Cod y Modiwl DD31620  
Teitl y Modiwl PERFFORMIO 1  
Blwyddyn Academaidd 2006/2007  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Ms Charmian C Savill  
Semester Semester 2  
Rhagofynion DD21520  
Manylion y cyrsiau Sesiwn Ymarferol   8 Hours. Tua 120 awr cyswllt ynghlwm a chynhyrchiad ymarferol. Semester 1 - Wythnos 11 - 15  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Asesiad Semester Perfformiad yn y Cynhyrchiad Ymarferol.40%
Asesiad Semester Adroddiad Ymarferol: Cyfraniad i`r broses ymarfer (yn cynnwys nodiadau gweithdy)60%

Canlyniadau dysgu

Erbyn cwblhau`r modiwl hwn, fe ddylai myfyriwr/wraig sy`n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni`r canlynol:
- cydweithio fel aelod o grwp creadigol
- meithrin sgiliau penodol yn ol gofynion y cynhyrchiad
- ymateb yn greadigol a chadarnhaol i gyfarwyddyd ymarferol

Disgrifiad cryno

Yn y modiwl hwn, bydd myfyrwyr yn cael cyfle i gyflwyno cynhyrchiad theatraidd gerbron cynulleidfa gyhoeddus. Disgwylir cydweithrediad y grwp yn y modiwl hwn gan fod y cyfarwyddydd yn gweithion gyda'r cwmni fel ensemble. fe fydd syniadau a chyfraniadau'r unigolyn yn cael eu parchu, yn aml byddant yn ymddangos fel rhan o'r cynhyrchiad gorffenedig.

Nod

Ein nod wrth gyflwyno`r modiwl hwn yw eich galluogi i wneud y canlynol:

- deall gofynion y gwaith ymarferol
- cynhwyso a datblygu`r gofynion hynny wrth berfformio`n gyhoeddus
- creu rol i chi eich hunan o fewn y grwp er lles y cynhyrchiad

Cynnwys

Pwysleisir cydweithrediad grwp yn y modiwl hwn, a chyflwynir technegau neilltuol yn ymwneud a chyd-gyflwyno gwaith ymarferol. Disgwylir i fyfyrwyr gymryd y cyfrifoldeb dros eu gwaith creadigol eu hunain, gan fod yn atebol i aelodau eraill y grwp creu a chyd-drafod eu gwaith yn fanwl. Yn yr wyth sesiwn dwy awr wythnosol, byddwch yn ymchwilio i`r technegau a`r methodolegau a ddefnyddir yn y cynhyrchiad ac yn datblygu`r technegau hynny.

Rhestr Ddarllen

Llyfrau
** Hanfodol
CHEKOV, Michael (1953) To the Actor, on the Technique of Acting Harper
GORDON, Mel (1987) The Stanislavsky Technique: Russia. A Workbook for Actors Applause
ZARRILI, Philip B. (1994) Acting (Re)Considered: Theories and Practices Routledge

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC