Cod y Modiwl CC18010  
Teitl y Modiwl DATBLYGIAD PROFFESIYNOL A PHERSONOL I  
Blwyddyn Academaidd 2006/2007  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Mrs Janet H Hardy  
Semester Semester 2  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Mrs Janet H Hardy  
Elfennau Anghymharus CS18010, CI18010 and CS18110  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   10 Darlith  
  Sesiwn Ymarferol    
  Seminarau / Tiwtorialau   10 tiwtorial  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Asesiad Semester A1 Cyfraniadau ddosbarthiadau tiwtorial: Gwaith Cwrs  25%
Asesiad Semester A2 Gwaith Cwrs CV  25%
Asesiad Semester Cyflwyniadau - A3 yn unigol (25%) ac A4 mewn grwp (25%)  50%
Arholiad Ailsefyll Patrwm tebyg   
Further details http://www.aber.ac.uk/compsci/ModuleInfo/CC18010  

Canlyniadau dysgu

O gwblhau'r modiwl hwn yn llwyddiannus dylai'r myfyriwr fedru

meddu ar CV cyfredol (A2);

cynllunio a rhoi cyflwyniadau technegol yn unigol (A3);

dangos sgiliau sylfaenol rheoli amser (A1);

defnyddio taenlenni cyfrifiadurol a phecynnau graffeg i gefnogi astudio yn y brifysgol (A1);

cynllunio a chreu tudalennau gwe statig (A1);

esbonio pwysigrwydd cynllunio rhyngwyneb defnyddiwr (A1);

cydweithio a chyfrannu i gyflwyniad grwp (A4);

adolygu'n feirniadol ei b/pherfformiad ei hun (A1)

Disgrifiad cryno

Mae pob myfyriwr anrhydedd yn y flwyddyn gyntaf sy'n dilyn cynlluniau Cyfrifiadura i'r Rhyngrwyd yn astudio'r modiwl hwn; y mae'n cynnig fforwm ar gyfer dysgu pob myfyriwr ar y cynllun gradd hwn gyda'i gilydd mewn un grwp.
Mae'r modiwl yn ymdrin a deunydd nas trafodir mewn modiwlau penodol eraill ond sy'n hanfodol er mwyn gwerthfawrogi pob agwedd ar y maes yn well.
Mae sgiliau personol trosglwyddadwy yn rhinwedd bwysig ar gyfer unrhyw beiriannydd meddalwedd ac yn ffurfio rhan bwysig o'r modiwl hwn.
Mae'r system fugeilio a thiwtorial gyffredinol ar gyfer myfyrwyr ar gynlluniau Cyfrifiadura i'r Rhyngrwyd yn cael ei gweinyddu drwy'r modiwl hwn.

Nod

Mae'r modiwl hwn yn ymdrin a deunydd hyrwyddo datblygiad myfyrwyr fel pobl broffesiynol yn eu maes. Datblygir ystod o sgiliau personol trosglwyddadwy o werth cyffredinol yng nghyd-destun y diwydiant meddalwedd. Mae'r Gwasanaeth Cynghori ar Yrfaoedd yn cynnig cyngor ar baratoi curriculum vitae ar gyfer sicrhau blwyddyn mewn gwaith. Mae'r modiwl yn darparu gofal bugeiliol a thiwtorial cyffredinol ynghyd a fforwm ar gyfer dysgu'r myfyrwyr hyn mewn un grwp.

Cynnwys

1. Cynllunio Cyflwyniad : 1 ddarlith
Cyflwyniad i bwysigrwydd strwythuro, amseru a chynnwys cyflwyniadau.

2. Llunio Curriculum Vitae o safon uchel : 1 ddarlith
Cyflwyniad gan y Gwasanaeth Cynghori ar Yrfaoedd.

3. Sut i ysgrifennu Saesneg Da : 2 ddarlith
Cyflwyniad i arddull a thechneg wrth ysgrifennu Saesneg da.

4. Gwneud y mwyaf o'ch profiad yn y brifysgol : 1 ddarlith
Gwneud y mwyaf o ddysgu wedi ei ganoli ar y myfyriwr.

5. Rheoli Amser : 1 ddarlith
Dadansoddi sut orau i reoli amser er mwyn gwneud y mwyaf ohono.

6. Rheoli grwp : 1 ddarlith
Sut i weithio'n effeithiol mewn tim.

7. Cyfeirio a dyfynnu : 1 ddarlith
Defnyddio deunydd sy'n bodoli eisoes. Ffyrdd cywir ac addas o gyfeirio a dyfynnu. Llen-ladrad.

8. Materion Rhyngwyneb Defnyddiwr : 1 ddarlith
Cynllunio wedi ei ganoli ar y defnyddiwr.
Rheolau Schneidermann. Egwyddorion Norman.

9. Techneg Arholiadau : 1 ddarlith
Cyfarwyddiadau safonol. Defnyddio amser, cynllunio. Arddull cwestiynau. Paratoi ar gyfer astudio yn yr ail flwyddyn.

10. Dosbarthiadau Tiwtorial : 10 wythnos
Bydd gofyn i bob myfyriwr baratoi a rhoi cyflwyniadau penodol ac enghreifftiol ar bapurau o'r deunydd darllen technegol ac ar agweddau penodol ar systemau medalwedd yr ymdrinnir a hwy yn y darlithoedd.

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC