Cod y Modiwl DA22510  
Teitl y Modiwl GEOMORFFOLEG AFONOL  
Blwyddyn Academaidd 2006/2007  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Aled P Rowlands  
Semester Semester 1  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Dr Paul A Brewer, Mr Hywel Meilyr Griffiths  
Rhagofynion DA10610 Yn ddelfrydol DA10610/GG10610, ond nid o reidrwydd., GG10610  
Elfennau Anghymharus GG22510  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   10 lectures x 2 hours  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Arholiad Semester2 Awr ARHOLIAD YSGRIFENEDIG ateb 2 gwestiwn allan o 4.100%
Arholiad Ailsefyll2 Awr AILSEFYLL ARHOLIAD Fformat yn union yr un peth i'r arholiad semestr. 100%

Canlyniadau dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Disgrifio ac esbonio prosesau erydiad, cludiant a dyddodi sydd yn gweithredu ar lethrau ac mewn sianel afon.

Disgrifio ac esbonio sut y mae newidiadau mewn llif a chyflymder yn effeithio gweithrediad prosesau afonol a sut y maent yn effeithio geometreg y sianel a phatrymau sianeli afon.

Trafod y datrysiadau rheolaeth a ellid eu cymhwyso er mwyn datrys problemau sefydlogrwydd llethr a phroblemau erydiad/dyddodiad mewn sianeli afon.

Cynnwys

Fe drafodir y themâu canlynol yn ystod darlithoedd y modiwl.

Trwy gydol y modiwl, ehangir y themâ a gyflwynwyd yn ystod modiwl Amgylcheddau Wyneb y Ddaear / Earth Surface Processes: cydberthynas proses a thirffurf, ymateb prosesau, cyfantoledd a throthwyon.   Bydd pwyslais arbennig yn cael ei roi ar y cydgysylltedd rhwng y systemau amrywiol o brosesau sydd yn gweithredu o fewn y basn afon.

Disgrifiad cryno

Amcan y modiwl yw i ddarparu gwerthusiad manwl o'r prosesau sydd yn gweithredu o fewn y basn afon cyfoes. Yn gyntaf, ystyrir system y llethr, lle mae prosesau mas symudiad a phrosesau creu sianeli yn bwysig. Mae gweddill y cwrs yn canolbwyntio ar brosesau sydd yn weithredol o fewn system y sianel. Ymhob darlith, cefnogir theori sianel gan enghreifftiau o astudiaethau achos, gan roi sylw penodol i goblygiadau prosesau geomorffolegol naturiol ar reolaeth afon.

Sgiliau Modiwl

Problem_solving Dim  
Research skills Gwneir hyn trwy ddarllen yn annibynnol ac fe'I asesir trwy safon y gyfeiriadaeth yn yr arholiad ysgrifenedig.  
Communication Dim  
Improving own Learning and Performance Gwneir hyn trwy ddarllen yn annibynnol ac fe'I asesir trwy safon y gyfeiriadaeth yn yr arholiad ysgrifenedig.  
Team work Dim  
Information Technology Dim  
Application of Number Dim  
Personal Development and Career planning Dim  
Subject Specific Skills Dim  

Rhestr Ddarllen

Llyfrau
** Testun A Argymhellwyd
Brookes, A. (1988) Channellised Rivers: Perspectives for environmental management
Downs, P.W. and Gregory, K.J. (2004) River Channel Management Arnold
Knighton, D. (1998) Fluvial Forms and Processes Arnold
Petts, G. and Foster, I. (1985) Rivers and Landscape Arnold
Robert, A. (2003) River Processes Arnold
Selby, M.J. (1993) Hillslope Materials and Processes 2nd Edition.

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 5 FfCChC