Cod y Modiwl | AP30820 | ||||||||||||||
Teitl y Modiwl | CYNHYRCHIAD YMARFEROL | ||||||||||||||
Blwyddyn Academaidd | 2006/2007 | ||||||||||||||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Dr Roger Owen | ||||||||||||||
Semester | Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod | ||||||||||||||
Blwyddyn nesaf y cynigir | N/A | ||||||||||||||
Semester nesaf y cynigir | N/A | ||||||||||||||
Staff Eraill sy'n Cyfrannu | Guest Practitioner, Miss Margaret P Ames, Ms Charmian C Savill | ||||||||||||||
Rhagofynion | AP10220 | ||||||||||||||
Dulliau Asesu |
|
1. amlygu eu gallu i gyfansoddi a defnyddio sgor perfformio, yn seiliedig ar fethodau neilltuol
2. arddangos eu dealltwriaeth o ofynion y broses greadigol, yn unigol ac o fewn grwp, mewn ymarferion ac mewn perfformiadau
3. arddangos eu hymwybyddiaeth o'r berthynas annatod rhwng y broses hyfforddi, ymarfer a pherfformio, o safbwynt eu hymarfer a'u myfyrdod beirniadol ar yr ymarfer hwnnw
4. cyd-weithio a chyfranogi fel perfformwyr o fewn y grwp, gan amlygu galluoedd corfforol a lleisiol datblygiedig fel sy'n gymwys yn ol gofynion y dasg
Bydd y modiwl yn roi cyfle i fyfyrwyr arddel a gweithredu'r sgiliau a'r wybodaeth a enillwyd ganddynt yn ystod eu cynllun gradd mewn Astudiaethau Perfformio trwy gymryd rhan mewn cynhyrchiad datblygiedig llawn.
Bydd y cynhyrchiad yn fodd i'r myfyrwyr archwilio'r cysyniad o destun yng ngwaith y perfformiwr ac asesu'r berthynas rhwng testun y ddrama, testun y perfformiwr a thestun y perfformiad
Fe fydd cyfarwyddwr y cynhyrchiad yn gofyn i'r myfyrwyr baratoi yn ofalus yn gorfforol ac emosiynol yn ôl gofynion eu rôl, adfyfyrio a dadansoddi eu gwaith creadigol i safon uchel, ac archwilio a myfyrio ar gorff y perfformiwr fel offeryn cynrychioliadol
Problem_solving | Bydd elfen o ddatrys problemau creadigol ymhlyg yn ymdrech y myfyrwyr i greu rôl iddyn nhw eu hunain o fewn y cynhyrchiad gorffenedig. | ||
Research skills | Fe fydd ymchwil personol yn elfen bwysig o waith y myfyrwyr wrth baratoi cymeriad a sgôr perfformiadol ond nid asesir medrau ymchwil y myfyrwyr yn uniongyrchol fel rhan o'r modiwl | ||
Communication | Bydd yr elfen ymarferol a'r elfen ysgrifenedig o'r modiwl yn hyrwyddo sgiliau cyfathrebu. Disgwylir i'r myfyriwr weithio'n ddyfal yn ystod y cyfnod ymarfer i ddatblygu technegau cyfathrebu corfforol a lleisiol a fydd yn briodol i egwyddorion a thechnegau cyflwyno cyffredinol y cynhyrchiad yn ei gyfanrwydd. | ||
Improving own Learning and Performance | Gan mai un cynhyrchiad yn unig a asesir yn y modiwl hwn, ni fydd cyfle i fyfyrwyr wella'u dysgu a'u perfformiad eu hunain. Disgwylir y bydd y myfyrywr, ar sail eu profiad academaidd ac ymarferol blaenorol, eisoes wedi datblygu'u gwaith i lefel uchel erbyn ymgymryd â'r modiwl hwn. | ||
Team work | Fe fydd y modiwl yn rhoi cryn bwyslais ar y modd y mae myfyrwyr yn cydweithio fel rhan o dîm creadigol. Er y bydd pwyslais digamsyniol ar greu sgôr unigol, fe fydd meini prawf asesiad y modiwl hefyd yn pwysleisio gallu a pharodrwydd y nyfyrwyr i ymroi i gydweithio â'u cydfyfyrwyr er lles cyffredinol y cynhyrchiad. | ||
Personal Development and Career planning | Ni fydd gwaith y modiwl yn arwain yn uniogyrchol at ystyriaethau gyrfaol. |
Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC