Cod y Modiwl DD32820  
Teitl y Modiwl THEATR MEWN ADDYSG  
Blwyddyn Academaidd 2006/2007  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Ms Charmian C Savill  
Semester Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   10 x 2 awr - darlithoedd/gweithdai  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Asesiad Semester Gwaith Prosiect: Perfformiad a chyfraniad ir prosiect70%
Asesiad Semester Traethawd 2,500 o eiriau30%
Asesiad Ailsefyll Os methir y modiwl oherwydd methiant i gyflwyno unrhyw elfen unigol o'r asesiad rhaid ail-gyflwyno'r gwaith hwnnw. Os bydd mwy nag un elfen wedi'i methu, rhaid ail-gyflwyno'r holl elfennau a fethwyd. Os methir y modiwl oherwydd methu'r elfen o asesu parhaol mewn seminarau, rhaid i'r myfyrwyr sefyll arholiad llafar unigol.  
Further details Am wybodaeth ynglyn a dyddiadau cau gwaith cwrs, cyfeiriwch at dudalennau we yr Adran ar http://www.aber.ac.uk/tfts/duedates.shtml  

Canlyniadau dysgu

Erbyn cwblhau`r modiwl hwn, fe ddylai myfyriwr/wraig sy`n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni`r canlynol:


Disgrifiad cryno

Yn y modiwl hwn bydd myfyrwyr yn cael cyfle i deithio rhaglen Theatr mewn Addysg o gwmpas ysgolion Cynradd neu Uwchradd. Pwysleisir cydweithrediad grwp yn y modiwl a rhoddir cyfleoedd i'r unigolion ymgymryd a tasgiau fel cyfarwyddo, perfformio, ymchwilio, dyfeisio, sgriptio, cynllunio gwisgoedd a set, gwaith cyswllt gydag ysgolion a.y.b.

Nod

Nod yr Adran wrth gyflwyno`r modiwl hwn yw:

- edrych ar y diwydiant addysg ac archwilio ei natur, ei swyddogaeth a`i effaith
- ystyried Theatr Mewn Addysg fel ffenomen theatraidd, fel amlygiad o ddiwylliant ac fel cangen o astudiaethau perfformio
- darganfod pwysigrwydd a pherthnasedd y fath fenter yng Nghymru
- archwilio amlygiadau gwahanol o`r weithred theatraidd a chofnodi`r cysylltiadau a`r gwrthbwynt rhwng theatr, addysg, drama, perfformio, gwleidyddiaeth a chymdeithaseg

Cynnwys

Byddwch yn mynuchu nifer o ddarlithoedd ac yn creu prosiect ymarferol. Er mwyn creu'r prosiect hwnnw byddwch yn ymweld ag ysgolion o bob math, ac os yn bosibl fe fydd cyfleoedd i fynychu perfformiadau byw. yn ystod cyfnod y prosiect disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio a chreu eu gwaith yn drylwyr gan gadw cofnod o'r broses. Ceir cyfnod gwaith yn ymarfer a pherfformio yn dilyn hynny.

Fydd y darlithoedd/gweithdai yn cynnwys y sesiynau canlynol:

Hanes Theatr Mewn Addysg
Drama Mewn Addysg a theatr Mewn Addysg
Dulliau a Fframweithiau Theatr Mewn Addysg (i)
Dulliau a Fframweithiau Theatr Mewn Addysg (ii)
Ystyr(on) y Perfformiad: Dadansoddi a Gwerthuso
Theatr Mewn Addysg a Theatr i Bobl Ifainc
Agweddau Ewropeaidd
Beth am y Dyfodol?

Rhestr Ddarllen

Llyfrau
** Hanfodol
Jackson, T. (ed) (1993) Learning Through Theatre Routledge
Oddey, A (2002) Devising Routledge
Taylor, A-M (ed) (1997) Staging Wales Gwasg Prifysgol Cymru
** Testun A Argymhellwyd
Theatr Mewn Addysg Llawlyfr ar gael o'r syddfa, sydd yn cynnwys nodiadau o gynadleddau ac erthyglau priodol o wahanol misolion
** Argymhellir - Cefndir
Boal, A. (2002) Games for Actors and Non-Actors Routledge
Edwards, D. (1998) The Shakespeare Factor; Moon River; The Deal; David
Hodgson, J (ed) (1977) The Uses of Drama
Johnson, L & O'Neill, C (eds) (1984) Dorothy Heathcote: Collected Writings on Education and Drama
O'Toole, J (1976) Theatre in Education
Redington, C (1983) Can Theatre Teach?
Redington, C (ed) (1980) Six Theatre-in-Education Programmes
Schweitzer, P (ed) (1980) Theatre-In-Education: Five Infant Programmes
Schweitzer, P (ed) (1980) Theatre-In-Education: Four Secondary Programmes
Schweitzer, P (ed) (1980) Theatre-In-Education: FourJunior Porgrammes
Wagner, J B (ed) (1999) Dorothy Heathcote: Drama as a Learning Medium

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC