Cod y Modiwl AP30720  
Teitl y Modiwl CREU TESTUNAU PERFFORMIADOL  
Blwyddyn Academaidd 2006/2007  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Roger Owen  
Semester Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Miss Margaret P Ames, Ms Charmian C Savill  
Elfennau Anghymharus PF30610  
Manylion y cyrsiau Seminarau / Tiwtorialau   Seminarau Ysgrifennu 10 x 2 awr  
  Eraill   Sesiynau trafod ffurfiol 5 x 1 awr  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Asesiad Semester 1. Tasg Ysgrifenedig 'Y Dudalen fel Safle' - Palimpsest a fydd yn defnyddio dim mwy na 2 ddarn o bapur neu ddefnydd A3 30%
Asesiad Semester 2. Tasg Destunol 'Y Safle fel Tudalen' - darn o destun yn sail i ddigwyddiad 15 munud wedi'i leoli mewn safle neilltuol 35%
Asesiad Semester 3. Tasg Destunol 'Y Corff fel Safle a Thudalen' - darn o destun yn sail i ddigwyddiad 15 munud wedi'i greu mewn ymateb i weithgarwch corfforol mewn safle neilltuol 35%
Asesiad Ailsefyll Os methir y modiwl oherwydd methiant i gyflwyno unrhyw elfen unigol o'r asesiad, neu oherwydd marc isel mewn unrhyw elfen unigol o'r asesiad, rhaid ail-gyflwyno'r gwaith hwnnw. Os fydd mwy nag un elfen wedi'i methu, rhaid ail-gyflwyno'r holl elfennau a fethwyd. 

Canlyniadau dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr sy'n cyrraedd safon gyffredin fedru:

1. arddangos gallu i ddatblygu nifer o wahanol fathau o waith ysgrifenedig mewn gwahanol gyd-destunau creadigol a dadansoddiadol
2. arddangos gallu i ddefnyddio technegau ysgrifennu a fydd yn cyfoethogi a chymhlethu prosesau amgyffrediadol y darllenydd
3. arddangos gallu i gymhwyso'r dulliau ysgrifennu a gyflwynwyd ar y modiwl wrth greu darn ysgrifenedig mewn safle arbennig
4. arddangos gallu i gymhwyso'r dulliau ysgrifennu a gyflwynwyd ar y modiwl wrth ymateb i ddarn o berfformiad corfforol byw


Nod

Nod y cynnig hwn yw i roi cyfle i'r myfyrwyr ystyried y gwahanol fathau o berthynas a all fodoli rhwng ysgrifennu a pherfformio. Fel sy'n gyffredin mewn Astudiaethau Perfformio fel pwnc ledled y byd, fe fydd y modiwl yn rhoi pwyslais ar gyplysu ysgrifennu beirniadol a chreadigol, ac yn rhoi cyfle i'r myfyrwyr arbrofi gyda gwahanol ddulliau a moddau o fynegiant ysgrifenedig. Fe fydd y modiwl hwn yn asio'n bwrpasol iawn gyda'r modiwlau eraill a gynigir yn y radd Astudiaethau Perfformio am ei fod yn rannu'r un syniadaeth gyffredinol a'r un prosesau dadansoddiadol a chreadigol, eithr trwy dulliau gwahanol.

Cynnwys

Trefn Arfaethedig y Seminarau:

1. Dechreuadau/ Y Presennol: synhwyrusrwydd a chreadigrwydd
2. Deunydd storïol: ymson a bywgraffiad
3. Cyfosod gwahanol fathau o drafodaeth: y mynegiadol a'r beirniadol
4. Marcio: Y Deunyddiau a'r Olion
5. Collage ac Adeiladedd: y darllenydd perfformiadol
6. Gosodiad: adleoli'r gwaith mewn cyd-destun newydd
7. Amser: Datguddiad a Dirywiad
8. Y Testun a'r Corff
9. Tu Fewn Tu Faes: Y Testun a'r Llais
10. Cyfeilio i Berfformiad: rhythm a'r testun mewn gofod

Trefn Arfaethedig y Sesiynau Trafod Ffurfiol:

1. Trafodaeth o syniadau parthed Aseiniad I (i): adfyfyriad ar y deunydd a drafodwyd yn ystod y modiwl
2. Trafodaeth o syniadau parthed Aseiniad I (ii): paratoadau a phroblemau ymarferol
3. Trafodaeth o syniadau parthed Aseiniad II (i): adfyfyriad ar y deunydd a drafodwyd yn ystod y modiwl
4. Trafodaeth o syniadau parthed Aseiniad II (ii): paratoadau a phroblemau ymarferol
5. Trafodaeth o syniadau parthed Aseiniad III (i): paratoadau a phroblemau ymarferol

Disgrifiad cryno

Fe fydd y modiwl hwn yn cynnig cyfle i'r myfyrwyr i ystyried ac ymarfer rai o'r gwahanol fathau o berthynas a all fodoli rhwng ysgrifennu, dyfeisio ac ymarfer perfformio. Yn y darlithoedd, fe ddadansoddir rai o'r prosesau mwyaf amlwg sy'n ymwneud ag ysgrifennu, gan drin pob un o'r rhain fel modd o effeithio ar fynegiant creadigol yr awdur a phrofiad creadigol ac amgyffrediadol y darllenydd. Ymdrinir ag ysgrifennu (a darllen), felly, fel gweithgarwch synhwyrusol a deallusol sy'n creu ei amodau dehongliadol ei hun. At hynny, ystyrir gwahanol ffyrdd o ad-drefnu ffurf ac arddull y darn ysgrifenedig fel ag i gymell y darllenydd i fod yn fwy ymwybodol o'i ddewisiadau dehongliadol ei hun (a chan hynny, ei 'berfformiad' ei hun) wrth ddarllen y gwaith.

Rhydd y seminarau ysgrifennu gyfle i'r myfyrwyr i nodi ac arbofi gyda dulliau o ysgrifennu perfformiadol, tra bod y sesiynau trafod ffurfiol yn gyfle iddynt adrodd ar ddatblygiad eu haseiniadau eu hunain ac i glywed syniadau a phrofiadau eu cyd-fyfwyr yn yr un cyswllt.

Sgiliau Modiwl

Problem_solving Bydd elfen o ddatrys problemau creadigol yn rhan o'r modiwl wrth i'r myfyrwyr geisio cymhwyso'r wybodaeth a'r sgiliau ysgrifenedig a ddatblygir ganddynt amgylchiadau a chyd-destunau newydd  
Research skills Fe fydd ymchwil personol yn bwysig wrth i'r myfyrwyr ddewis a datblygu deunydd gogyfer y tasgau ysgrifenedig. Fodd bynnag, ni roddir pwyslais neilltuol ar ddatblygu'r sgiliau hynny fel than o asesiad y modiwl.  
Communication Bydd pob elfen o'r modiwl yn hyrwyddo datblygu ac ymarfer sgiliau cyfathrebu trwy gyfrwng ysgrifennu creadigol a dadansoddiadol.  
Improving own Learning and Performance Rhydd trefn aseiniadau'r modiwl gyfle i'r myfyrwyr ddatblygu eu gallu i ysgrifennu'n greadigol mewn cyd-destun perfformiadol. Ychwanegir elfen gysyniadol newydd at bob aseiniad yn ei dro; eithr nid asesir gallu'r myfyrwyr i wella'u dysgu a'u perfformiad eu hunain yn ystod y modiwl  
Team work Ni fydd y modiwl yn canolbwyntio¿n benodol ar waith tîm, ond ynhytrach ar ddatblygu sgiliau ac ymateb unigol ar ran y myfyrwyr. Fe fydd cyfle i'r myfyrwyr gyd-drafod eu gwaith yn y sesiynau trafod ffurfiol, ond nid asesir gallu'r myfyrwyr i weithio fel tîm yn ystod y modiwl.  
Personal Development and Career planning Medrau 'Ysgrifennu Perfformiadol'  

Rhestr Ddarllen

Llyfrau
** Testun A Argymhellwyd
Berger, John (1982) Another Way of Telling Writers and Readers
Berger, John (1996) Photocopies Bloomsbury
Fusco, Coco (1995) English is Broken Here New Press
Gomez-Pena, Guillermo (1996) The New World Border City Lights
Muller, Heiner (1995) Theatre Machine Faber
Ondaatje, Michael (1981) The Collected Works of Billy the Kid Marion Boyars
Phelan, Peggy (1993) Unmarked - The Politics of Performance Routledge
Phelan, Peggy & Lane, Jill eds. (1998) The Ends of Performance New York: University Press
Phelan, peggy (1997) Mourning Sex Routledge
Taylor, Mark C ac Saarinen, Esa (1994) Imagologies Routledge
Waldman, Diane (1992) Collage, Assemblage and the Found Object H.N. Abrams
Wallis, Brian ed (1989) Blasted Allegories. An Anthology of Writings by Contemporary Artists MIT press
Walter, Benjamin (1992) Illuminations Fontana

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC