hanes blaenorol a safbwyntiau beirniadol o'r gwaith yn ystod ei ddatblygiad a'i ddiddymiad. Cyflwynir nifer o gyd-destunau sydd wedi cael eu datblygu a'u prosesu gan Brith Gof i ymchwilio'r goblygiadau cymdeithasol, diwylliannol ag amgylchfydol yn y cyd-destunau hynny a'u heffaith ar natur, ffurf, ffwythiant a gosodiad eu gwaith

Sgiliau Modiwl

Problem_solving Datblygir y medrau hyn wrth i'r myfyrwyr geisio cymhwyso'u dealltwriaeth o gynyrchiadau ac ymarferion dyfeisio Brith Gof er mwyn paratoi eu gwaith academaidd ac ymarferol eu hunain. Er nad asesir y gallu i ddatrys problemau yn uniongyrchol fel rhan o'r modiwl, fe fydd y medrau hyn yn allweddol bwysig i lwyddiant y myfywyr o safbwynt deallusol a chreadigol.  
Research skills Datblygir y medrau hyn wrth ysgrifennu'r traethawd, ac wrth baratoi ar gyfer y darlithoedd a'r étude ymarferol  
Communication Mae¿n amlwg y bydd ymdrech i gyflwyno trafodaeth feirniadol trwy gyfrwng dulliau ac ymarferion newydd yn datblygu medrau cyfathrebu¿r myfyrwyr, a hynny ar lafar yn y sesiynau dysgu, yn ysgrifenedig yn y traethawd ac yn gorfforol ymarferol yn yr étude.  
Improving own Learning and Performance Er i aseiniadau'r modiwl gael eu llunio er mwyn helpu'r myfyrwyr i ddatblygu eu hymateb o'r naill asesiad i'r llall, nid asesir y medrau hyn yn uniongyrchol yn y modiwl.  
Team work Datblygir y medrau hyn yn uniongyrchol yn y modiwl. Fe fydd yr étude ymarferol yn canolbwyntio ar ddatblygu a gwreiddio gwaith tîm y myfyrwyr. At hynny, fe sylwir o'r rhestr ddarlithoedd fod trafodaeth o waith ensemble a gwaith tîm yn rhan eang o gynnwys y modiwl hwn.  
Information Technology Ni ddatblygir y medrau hyn yn uniongyrchol yn y modiwl: er y croesewir defnydd o dechnegau technoleg gwybodaeth yn yr étude ymarferol, nid oes lle yn y modiwl i gynnig hyfforddiant ffurfiol i fyfyrwyr yn y mater hwn.  

Rhestr Ddarllen

Llyfrau
** Testun A Argymhellwyd
Anderson, B (1991) Imagined Communities Verso
Barry, P (1995) Beginning Theory M.U.P
Birringer, J. H (2000) Performance on the Edge: Transformation of Culture Athlone Press
Diamond, E (1996) Performance and Cultural Politics Routledge
Gomez-Pena, Guillermo (2000) Dangerous Border Crossings Routledge
Owen, R (2003) Ar Wasgar Gwasg Prifysgol Cymru
Owen, T.M Welsh Folk Customs Amgueddfa Genedlaethol Cymru
Pearson, M & Shanks, M (2001) Theatre/Archaeology Routledge
Savill, C (1994) A Critical Study of the History of the Welsh theatre Company Brith Gof Thesis M.Phil, CPC. Aberystwyth
** Testun Ychwanegol Atodol
Savill, C (1990) Dismantling the Wall Planet rhif 79, Chwefror/Mawrth
Savill, C (1992) Women in Welsh Theatre: Saying Their Piece Planet rhif 91, Chwefror/Mawrth
(1985) Brith Gof: A Welsh Theatre Company 1. 1981-85 Brith Gof

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC