Cod y Modiwl CY31320  
Teitl y Modiwl MERCHED A LLENYDDIAETH HYD C1500  
Blwyddyn Academaidd 2006/2007  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Professor Marged E Haycock  
Semester Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod  
Blwyddyn nesaf y cynigir N/A  
Semester nesaf y cynigir N/A  
Rhagofynion CY10110 + CY10210 + CY10310 + CY10410 NEU CY10510 + CY10610 + CY10710 + CY10810, Cymraeg Lefel 1 ( cyfartaledd o 40% rhwng y 4 modiwl) gydag o leiaf 50% yn y modiwlau iaith yn achos myfyrwyr ail iaith.  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   11 Hours.  
  Seminarau / Tiwtorialau   11 Hours. Seminarau.  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Arholiad Semester2 Awr  70%
Asesiad Semester Traethodau: 3,000 o eiriau  30%

Canlyniadau dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Byddwch yn gyfarwydd a'r prif ddulliau llenyddol o bortreadu merched a ddefnyddid gan awduron Cymraeg yr Oesoedd Canol; byddwch yn medru gosod y dulliau hyn yn eu cyd-destun diwylliannol a'u cysylltu a'r cefndir Ewropeaidd ehangach.

2. Byddwch â gwybodaeth sylfaenol am statws a swyddogaethau'r ferch yng Nghymru'r Oesoedd Canol, ac yn gwybod am natur a gwerth (a chyfyngiadau) y prif ffynonellau a ddefnyddir wrth archwilio'r maes.

3. Byddwch wedi astudio detholiad o destunau allweddol (rhyddiaith a barddoniaeth) naill ai yn y gwreiddiol neu mewn cyfieithiad, a dysgu sut i'w darllen yn feirniadol (e.e. er mwyn dinoethi rhagfarn neu agenda'r awduron).

4. Byddwch wedi cynefino â rhai o'r prif ddulliau dadansoddol a ddefnyddir gan feirniaid diweddar yn y maes.

5. Byddwch wedi ennill profiad o gyflwyno eich dadleuon gerbron y dosbarth.


Disgrifiad cryno

Craidd y cwrs yw astudiaeth o destunau llenyddol sy'n rhoi sylw arbennig i ferched. Edrychir ar sut y mae'r testunau hyn yn portreadu merched fel unigolion a'u perthynas ag eraill. Gosodir y testunau yn eu cyd-destun Ewropeaidd.

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC