Cod y Modiwl GF36030  
Teitl y Modiwl CYFRAITH CAMWEDD  
Blwyddyn Academaidd 2006/2007  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Catrin F Huws  
Semester Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   40 Hours. Yn Saesneg - tair darlith un awr yr wythnos yn ystod y ddau semester  
  Seminarau / Tiwtorialau   8 Hours. Seminarau. Yn Gymraeg - pum seminar un awr ym mhob semester  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Arholiad Semester3 Awr ar ddiwedd Semester 2  100%
Arholiad Ailsefyll3 Awr adeg asesiad ychwanegol  100%
Exemptionau Professionalau Yn ofynnol at Bwrpas Proffesiynol  

Canlyniadau dysgu

Mae cyfraith camwedd yn gyfrwng delfrydol i feithrin sgiliau dadansoddi sy'r rhan hanfodol o hyfforddiant pob cyfreithiwr. Bydd y modiwl yn cyflwyno sgiliau dadansoddi rhesymegol, y gallu i gymhwyso gwybodaeth gyfreithiol wrth ddatrys problemau unigol, gwerthfawrogiad o faterion polisi, y gallu i ddefnyddio iaith yn fanwl gywir ac yn effeithiol, a'r gallu i ddadansoddi sefyllfaoedd cymhleth.

Disgrifiad cryno

Pwnc dynamig yw cyfraith camwedd sy'n trafod amrywiaeth helaeth o brofiadau dynol. Wrth astudio'r pwnc fe gewch olwg nid yn unig ar gangen hanfodol o'r gyfraith, ond hefyd ar y modd y mae'r gyfraith yn cael effaith ar lawer o weithgareddau cymdeithasol ac economaidd. Nid pwnc sych a haniaethol mo hwn, ond un sy'n dylanwadau ar fywyd beunyddiol y cartref a byd busnes fel ei gilydd. Oherwydd hyn mae cydymwneud bywiog rhwng egwyddorion cyfreithiol a pholisi cymdeithasol ac economaidd. Mae Cyfraith Camwedd yn bwnc gorfodol i fyfyrwyr LLB, ac yn bwnc craidd er mwyn cael eich eithrio o Ran 1 o arholiadau Cymdeithas y Gyfraith.

Disgrifiad cyffredinol
Dechreuwn trwy astudio Cyfraith Tresmasiad, ac yna symudwn at Esgeuluster yn ei holl agweddau. Bydd myfyrwyr yn gweld nid yn unig sut mae polisiau cymdeithasol ac economaidd wedi cael effaith allweddol ar bwnc atebolrwydd am fai ac amrediad posibl yr atebolrwydd hwnnw, ond hefyd sut maent wedi effeithio ar strwythur dadansoddol camwedd Esgeuluster. Rhan fywiog o'r gyfraith yw hon. Mae wedi datblygu llawer yn ystod y blynyddoedd diweddar, ac mae'n faes dadleuol o hyd. Ar ol trafod amddiffyniadau ac atebolrwydd dirprwyol (sef atebolrwydd cyflogwr am gamwedd a gyflawnir gan ei weithwyr), mae'r cwrs yn ystyried camweddau eraill, yn enwedig y rhai sy'r ymwneud a dyletswyddau perchennog eiddo, megis niwsans ac atebolrwydd am lygredd. Mae'r cwrs yn ei grynswth yn trafod sut mae'r gyfraith yn gosod safonau ymddygiad personol a masnachol ar osgoi difrod, ac mae'n hanfodol nid yn unig yn ei rinwedd ei hun, ond hefyd yng nghyswllt llawer o feysydd eraill y gyfraith.

Nod

Yn ogystal a rhoi sylfaen gadarn yng nghyfraith camwedd, mae'r cwrs yn cynnig dealltwriaeth hanfodol o'r modd y mae'r gyfraith gyffredin yn gweithredu. Dyma gyfrwng perffaith i feithrin yn arbennig sgiliau dadansoddi sy'n rhan hanfodol o hyfforddiant pob cyfreithiwr. Mae'n cynnig hyfforddiant mewn dadansoddi problemau cymhleth a'r gallu i feddwl yn rhesymegol, yn ogystal a deall effeithiau ehangach y gyfraith a sut mae penderfyniadau wedi eu gwneud o blaid neu yn erbyn atebolrwydd. Mae'n bwnc sy'n rhoi pwys mawr ar gyfraith achosion, ac o'r herwydd byddwch yn meithrin sgiliau da mewn gwneud ymchwil i achosion, ar bapur a thrwy chwilio drwy amrywiaeth o gronfeydd data. Fe wnewch hyn nid yn unig wrth weld y rheolau cyfreithiol a sefydlwyd gan yr achosion, ond hefyd wrth ddeall sut y datblygir cynsail a sut y mae egwyddorion cyffredinol yn cael eu creu.

Cynnwys

Dysgu
Dysgir Cyfraith Camwedd trwy gyfrwng darlithiau a seminarau. Bydd y darlithiau'n cynnig golwg ar strwythur y gyfraith a sut y gellir dadansoddi achosion i greu'r egwyddorion sydd y tu ol i'r pwnc. Gan fod Cyfraith Camwedd yn rhoi pwys mawr ar gyfraith achosion, ni fydd y darlithiau'n cynnig datganiad diffiniadol o reolau'r gyfraith ond yn hytrach bydd myfyrwyr yn cael eu harwain i wneud eu hasesiad eu hunain o ystyron yr achosion. Mae darllen yr achosion a argymhellwyd yn hanfodol, a bydd seminarau'n cynnig fforwm i drafod sut mae deall a chymhwyso cyfraith achosion yn gywir. Trwy hynny bydd y myfyrwyr yn magu profiad o egluro syniadau cymhleth. Bydd cyfle hefyd i ysgrifennu dau draethawd yn ystod y flwyddyn, a bydd mynegiant eglur a dadansoddi gramadegol yn angenrheidiol.

Maes Llafur:

1. Egwyddorion Cyffredinol

2. Cyd-destun Cymdeithasol ac Economaidd Cyfraith Camwedd

TRESMASIAD

3. Tresmasiad ar yr Unigolyn
(a) Curo ac ymosod
(b) Peri gofid emosiynol yn fwriadol
(c) Camgarcharu
(ch) Amddiffyniadau i dresmasiad ar yr unigolyn

4. Tresmasiad ar Dir

5. Ymyrraeth Fwriadol a Theclynnau
(a) Tresmasiad ar Nwyddau
(b) Trosiant

6. Tresmasiad ac Esgeuluster

ESGEULUSTER - YR EGWYDDORION SYLFAENOL

7. Dyletswydd Gofal
(a) Ystyr dyletswydd
(b) Yr achwynydd na ellir mo'i ragweld

8. Safon Gofal
(a) Y dyn rhesymol
(b) Sgil y diffynnydd
(c) Ffactorau eraill
(ch) Eithriadau i wir wrthrychedd

9. Prawf o Esgeuluster

10. Achosiaeth a Phellenigrwydd Difrod
(a) Achosiaeth
(b) Pellenigrwydd difrod

11. Diwygiadau
(a) Comisiwn Pearson
(b) System Seland Newydd o atebolrwydd heb fai

ESGEULUSTER - PROBLEMAU DYLETSWYDD PELLACH

12. Anwaith

13. Atebolrwydd Cyrff Cyhoeddus

14. Sioc Nerfol

15. Camddatganiad Esgeulus

16. Colled Economaidd - Ymyrraeth esgeulus a mantais arfaethedig

17. Dyletswydd Gofal a Chontract

18. Atebolrwydd Cynhyrchion
(a) Contract
(b) Esgeuluster
(c) Deddf Gwarchod Defnyddwyr 1987

19. Plant Heb eu Geni

AMDDIFFYNIADAU

20. Esgeuluster Cyfrannol

21. Caniatad
(a) Effaith hysbysiad
(b) Caniatad - volenti non fit injuria

22. Ex turpi causa/anghyfreithlondeb

ATEBOLRWYDD DIRPRWYOL

23. Atebolrwydd Dirprwyol
(a) Y theori gyfreithiol
(b) Natur `cyflogaeth?
(c) Cwrs cyflogaeth
(ch) Contractwyr annibynnol/yr hunangyflogedig

CAMWEDDAU PELLACH

24. Tor-ddyletswydd Statudol

25. Atebolrwydd Deiliad
(a) Atebolrwydd i ymwelwyr
(b) Atebolrwydd i dresmaswyr ac eraill nad ydynt yn ymwelwyr

26. Niwsans
(a) Niwsans cyhoeddus
(b) Niwsans preifat

27. Atebolrwydd Caeth: Rylands v Fletcher

28. Atebolrwydd am Danau

29. Rheoli Mathau Arbennig o Lygredd
(a) Gollyngdod niwclear
(b) Cael gwared a gwastraff

30. Atebolrwydd am Anifeiliaid

31. Difenwad

Rhestr Ddarllen

Llyfrau
Gweler LA36030

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC