Cod y Modiwl DD30820  
Teitl y Modiwl THEATR CYMRU GYNNAR  
Blwyddyn Academaidd 2006/2007  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Mrs Anwen M Jones  
Semester Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod  
Blwyddyn nesaf y cynigir N/A  
Semester nesaf y cynigir N/A  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   10 x 1 awr  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Arholiad Semester2 Awr  50%
Asesiad Semester Cyfraniad i seminarau trwy gyfres o dasgau arbennig megis daprau rhestr ddarllen neu gasglu manylion bywgraffiadol20%
Asesiad Semester Traethawd o 2,000 o eiriau30%
Asesiad Ailsefyll Os methir y modiwl oherwydd methiant i gyflwyno unrhyw elfen unigol o'r asesiad rhaid ail-gyflwyno'r gwaith hwnnw. Os bydd mwy nag un elfen wedi'i methu, rhaid ail-gyflwyno'r holl elfennau a fethwyd. Os methir y modiwl oherwydd methu'r elfen o asesu parhaol mewn seminarau, rhaid i'r myfyrwyr sefyll arholiad llafar unigol. 

Canlyniadau dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
1. cyflwyno trafodaeth gynhwysfawr o werth y traddodiad dramataidd yng Nghymru ochr yn ochr a'r traddodiad Prydeinig ac Ewropeaidd;
2. llunio trafodaeth gytbwys yn ysgrifenedig ac ar lafar o'r berthynas rhwng yr elfennau cymdeithasol a'r elfennau artistig o fewn gwaith unrhyw un o'r dramodwyr a astudiwyd;
3. cymhwyso'r wybodaeth a gyflwynir yn y sesiynau dysgu wrth geisio tafoli dylanwad a gwerth y dramau a astudiwyd;
4. ymateb yn gryno a hyblyg i gwestiynau ynglyn a thechneg dramataidd y dramodwyr a astudiwyd, gan sylwi'n arbennig i ba raddau y mae gweledigaeth y cyfryw ddramodwyr yn gynnyrch eu cymdeithas, ac i ba raddau y mae'n gwrthdaro a'u cymdeithas.

Disgrifiad cryno

Yn y modiwl hwn astudir dramau Gymraeg yr ugeinfed ganrif yng nghyd-destun gorolwg o ddatblygiad Theatr Gymraeg yn ystod y ganrif ddiwethaf. Yn narlithoedd y modiwl, edrychir ar ddadeni'r mudiad drama ar droad y ganrif gan rhoi sylw arbennig i'r modd roedd y datblygiad hwn yn agwedd ar ddadeni cenedlaethol ehangach. Bydd darlithoedd y modiwl yn canoli ar y broses o ddeffro ac wedyn o berffeithio'r awen ddramataidd yng Nghymru gan rhoi sylw arbennig i'r cynnydd yn y grefft o ysgrifennu drama a gymerodd le yn raddol trwy gydol y ganrif. Trinir a thrafodir y dramâu unigol o safbwynt thema, ffurf ac arddull a roddir sylw arbennig i'r argraff a greir wrth ystyried y gwaith at ei gilydd o safbwynt dilyniant a datblygiad y genre dros y ganrif. Rhoddir pwyslais ar arsylwi ac asesu ymateb cyfredol i'r dramâu yn ystod cyfnod eu hysgrifennu yn ogystal â datblygu agwedd beirniadol tuag atynt o safbwynt darllenwyr yr Ugeinfed ganrif ar hugain.

Nod

Bwriad y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i hanes y ddrama Gymraeg gan rhoi cyd-destun iddynt ar gyfer eu profiad cyfredol o ddrama a theatr yng Nghymru a chyflwyniad i'r astudiaeth pellach o'r maes a gynigir trwy gyfrwng y modiwl Theatr Cymru Gyfoes. Mae'r modiwl yn rhoi gafael I fyfyrwyr ar hanes, traddodiad a datblygiad y ddrama yng Nghymru yn ystod yr Ugeinfed ganrif ac yn canoli ar feithrin sgiliau dadansoddiadol mewn perthynas â thestustunau penodol yn ogystal â datblygu'r gallu i ddadansoddi cynnyrch dramataidd y cyfnod at ei gilydd yng nghyd-destun datblygiadau cymdeithasol, economaidd a diwylliannol ehangach yn ystod y cyfnod perthnasol.

Cynnwys

10 x Darlith 1 awr
10 x Seminar 1 awr
Darlith 1
Cyflwyniad i ddadeni'r drama Gymraeg ar droad yr Ugeinfed ganrif.
Darlith 2
Dechrau ar y broses o berffeithio'r grefft dramayddol: Beddau¿r Proffwydi
Darlithoedd 3 a 4
Drama neo glasurol Cymraeg?
Y meistr wrth ei waith - Siwan ac Esther
Darlith 5
Holi'r Hunan: J. Gwilym Jones ac Ac Eto Nid Myfi.
Darlith 6
Perthynas. Perthyn a pherthnasau - Gwenlyn Parry - Y Twr
Darlith 7
Yr hunan mewn gwagle - Ar yr Ymyl- Wil Sam a Bobi a Sami
Darlith 8
Rhoi'r cyfan yn ôl at ei gilydd - Theatr Gymunedol: Bara Caws a Bargen.
Darlith 9
Perthyn i bwy?- Meic Povey a Perthyn.
Darlith 10
Cloriannu'r cyfnod

Seminarau
Ceir Seminarau ar y testunnau gosod (9) ag un seminar gloriannu ac adolygu

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC