Cod y Modiwl DD24220  
Teitl y Modiwl CYFLWYNIAD I DDYLUNIO  
Blwyddyn Academaidd 2006/2007  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Roger Owen  
Semester Semester 2  
Manylion y cyrsiau Seminarau / Tiwtorialau    
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Asesiad Semester 1 x traethawd ysgrifenedig (2,500 o eiriau)30%
Asesiad Semester 1 x llawlyfr nodiadau a deunyddiau20%
Asesiad Semester 1 x aseiniad ymarferol50%
Asesiad Ailsefyll Rhaid ail-gyflwyno'r gwaith a fethwyd: os methir yr aseiniad ymarferol, gosodir prosiect ymarferol damcaniaethol newydd 

Canlyniadau dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, fe ddylai myfyriwr/myfyrwraig sy'n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni'r canlynol:

1. arddangos mestrolaeth sylfaenol o'r sgiliau technegol a ddysgwyd wrth ddewis maes arbenigol (e.e. dylunio sain, goleuo, gwisg neu set)
2. arddangos dealltwriaeth o'r berthynas rhwng gwahanol fathau o waith dylunio a gwahanol ddigwyddiadau theatraidd
3. cymhwyso'u gwybodaeth o egwyddorion y broses o ddylunio er mwyn trafod testunau dramataidd a chynyrchiadau theatraidd yn fwy awdurdodol
4. creu cofnod o'r gwahanol brosesau ymarferol a'r posibiliadau creadigol sy'n gysylltiedig a digwyddiad theatraidd neilltuol

Sgiliau Modiwl

Problem_solving Un o¿r medrau pwysicaf i¿w ddatblygu yn ystod y modiwl hwn fydd gallu¿r myfyrwyr i ddychmygu a sylweddoli canlyniadau ymarferol a thechnegol eu hymateb creadigol i destun dramataidd a pherfformiad llwyfan. Yn hynny o beth, fe fydd datrys problemau yn ganolog i¿r modiwl ac i¿w aseiniadau.  
Research skills Pwysleisir gallu'r myfyrwyr i ddatblygu ystod eang o wahanol fathau o ddeunydd mewn ymateb i¿r testun neu'r perfformiad y dewisir ei drafod. Fe fydd ymchwilio i'r testun/perfformiad hwn, ynghyd â chael deunydd enghreifftiol priodol, yn elfennau pwysig o waith y myfyrwyr felly.  
Communication Un o elfennau canolog y modiwl hwn fydd creu a darganfod ffyrdd o gyflwyno ymateb i waith creadigol trwy ddulliau gweledol a chlywedol cymharol anghyfarwydd. O ran hynny, ac o ran yr angen i son am y profiad o ddatblygu¿r deunydd ymarferol hwn mewn llawlyfr nodiadau a thraethawd, fe fydd pwyslais pendant ar ddatblygu medrau cyfathrebu yn ystod y modiwl.  
Improving own Learning and Performance Modiwl rhagarweiniol i faes dylunio fydd hwn, ac felly ni ddatblygir y sgiliau hyn yn neilltuol ag eithrio trwy gyflwyno profiadau a gwybodaeth dechnegol newydd a fydd yn ddefnyddiol i¿r myfyrwyr wrth gwblhau¿r modiwl hwn a modiwlau ymarferol eraill.  
Team work Fe fydd y modiwl yn canolbwyntio ar allu¿r myfyrwyr i ddatblygu syniadau ac ymatebion unigol i¿r testun/ perfformiad canolog, ac felly ni ddatblygir sgiliau neilltuol o ran gweithio mewn grwpiau yma. Fodd bynnag, fe fydd y profiad o wylio grwpiau eraill o fyfyrwyr ar waith a thrafod y gwaith hynny yn cymell y myfyrwyr i sylwi¿n fanwl ar natur gydweithredol cynhyrchiad theatraidd.  
Information Technology Ni ddatblygir y medrau hyn fel rhan o¿r modiwl.  
Application of Number Ni ddatblygir y medrau hyn fel rhan o¿r modiwl.  
Personal Development and Career planning Fe all y gwaith ymarferol a gyflawnir yn y modiwl hwn gyfri fel cam cyntaf tuag greu portffolio o brofiadau ac enghreifftiau o waith ymarferol i¿r myfyrwyr hynny a fydd yn ymddiddori mewn dylunio ar gyfer y theatr fel gyrfa. Fodd bynnag, ni ddatblygir y medrau hyn yn ffurfiol fel rhan o¿r modiwl.  
Subject Specific Skills Medrau penodol yn ymwneud â sgiliau technegol arbenigol (e.e. mewn dylunio gwaith sain, goleuo, gwisg neu set ar gyfer y theatr).  

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 5 FfCChC