Cod y Modiwl FT31420  
Teitl y Modiwl YMCHWIL CYNHYRCHIAD  
Blwyddyn Academaidd 2006/2007  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Professor Elan Stephens  
Semester Semester 1  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Mrs Elin M Hefin Evans  
Elfennau Anghymharus TF31420  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   15 Hours.  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Asesiad Semester Aseiniad ysgrifenedig  25%
Asesiad Semester Ffolio ymchwil  75%
Further details Am wybodaeth ynglyn a dyddiadau cau gwaith cwrs, cyfeiriwch at dudalennau we yr Adran ar http://www.aber.ac.uk/tfts/duedates.shtml  

Canlyniadau dysgu

Erbyn cwblhau'r modiwl hwn, fe ddylai myfyriwr/myfyrwraig sy'n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni'r canlynol:


Disgrifiad cryno

Trafodir nifer o bynciau yn ystod y modiwl, gan gynnwys rol yr ymchwilydd yn y broses gynhyrchu ac adnabod y gynulleidfa; pitsio'r syniad; gwerthuso a defnyddio ffynonellau gwybodaeth a strategaethau ymchwil; y Rhyngrwyd fel offeryn ymchwilio; ffynonellau archifol; delio a chyfranwyr; polisi golygyddol; iechyd a diogelwch; delio a lleoliadau; ymchwil a'r gyfraith.

Nod

Nod y modiwl yw cyflwyno'r sgiliau y bydd eu hangen ar fyfyrwyr wrth weithio yn y maes ymchwil cynhyrchiad yn y cyfryngau darlledu.

Cynnwys

Beth yw ymchwil cynhyrchiad?
Ffynonellau a strategaethau gwybodaeth
Rol yr ymchwilydd 1
Rol yr ymchwilydd 11
Chwaeth a gwedduster
Ymchwil rhaglenni cylchgrawn/cerdd
Archif genedlaethol Sgrin a Sain Cymru
Cydymffurfiaeth
Rheoleiddio, hawlfraint a materion cyfreithiol
Tiwtorials unigol i drafod y prosiect

Rhestr Ddarllen

Llyfrau
** Hanfodol
Chater, Kathy (1998) Production Research: An Introduction Focal
Emms, Adele (2002) Researching for Television and Radio Routledge

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC