Cod y Modiwl GF37810  
Teitl y Modiwl CYFRAITH GOFAL IECHYD  
Blwyddyn Academaidd 2006/2007  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Mrs Glenys N Williams  
Semester Semester 1  
Manylion y cyrsiau Seminarau / Tiwtorialau   3 Hours. 4 awr 3 seminar 1 awr o hyd  
  Darlithoedd   16 Hours. 16 awr 16 darlith 1 awr o hyd  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Asesiad Semester Traethawd 2000 o eiriau erbyn wythnos 10  100%
Asesiad Ailsefyll Ail eistedd y rhan hynny a fethwyd   
Exemptionau Professionalau Eithriadau Proffesiynol Nid yw yn angenrheidiol  

Canlyniadau dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn dylai myfyrwyr fedru:
Dehongli a dadansoddi'r perthynas rhwng y gyfraith, meddygaeth, moeseg a pholisi;
Dadansoddi a gwerthuso cryfderau a gwendidau'r darpariaethau cyfreithiol cyfredol;
Ystyried yn feirniadol sut mae'r gyfraith yn gweithio ac adnabod ei ddiffygion;
Ystyried sut mae materion moesol yn dylanwadu ar y gyfraith;
Ystyried dylanwad y Ddeddf Hawliau Dynol;
Dangos ymwybyddiaeth o unrhyw ddiwygiadau a'r polisiau sydd yn effeithio ar unigolion;
Trafod y deunydd a gyflwynir yn y modiwl ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y dulliau traddodiadol academaidd;
Ehangu sgiliau ymchwil

Disgrifiad cryno

Fe fydd y modiwl yn trafod rhai o themau pwysig Gofal Iechyd (fel cleifion terfynol gwael, iechyd cymunedol, agweddau gwledig, cyfyngder adnoddau a dulliau cwyno) gan ganolbwyntio ar ddarpariaethau'r Cynulliad ar ol datganoli.
Fe fydd y modiwl yn edrych ar ddiwygiadau yn y ffordd y rheolwyd gofal iechyd ers datganoli, gan gymharu Gwasanaeth Iechyd Cymru gyda Gwasanaeth Iechyd gweddill y Deyrnas Unedig.

Nod

Nod yr Adran wrth gyflwyno'r modiwl hwn yw:
Datblygu ymwybyddiaeth o'r perthynas rhwng polisiau cymdeithasol, y gyfraith a meddygaeth trwy edrych ar ddatblygiad a rheolaeth gofal iechyd yng Nghymru

Rhestr Ddarllen

Llyfrau
** Testun A Argymhellwyd
J Montgomery (2003) Health Care Law OUP
McHale, Fox and Murphy (1997) Sweet & Maxwell

Tudalen/Safle Ar Y We
** Cewch Ragor O Wybodaeth
Deddfwriaeth Cymru a chronfeydd data cyfreithiol eraill e.e. www.wales-legislation.hmso.gov.uk a http://www.waleslegislation.org.uk
Dulliau cwyno'r Gwasanaeth Iechyd (www.nhs.uk/patientsvoice/how_to_complain.asp )
Gwasanaeth Iechyd Cymru (www.wales.nhs.uk/w-index.cfm )
NICE (www.nice.org.uk/ )
Ombwdsmon Gwasanaeth Iechyd Cymru (www.ombudsman.org.uk/ )
Sefydliad Iechyd Gwledig (www.rural-health.ac.uk )
Sefydliad Materion Cymreig http://www.iwa.org.uk
Swyddog Iechyd Cymru www.cmo.wales.gov.uk/ )
The Richard Commission http://www.richardcommission.gov.uk
Y Cynulliad (www.cymru.gov.uk/index.htm )
Yr uned Gyfansoddiadol http://www.constitution-unit/health/

Llyfrau
Cyhoeddwyd y gwerslyfrau i gyd yn Saesneg, ond fe fydd adrannau helaeth o'r gwerslyfrau, ag o'r achosion cyfreithiol pwysicaf, yn cael eu cyfieithu i'r Gymraeg e.e.

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC