Cod y Modiwl CY35220  
Teitl y Modiwl BARDDONIAETH GYMRAEG DDIWEDDAR (1979-)  
Blwyddyn Academaidd 2006/2007  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Mihangel I Morgan  
Semester Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod  
Blwyddyn nesaf y cynigir N/A  
Semester nesaf y cynigir N/A  
Rhagofynion CY10110 + CY10210 + CY10310 +CY10410 (iaith gyntaf) neu CY10510 + CY10610 + CY10710 + CY10810 + CY12220 (ail iaith).  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   22 Hours.  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Arholiad Semester2 Awr  70%
Asesiad Semester Traethawd (tua 3,000 o eiriau) neu ddau werthfawrogiad (tua 1,500 gair yr un)30%
Arholiad Ailsefyll  75%
Asesiad Ailsefyll  25%

Canlyniadau dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Trafod yn feirniadol, ar lafar ac yn ysgrifenedig, weithiau llenyddol o'r cyfnod dan sylw, gan ystyried elfennau megis eu syniadaeth/ideoleg, eu crefft a'u strwythur, a'u perthynas a'r traddodiad llenyddol Cymraeg ac a mudiadau llenyddol rhyngwladol lle bo'r rheiny'n berthnasol.

Ystyried, cloriannu a gwerthfawrogi'r gweithiau llenyddol a astudir yng nghyd-destun hanesyddol a chymdeithasol y cyfnod diweddar.

Ystyried, cloriannu a gwerthfawrogi'r gweithiau llenyddol a astudir mewn perthynas a safonau beirniadaeth lenyddol berthnasol.

Disgrifiad cryno

Modiwl yw hwn a fydd yn archwilio datblygiad barddoniaeth Gymraeg o'r flwyddyn 1979 (blwyddyn y Refferendwm cyntaf ar Ddatganoli) ymlaen. Bydd y cwrs yn asesu cyfraniad beirdd diweddar i'r llen ac yn dadansoddi adlewyrchiad digwyddiadau hanesyddol yn eu gwaith. Ymhlith y beirdd yr edrychir ar eu gwaith bydd Alan Llwyd, Gerallt Lloyd Owen, Iwan Llwyd, Myrddin ap Dafydd, Twm Morys, Emyr Lewis, a Gwyneth Lewis; edrychir hefyd ar ambell gerdd hir eisteddfodol nodedig. Ystyrir yr elfennau ceidwadol yn ogystal a'r rhai blaengar yn ein barddoniaeth ddiweddar.

Rhestr Ddarllen

Llyfrau
Alan Llwyd (1990) Cerddi 1968-1990
Elwyn Edwards (1990) Cadwyn yn y Mur
Gwynn ap Gwilym ac Alan Llwyd (gol.) (1987) Blodeugerdd o Farddoniaeth Gymraeg yr Ugeinfed Ganrif
(1979) Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC