| Cod y Modiwl | AP30620 | ||||||||||||||
| Teitl y Modiwl | SYSTEM YMDRECH LABAN | ||||||||||||||
| Blwyddyn Academaidd | 2006/2007 | ||||||||||||||
| Cyd-gysylltydd y Modiwl | Miss Margaret P Ames | ||||||||||||||
| Semester | Semester 1 | ||||||||||||||
| Manylion y cyrsiau | Sesiwn Ymarferol | Sessiynau Ymarferol profiadol 10 x 2 awr | |||||||||||||
| Dulliau Asesu |
| ||||||||||||||
1 arddangos dealltwriaeth o egwyddorion System Ymdrech Rudolf Laban
2 arddangos dealltwriaeth o eirfa'r System Ymdrech
3 arddangos gallu i gymhwyso'r eirfa gorfforol er mwyn deall agweddau o'u hunain a phobl eraill
4 arddangos ymwybyddiaeth o strwythur y corff, ynghyd a'r cydblethiad rhwng y corff a chyflwr emosiynol yr unigolyn
5 arddangos gallu i ddefnyddio'r 'Ymdrechion' i ddyfeisio, hwyluso a newid gwaith creadigol
Noder: ystyried un agwedd yn unig o system ddadansoddi symud Laban a wneir yn y modiwl hwn, ac ni ddylid ystyried y modiwl fel cyflwyniad cyffredinol i waith Laban yn ei gyfanrwydd.
1 Sesiwn ymarferol/seminar i gyflwyno Rudolf Laban, ei hanes a¿i waith
2 Dod yn gyfarwydd â'r eirfa newydd - cyflwyno 'Llif'
3 Cyflwyno 'Gofod'
4 Cyflwyno 'Pwysedd'
5 Cyflwyno 'Amser'
6 Ystyried tueddiadau personol trwy brofi a thrafod
7 Teimlo ac ymateb - arbofi gyda 'Cyweiriad a Chamgymhariad'
8 'Cyfuno Ymdrechion' - sesiwn i gyflwyno'r system ar waith ac i ddangos ei chyfanrwydd a'i chymlethdod.
9 Creu sylwadaeth a chofnod fideo o symudiadau unigol
10 Parhau gyda chyfarwyddo corfforol ac arbrofi gyda chyfryngau eraill megis cerddoriaeth, testun a delwedd
Wrth ddod yn gyfarwydd â'r eirfa newydd a'i defnydd bydd y myfyrwyr yn deall mwy am bwysigrwydd cyfathrebu trwy gyfrwng y corff, ynghyd â natur datblygiad eu cyrff unigol.
Yn ystod sesiynau dysgu'r modiwl, rhoddir pwyslais ar gyflawni a gwylio gwaith byrfyfyr, yn fyw a thrwy gyfrwng fideo: bydd un grwp o fyfyrwyr yn gweithredu'n gorfforol tra bod grwp arall yn eu gwylio a'u dadansoddi. Bydd pob sesiwn yn pwysleisio'r angen i fyfyrwyr gefnogi'u proses ei gilydd. At hynny, disgwylir i'r myfyrwyr ddefnyddio termau dadansoddiadol Laban wrth iddynt sylwi a chyfeirio at symudiadau gan bobl eraill o'u cwmpas mewn bywyd cyffredin.
| Problem_solving | Wrth ddysgu'r system ddadansoddi hon bydd y myfyrwyr yn cymhwyso damcaniaeth ac ymarfer ac yn gweithio i ddefnyddio geirfa Laban i newid sefyllfaoedd a datrys problemau creadigol | ||
| Research skills | Fe fydd ymchwil personol yn sail i waith y modiwl. Disgwylir i'r myfyrwyr arsylwi a dadansoddi datblygiad eu proses mewnol a'u hymwybyddiaeth unigol, yn ogystal â'u goblygiadau at bobl eraill. Cryfheir gwaith yr unigolyn yn sylweddol yn ystod y modiwl wrth iddynt ddod â dealltwriaeth ddyfnach i'r gwaith o'u hymchwil personol | ||
| Communication | Elfen bwysig o'r modiwl fydd y gallu i adrodd ar yr hyn y mae'r unigolyn wedi'i weld ac i gadarnhau eu profiad gydag eraill. Bydd y myfyrwyr yn dysgu sut y mae'r corff yn cyfathrebu heb eiriau a sut mae'r unigolyn yn ymateb i gyflyrau ac amgylchiadau gwahanol a'r ffordd rydym yn effeithio ar bobl eraill. Elfen hanfodol o'r gwaith hwn yw'r gallu i ddeall yr effeithiau a'r oblygiadau sy'n canlyn ein gweithredoedd corfforol yn ogystal â'n geiriau a'n hiaith. | ||
| Improving own Learning and Performance | Pwrpas y modiwl hwn fydd agor posibiliadau newydd i'r myfyrwyr ynglyn â ffyrdd amgen o greu a deall eu gwaith ymarferol. Rhydd y modiwl gyflwyniad i dechneg corfforol a fydd yn rhoi i'r myfyrwyr ymwybyddiaeth ychwanegol o'u hunain, a disgwylir y bydd hyn yn cyfrannu yn uniongyrchol at safon eu gwaith. Fodd bynnag, nid asesir yr elfen hon yn benodol ac uniongyrchol yn ystod y modiwl | ||
| Team work | Tra bod y modiwl hwn yn pwysleisio taith bersonol yr unigolyn bydd trafod gyda gweddill y grwp yn rhan o bob sesiwn, ac wrth gwrs yn rhan allweddol bwysig o'r cyflwyniad Grwp. Bydd gwrando, edrych a derbyn mewnbwn y grwp yn hanfodol. | ||
| Personal Development and Career planning | Er bod y gallu i ddeall effaith y corff mewn unrhyw sefyllfa gyda phobl eraill yn werthfawr iawn, ni roddir unrhyw gyfarwyddyd penodol ynglyn â datblygiad personol a chynllunio gyrfa yn y modiwl. | ||
Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC