Cod y Modiwl DA25610  
Teitl y Modiwl DAEARYDDIAETH AILSTRWYTHURO ECONOMAIDD A CHYMDEITHASOL YN Y BRYDAIN GYFOES  
Blwyddyn Academaidd 2006/2007  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Rhys A Jones  
Semester Semester 1  
Rhagofynion DA10210 , GG12610 , GG10310  
Manylion y cyrsiau Eraill   20 Hours. 10x2hrs  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Arholiad Semester2 Awr Unseen examination paper (complete two from four questions set).100%
Arholiad Ailsefyll2 Awr Unseen examination paper (complete two from four questions set).100%

Canlyniadau dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:





Disgrifiad cryno

Mae newid wedi nodweddu'r dirwedd economaidd a chymdeithasol yn y rhan fwyaf o genhedloedd gan gynhyrchu daearyddiaethau anwastad a phatrymau datblygu cyferbyniol. Mae dealltwriaeth o'r prosesau sy'n gyrru'r newidiadau hyn a chydnabyddiaeth o bwysigrwydd lleoliad ac ardal wedi esgor ar fewnddirnadaethau cysyniadol a theoretaidd newydd yn y gwyddorau cymdeithasol, ac y mae daearyddwyr yn rhai o'r prif gyfranwyr yn hyn o beth. Mae'r modiwl hwn yn archwilio'r cydgysylltiad rhwng newid economaidd, cymdeithasol-wleidyddol, cynllunio a pholisi o ran siapio ardal a lleoliad ym Mhrydain, a hynny o fewn cyd-destun economi ofod sy'n globaleiddio.

Cynnwys

Mae'r themau yn y modiwl hwn yn cynnwys:
  1. Persbectifau ynglyn a newid ar ol y rhyfel: globaleiddio ac ymateb cenedlaethol
  2. Daearyddiaeth dad-ddiwydiannu ac ail-ddiwydiannu
  3. Gofodau diwydiannol newydd
  4. Llesolaeth Keynsaidd
  5. 'Workfare states' Schumpeteraidd
  6. O'r wladwriaeth ganolog i'r farchnad: rhaniadau gofodol lles mewn tai, addysg a gofal iechyd
  7. Daearyddiaeth a newid cymdeithasol: mapiau cyfnewidiol dosbarth a ffordd o fyw
  8. Goblygiadau newid i leoliadau a chymunedau
  9. O lywodraeth leol i drefn lywodraethol leol: dinasyddiaeth a chyfranogiad
  10. Agendau ar gyfer y dyfodol: mentrau polisi rhanbarthol, trefol a gwledig

Sgiliau Modiwl

Problem_solving Mae'r themâu y rhydd y modiwl sylw iddynt yn amlygur sialensiau sy'n wynebu polisi a chynllunio, ac y mae gofyn i fyfyrwyr fod yn ymwybodol o natur y fath broblemau a meddwl yn feirniadol yngl'n â'r strategaethau a fabwysiadwyd i ymdrin â hwy.  
Research skills Cânt eu datblygu a'u hehangu trwy gyfrwng ystod o lyfrau a ffynonellau polisi ar y we sy'n angenrheidiol ar gyfer y modiwl hwn.  
Communication Asesir y gallu i ysgrifennu am y themâu yr ymdriniwyd â hwy yn yr arholiad. Anogir trafodaeth yn ystod y darlithoedd ond ni fydd yn cael ei asesu.  
Improving own Learning and Performance Mae'r modiwl hwn yn gofyn am dair awr o waith hunangyfeiriedig ychwanegol am bob awr a ddysgir - fe fydd hyn yn ei gwneud yn angenrheidiol i bob myfyriwr ddatblygu sgiliau hunanreolaeth a threfnu amser  
Information Technology Cyflwynir myfyrwyr i gaffaeledd, defnydd a gwerthusiad data a deunydd arall a geir o ffynonellau ar-lein. Gellir cyfeirio at y cyfryw ddeunydd yn yr arholiad.  
Application of Number Trafodir peth data mesurol yn y darlithoedd. Disgwylir i fyfyrwyr fedru defnyddio a dehongli'r fath ddata pan yn briodol.  
Personal Development and Career planning Mae'r themau yr ymdrinir â hwy yn y modiwl hwn yn darparu cyd-destun pwysig ar gyfer ystyried gwahanol yrfaoedd a thrywyddau yn y dyfodol.  
Subject Specific Skills Ni ddatblygir unhryw sgiliau ychwanegol sy'n benodol ir pwnc, gellir ymarfer y rhai sy'n bodoli eisoes yn yr arholiad.  

Rhestr Ddarllen

Llyfrau
** Testun A Argymhellwyd
J. Mohan (1999) A United Kingdom? Economic, Social and Political Geographies Arnold
R. Hudson ac A.M. Williams Divided Britain. 2nd. Wiley
S. Pinch (1997) Worlds of Welfare: understanding the changing geographies of social welfare provision. Routledge

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 5 FfCChC