Cod y Modiwl DD33920  
Teitl y Modiwl THEATR MEWN AMGUEDDFEYDD  
Blwyddyn Academaidd 2006/2007  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Donna L Lewis  
Semester Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod  
Blwyddyn nesaf y cynigir N/A  
Semester nesaf y cynigir N/A  
Rhagofynion Cwblhau Rhan 1 yn llwyddianus,  
Cyd-Ofynion  
Elfennau Anghymharus I fyfyrwyr Anrhydedd Sengl yn unig  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Asesiad Semester Adroddiad Gwerthuso: Cofnod ysgrifenedig or gwaith archwilio a pharatoi10%
Asesiad Semester Traethodau: 2,500 o eiriau40%
Asesiad Semester Gwaith Prosiect: Prosiect ymarferol (ymchwil, dyfeisio, ymarfer a pherfformio)50%

Disgrifiad cryno

Disgrifiad Byr:

Yn y modiwl hwn, fe gyflwynir astudiaeth o Theatr mewn Amgueddfeydd ynd Nghymru. Byddwch yn mynychu nifer o ddarlithoedd ac yn creu prosiect ymarferol. Er mwyn creu`r prosiect hwnnw, byddwch yn ymweld ag amgueddfeydd ac orielau cenedlaethol Cymru, yn bennaf Amgueddfa Werin Cymru, er y gallai`r prosiect ymarferol ddigwydd mewn unrhyw un o`r amgueddfeydd hyn (e.e. Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol Caerdydd, yr Amgueddfa Werin, yr Amgueddfa Diwydiant a Mor, Amgueddfa Diwydiant Glwan Cymru, Amgueddfa Llechi Llanberis). Edrychir yn arbennig ar waith mewn lleoliad arbennig (e.e. Llancaiach Fawr, Pentre Canoloesol Cosmeston), y deunydd a ddehonglir a perthynas y perfformwyr/dehonglwyr a`r gynulleidfa/ymwelwyr. Yn ystod cyfnod prosiect disgwylir i fyfyrwyr ymwchiwilo a chrew eu gwaith gan gadw cofnod o`r broses. Ceir cyfnod gwaith yn ymarfer a pherfformio yn dilyn hynny.

Prif Nodau`r Cwrs:

Ein nod wrth gyflwyno`r modwil hwn yw eich galluogi i wneud y canlynol:

- olfyfyrio ar yr holl waith ymarferol a gyflwynwyd gennych yn yr Adran
- ennill profiad ymarferol o waith ymarferol gyda chwmni proffesiynol
- cymharu`r profiad proffesiynnol hwnnw a`r egwyddorion a gyflwynwyd yn ystod y cwrs gradd

Allbynnau Dysg:

Erbyn cwblhau`r modiwl hwn, fe ddylai myfyriw/wraig sy`n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni`r canlynol:

- dadansoddi eu profiad ymarferol gan werthuso`r gwaith a gyflawnwyd ganddynt
- dangos iddynt feithrin methodoleg dadansoddiadol sy`n gymwys ar gyfer ymdrin a`u profiadau ymarferol
- gwerthuso`r sgiliau ymarferol a brofwyd ganddynt yn yr ail flwyddyn, a`u cymhwyso i`r drafodaeth ar y gwaith a gyflawnwyd yn eu cyfnod arsylwi gyda chwmni proffesiynnol
- ymateb yn feirniadol i`r gwaith ymarferol a gyflawnwyd ganddynt gan amlygu henny mewn traethawd hir
- datblygy eu hymwybyddiaeth o theatr ymarferol yn gysyniadol drwy gyfrwng traethaed hir

Rhestr Ddarllen

Llyfrau
** Hanfodol
Alexander, Edward P. (1980) Museums In Motion AASLH
Anderson, Jay (1984) The Living History Sourcebook AASLH
Anderson, Jay (1984) Time Machines: The World of Living History AASLH
Benson, Susan Porter, Stephen Brier and Rosenzweig (eds.) (1986) Presenting The Past Temple University Press

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC