Cod y Modiwl | GF36130 | ||||||||||||||
Teitl y Modiwl | CYFRAITH TIR | ||||||||||||||
Blwyddyn Academaidd | 2006/2007 | ||||||||||||||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Dr Catrin F Huws | ||||||||||||||
Semester | Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester) | ||||||||||||||
Staff Eraill sy'n Cyfrannu | Dr Catrin F Huws | ||||||||||||||
Manylion y cyrsiau | Darlithoedd | 40 awr o ddarlithoedd yn Saesneg (tair darlith awr yr un bob wythnos) | |||||||||||||
Seminarau / Tiwtorialau | 8 awr o seminarau yn Gymraeg (pedair seminar awr yr un bob semester) | ||||||||||||||
Dulliau Asesu |
|
- fod wedi casglu stôr helaeth o wybodaeth ynghylch y perthnasau cyfreithiol sydd yn ymwneud â thir a thrafodaethau yn ymwneud â thir.
- allu egluro¿r berthynas rhwng y fframweithiau sydd yn gonglfeini i gyfraith tir, a¿r ddeddfwriaeth a¿r cynseiliau sydd yn deillio o¿r fframweithiau hynny;
- allu dangos eu gallu i werthuso sylwedd, strwythur a gweinyddiaeth cyfraith tir yn feirniadol
- allu gosod eu gwybodaeth o reolau ac egwyddorion cyfreithiol ac ecwitïol o fewn cyd-destun ehangach theori cymdeithasol a chyfreitheg
- allu gosod cyfraith Cymru a Lloegr o fewn cyd-destun hanesyddol, cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol, a lle bo hynny¿n berthnasol, gwerthfawrogi safbwyntiau cymharol a rhyngwladol ar gyfraith tir a pherchnogaeth
- allu gwerthuso rhai o¿r sialensiau sydd yn wynebu cyfraith tir, ar sail eu gwybodaeth bresennol o ymchwil a llenyddiaeth gyfredol
- fod wedi tangymeryd lefel addas o ymchwil systemaidd dros gyfnod o amser er mwyn adnabod cwestiynau sydd yn codi o nifer o feysydd yn ymwneud â chyfraith tir
- fod wedi datblygu¿r sgiliau angenrheidiol ar gyfer ymchwilio¿n annibynnol gan ddefnyddio ystod o ffynonellau (e.e. cynseiliau, statudau, papurau newydd, cylchgronau a ffynonellau electronig)
- fod wedi datblygu¿r gallu i gyfathrebu¿n effeithiol ac yn glir yn ysgrifenedig ac ar lafar ac i gyfleu gwybodaeth a deallusrwydd feirniadol i eraill
Disgrifiad byr
Awgryma teitl y modiwl hwn, Cyfraith Tir, bwnc sydd â pharamedrau clir, pendant a hawdd i¿w diffinio. Fodd bynnag, realiti gymhlethach sydd i¿r pwnc, gan iddo gwmpasu meysydd eraill o¿r gyfraith megis cyfraith teulu, cyfraith tai, cyfraith yr amgylchedd a chyfraith ecwiti ac ymddiriedolaethau, a chan iddo gael ei ddylanwadu gan gysylltiadau cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd cymhleth.
Canolbwyntia¿r modiwl ar y materion cyfreithiol sydd yn deillio o bwysigrwydd tir fel ased ac fel adnodd cymdeithasol. Fel yr awgrymir gan deitlau rhai o¿r gwerslyfrau y mae¿n bwnc sydd yn ymdrin ag eiddo a hawliau dros eiddo. Er bod tir yn hanfodol i fodolaeth dynolryw, caiff hawliau dros dir hefyd effaith sylweddol ar lywio a diffinio ein cymdeithasau. Gan hynny, ceir cysyniadau gwahanol iawn o eiddo mewn gwahanol gyfnodau ac mewn gwahanol leoliadau, ac mae¿r berthynas rhwng yr unigolyn, gwrthrychau a¿r wladwriaeth yn un sydd yn ddeinamig ac yn newidiol. Felly, un o amcanion y modiwl hwn yw i ddadansoddi¿r cysylltiadau hyn, ac i gyplysu syniadaeth ynghylch eiddo a thir gyda¿u cyd-destunau cymdeithasol, hanesyddol, economaidd a gwleidyddol ehangach.
Y mae¿r modiwl yn gywerth â 30 credyd ac fe¿i dysgir drwy gyfrwng ddarlithoedd a seminarau. Ceir 40 darlith ac 8 seminar dros ddau semester. Fodd bynnag, gan fod bron i 70 o slotiau darlith ar gael yn y cyfnod hwn, weithiau bydd tair darlith yn cymryd lle mewn wythnos, a dwy ddarlith ar amseroedd eraill. Gan hynny, fe¿ch cynghorir i gadw golwg ar eich e-bost bob wythnos er mwyn derbyn manylion am y cwrs.
Amcanion
Bwriad y modiwl hwn, un o¿r modiwlau craidd o fewn addysg gyfreithiol, yw i gyflwyno myfyrwyr i ystod eang o reolau ac egwyddorion cyfreithiol ac ecwitïol sydd yn rheoli cyfraith tir a hawliau dros eiddo. Ar yr un pryd, anela¿r modiwl i ddatblygu safbwynt feirniadol ar y wybodaeth hon drwy ystyried y fframweithiau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol cymhleth sydd yn gonglfeini i¿r pwnc. Er bod y darlithoedd a¿r gwaith darllen ychwanegol wedi eu paratoi er mwyn cyflwyno¿r sylwebaeth feirniadol hon, anogir myfyrwyr i gymryd rhan blaenllaw yn eu haddysg eu hunain. Gan hynny, amcan y seminarau a¿r asesiadau ysgrifenedig yw i ddatblygu sgiliau dadansoddi a beirniadu, ymchwil annibynnol a chyfathrebu effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Cyflwyniad hanesyddol
Ystyr tir
Buddiannau cyfreithiol ac ecwitïol
Egwyddor deiliadaeth
Egwyddor ystadau
Cyflwyniad i ddeddfwriaeth 1925
Amcanion polisi
Ystadau a buddiannau cyfreithiol wedi 1925
Ystadau a buddiannau ecwitïol wedi 1925
Y sustem pridiannau tir
Y sustem gofrestru tir, gan gynnwys Deddf Cofrestru Tir 2002
Cofnodi buddiannau dros dir anghofrestredig
Cofnodi buddiannau dros dir cofrestredig
Rhwymediau
Adran B - Trosglwyddiadau Tir
Creu hawliau ffurfiol dros dir
Problemau gyda chytundebau cyn-gontract
Contractau a Chyflawni
Meddiant yng ngwrthgefn
Adran C - Ariannu pryniant tir ¿ morgeisi
Twf meddiant gan berchennog ¿ banciau a chymdeithasau adeiladu
Creu morgeisi ¿ ffurfioldebau, telerau ac amodau
Effeithiau morgeisi ar y morgeisiwr a¿r morgeisiai
Y farchnad dai, yr 80au hwyr, ecwiti negyddol ac adfeddiant
Adran Ch- Prydlesi, Trwyddedau ac Ystopel Eiddo
Meddiant gan denantiaid a¿r sector rhentu
Creu prydlesi
Telerau ac amodau
Amddiffyn prydlesi
Diwygio prydlesi
Gwahaniaethu rhwng prydles a thrwydded
Ystopel eiddo
Adran D - Cydberchnogaeth ac ymddiriedolaethau
Hawliau anffurfiol dros dir
Hanes yr ymddiriedolaeth
Pobl ac eiddo
Ymddiriedolaethau tir
Ymddiriedolaethau sy¿n dychwel ac ymddiriedolaethau drwy ddehongliad
Hawliau meddiant statudol
Adran E -Hawddfreiniau
Gofynion hawddfraint ddilys
Creu hawddfreiniau
Amcanion hawddfreiniau
Gwahaniaethu rhwng hawddfreiniau cyfreithiol a hawddfreiniau ecwitïol
Adran F ¿ Cyfamodau
Dulliau mewn cyfraith breifat a chyfraith cyhoeddus er mwyn rheoli defnydd tir
Cyfamodau cyfyngol
Trosglwyddo dyletswydd a mantais mewn cyfamodau mewn rhydd-ddaliadau
Cynlluniau adeiladau
Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC