Cod y Modiwl GF11010  
Teitl y Modiwl PROSES CYFREITHIOL  
Blwyddyn Academaidd 2006/2007  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Mrs Glenys N Williams  
Semester Semester 1  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   20 Hours. Yn Saesneg  
  Seminarau / Tiwtorialau   4 Hours. Seminarau. Yn Gymraeg  
Exemptionau Professionalau Nid oes ei angen at Ddibenion Proffesiynol  

Canlyniadau dysgu

Erbyn diwedd y modiwl dylai fyfyrwyr fod wedi datblygu'r sgiliau/galluoedd canlynol:


Disgrifiad cryno

Amcan y modiwl yw paratoi myfyrwyr at eu hastudiaethau eraill yn y Gyfraith yn y Brifysgol trwy gyflwyno'r amrywiaeth o sgiliau y mae'n rhaid i fyfyrwyr eu meistroli er mwyn llwyddo yn yr astudiaethau hynny. Mae'r modiwl yn cyflawni hynny trwy gynnig y cyfle i ddatblygu a mireinio'r sgiliau hyn.

YMCHWILIO I'R GYFRAITH
Ar ol esbonio'n gyntaf yr angen i ddatblygu sgiliau cyfreithiol, mae'r modiwl yn cyflwyno'r syniad o ymchwil gyfreithiol a'i phwysigrwydd sylfaenol i fyfyrwyr a gweithwyr yn y Gyfraith. Cyflwynir Llyfrgell y Gyfraith, a bydd myfyrwyr yn ymgyfarwyddo a'i chynllun a'i stoc. Bydd ymarferiad llyfrgellol yn gofyn i fyfyrwyr ddod o hyd i ddewis helaeth o ddefnyddiau sy'n berthnasol i astudio'r Gyfraith. Trwy hyn bydd myfyrwyr yn dysgu sut mae ymchwilio trwy ddefnyddio `copi caled? (llyfrau, cyfnodolion, adroddiadau yn y gyfraith, gwyddoniaduron ayb) a thrwy ddefnyddio systemau technoleg gwybodaeth. Rhoddir arweiniad arbennig ar ddod o hyd i brif ffynonellau'r gyfraith - ddeddfwriaeth ac adroddiadau'r gyfraith - ar ddod o hyd i ysgrifau cyfreithiol academaidd, ac ar gynllunio ymchwil gyfreithiol.
   
DARLLEN Y GYFRAITH
Yn ogystal a dod o hyd i'r deunydd cyfreithiol addas, rhaid hefyd ddatblygu'r gallu i ddadansoddi a chymhwyso cynnyrch yr ymchwil. Rhoddir arweiniad ar ddarllen a dadansoddi deddfwriaeth, adroddiadau'r gyfraith, ac ysgrifau academaidd. Trwy gyfres o ymarferion bydd myfyrwyr yn datblygu'r sgiliau hyn ac yn cael adborth a rhagor o arweiniad gan y tiwtoriaid. Traethodau cyfreithiol ysgrifenedig ac atebion i broblemau, a thrafod a chyflwyniadau llafar mewn dosbarthiadau fydd y prif ddulliau o ddangos eich gallu i ddarllen a dadansoddi defnyddiau cyfreithiol yn ystod eich astudiaethau. Bydd cyfle yn y modiwl hwn i fyfyrwyr ddatblygu'r sgiliau hyn, yn enwedig ysgrifennu cyfreithiol a datrys problemau.

Nod

Tri amcan sydd i'r modiwl hwn. Y cyntaf yw meithrin gallu myfyrwyr i astudio'r gyfraith yn effeithiol, yn annibynnol ac mewn grwpiau. Yr ail amcan yw sicrhau bod myfyrwyr yn meithrin a datblygu sgiliau ymchwil yn y gyfraith. Y trydydd amcan yw hybu amrywiaeth o sgiliau cyflwyno a dehongli, sy'n werthfawr wrth astudio'n academaidd ar bob lefel, yn ogystal ag yn y farchnad swyddi ehangach.

Cynnwys

Maes llafur:

Cyflwyniad
Pwysigrwydd Sgiliau Cyfreithiol

Ymchwilio i'r Gyfraith
Llyfrgell y Gyfraith
Dod o hyd i Ffynonellau Sylfaenol
Dod o hyd i Ffynonellau Eilaidd

Darllen y Gyfraith
Darllen Deddfwriaeth
Darllen Adroddiadau Cyfreithiol
Darllen ysgrifau cyfreithiol academaidd

Ysgrifennu Cyfreithiol
Ysgrifennu at wahanol ddibenion cyfreithiol
Ysgrifennu academaidd - adnabod ffynonellau ac awdurdodau

Rhestr Ddarllen

Llyfrau
Gweler LA11010

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC