Cod y Modiwl |
DD31720 |
Teitl y Modiwl |
PERFFORMIO 2 |
Blwyddyn Academaidd |
2006/2007 |
Cyd-gysylltydd y Modiwl |
Dr Roger Owen |
Semester |
Semester 2 |
Rhagofynion |
DD21520 |
Manylion y cyrsiau |
Sesiwn Ymarferol | 5 Hours. 8 x 2 awr + tua 120 awr cyswyllt |
Dulliau Asesu |
Assessment Type | Assessment Length/Details | Proportion |
Asesiad Semester | Cyflwyniad: Chyfraniad ir broses ymarfer a pherfformio | 70% |
Asesiad Semester | Adroddiad Ymarferol: Nodiadau ymarfer ac ymchwil | 30% |
Asesiad Ailsefyll | Ni ddarperir asesiad atodol ar gyfer y modiwl hon am ei fod yn gynhyrchiad ymarferol. Ymgymerir ag ef yn ystod semester olaf y cynllun is-raddedig.
Os methir elfen ymarferol y modiwl gwahoddir myfyrwyr i ail sefyll y modiwl y flwyddyn ganlynol.
| |
|
Further details |
Am wybodaeth ynglyn a dyddiadau cau gwaith cwrs, cyfeiriwch at dudalennau we
yr Adran ar http://www.aber.ac.uk/tfts/duedates.shtml
|
Canlyniadau dysgu
Erbyn cwblhau`r modiwl hwn, fe ddylai myfyriwr/wraig sy`n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni`r canlynol:
-
amlygu eu gallu i gyfansoddi sgor perfformio, yn seiliedig ar fethodau neilltuol
-
arddangos eu cyfrifoldeb personol, yn unigol ac o fewn grwp, mewn ymarferion ac mewn perfformiadau, ac amlygu eu bod yn deall gofynion y broses greu
-
arddangos eu hynwybyddiaeth o`r berthynas anatod rhwng hyfforddiant a pherfformiad, o safbwynt eu hymarfer a`u myfyrdod beirniadol ar yr ymarfer hwnnw
-
arddangos sgiliau perfformio neilltuol, gan amlygu gallu corfforol a lleisiol datblygiedig
Disgrifiad cryno
Yn y modiwl hwn rhoddir y cyfle i chi ymarfer eich arbenigedd yn y maes perfformio i lefel ddatblygiedig. Canolbwyntir ar waith unigol yn y modiwl hwn, gan roi cyfle i chi greu sgor perfformio manwl, a chymeriad cymhleth, yn seiliedig ar fethodau neilltuol. Archwilir y cysyniad o destun yng ngwaith y perfformiwr ac asesir y berthynas rhwng testun y ddrama, testun y perfformiwr a thestun y perfformiad.
Nod
Ein nod wrth gyflwyno`r modiwl hwn yw eich galluogi i gyflawni`r canlynol:
-
paratoi myfyrwyr yn ofalus yn gorfforol ac emosiynol yn ol gofynion eu rol
-
galluogi myfyrwyr i adfyfyrio a dadansoddi eu gwaith creadigol i safon uchel
-
archwilio ag ymestyn corff y perfformiwr fel offeryn cynrychiadol
Cynnwys
Ein nod wrth gyflwyno'r modiwl hwn yw eich galluogi i gyflawni'r canlynol:
-
paratoi yn ofalus yn gorfforol ac emosiynol yn ol gofynion eich rol
-
adfyfyrio a dadansoddi eich gwaith creadigol i safon uchel
-
archwilio a myfyrio ar gorff y perfformiwr fel offeryn cynrychioliadol
Rhestr Ddarllen
Llyfrau
** Hanfodol
LABAN, RUDOLPH (1960) The Mastery of Movement
Macdonald and Evans
LINKLATER, Kristin (1976) Freeing the Natural Voice
Drama Book Publishers
MANDERINO, Ned (1989) The Transpersonal Actor: The Whole Person in Acting
Manderino
Nodau
Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC