Cod y Modiwl FT32030  
Teitl y Modiwl TRAETHAWD HIR  
Blwyddyn Academaidd 2006/2007  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Professor Elan Stephens  
Semester Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)  
Cyd-Ofynion FT30120  
Elfennau Anghymharus  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd    
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Asesiad Semester Traethawd hir 10,000 o eiriau  100%
Further details Am wybodaeth ynglyn a dyddiadau cau gwaith cwrs, cyfeiriwch at dudalennau we yr Adran ar http://www.aber.ac.uk/tfts/duedates.shtml  

Canlyniadau dysgu

Erbyn cwblhau`r modiwl hwn, fe ddylai myfyriwr/wraig sy`n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni`r canlynol:
Ffurfio cwestiwn fel sail ar gyfer traethawd estynedig, gan sylweddoli wrth wneud hynny beth fydd yn rhaid cyflawni wrth geisio`i ateb.
Datblygu sgiliau ymchwilio sy`n briodol i`r pwnc a ddewiswyd ganddynt, a`u defnyddio wrth weithio`n annibynnol.
Tafoli cyfres o weithiau beirniadaol perthnasol, a`u cymhwyso er mwyn goleuo`r drafodaeth o`r pwnc a ddewiswyd.
Strwythuro a threfnu eu casgliadau`n glir mewn darn estynedig o waith ysgrifenedig.


Disgrifiad cryno

Yn rhan gyntaf y modiwl, fe fydd myfyrwyr yn datblygu`u sgiliau ymchwil mewn seminarau a fydd yn ymwneud a dulliau ymchwil, llyfryddiaethau ac adnoddau eraill sydd ar gael i ysgolheigion ffilm a theledu. Yn ail hanner y modiwl, fe fydd myfyrwyr yn gweithio yn unigol gydag arolygydd staff.

Nod

Nod y modiwl hwn yw cynorthwyo myfyrwyr i ymgymryd ag ymchwil unigol a chwblhau traethawd hir 10,000 o eiriau trwy ddatblygu sgiliau ymchwil a sgiliau ysgrifennu a chyflwyno o fewn cyd-destun academaidd.

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC