Cod y Modiwl DD32920  
Teitl y Modiwl THEORI CYFARWYDDO  
Blwyddyn Academaidd 2006/2007  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Ms Charmian C Savill  
Semester Semester 1  
Rhagofynion DD10320 Unrhyw ddau o'r tri modiwl canlynol: DD10120, DD10320, DD10520  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   10 x 1 awr darlith/seminar5  
  Sesiwn Ymarferol   10 Hours. 10 x 2 awr gweithdy  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Asesiad Semester Gwaith Arddangosfa: ARDDANGOSIAD YMARFEROL50%
Asesiad Semester Traethodau: TRAETHAWD (2500)50%
Further details Am wybodaeth ynglyn a dyddiadau cau gwaith cwrs, cyfeiriwch at dudalennau we yr Adran ar http://www.aber.ac.uk/tfts/duedates.shtml  

Canlyniadau dysgu

Erbyn cwblhau`r modiwl hwn, fe ddylai myfyriwr/wraig sy`n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni`r canlynol:

- arddangos dealltwriaeth o`r sgiliau priodol, a`r ystod o bosibiliadau ar gael i`r cyfarwyddydd wrth ddehongli testun i`w berfformio
- traethu ar ddatblygiad a thwf y cysyniad a`r ymarfer o gyfarwyddo yn y Theatr Orllewinol ar hyd yr ugeinfed ganrif hyd heddiw
- dangos eu bod yn gyfrifol am eu gwaith creadigol eu hunain ac amlygu ymwybyddiaeth feirniadol o`r gwaith hwnnw mewn trafodaethau
- amlygu, drwy waith ymarferol, eu hymwybyddiaeth o ddulliau cyfarwyddo amrywiol a perthynas y cyfryw ddulliau a gwahanol fathau o theatr


Disgrifiad cryno

Yn y modiwl hwn, fe gyflwynir rhai o egwyddorion sylfaenol y grefft o gyfarwyddo ar gyfer y theatr. Yn y sesiynau dysgu, archwilir datblygiad a thwf y cysyniad o gyfarwyddo ar hyd yr ugeinfed ganrif gan ganolbwyntio ar ddulliau o ddarllen a dehongli drama ar gyfer perfformiad. Trafodir y berthynas rhwng y Cyfarwyddyd a`r Dylunydd, a threfnir sesiynau ymarferol pryd y gall myfyrwyr weithio ac arbrofi ar ddarnau o destunau wedi`u dethol o gyfnodau gwahanol.

Nod

Ein nod wrth gyflwyno`r modiwl hwn yw eich galluogi i wneud y canlynol:

- dyfnhau eich dealltwriaeth o`r sgiliau priodol, y penderfyniadau, a`r ystod o bosibiliadau sydd ar agor i`r Cyfarwyddydd wrth ddehongli testun i`e berfformio
- cwestiynu rol y sawl sy`n gyfrifol am greu a chlynnu theatr gyfoes

Rhestr Ddarllen

Llyfrau
** Hanfodol
BRADBY, David & WILLIAMS, David (1988) Director's Theatre Macmillan
MILLER, J (1986) Subsequent Performances Faber
MITTER, S (1992) Systems of Rehearsal Routledge
Manful, Helen (1999) Women Directors on Directing Methuen
Schneider, R a Cody, G (2002) Re-Directors Routledge
** Argymhellir - Cefndir
Bogart, Anne (2001) A Director Prepares Routledge
Manful, Helen (1999) Women Directors on Directing Methuen

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC