Cod y Modiwl GW10220  
Teitl y Modiwl GWLEIDYDDIAETH A LLWYWODRAETHU  
Blwyddyn Academaidd 2006/2007  
Cyd-gysylltydd y Modiwl To Be Arranged  
Semester Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod  
Blwyddyn nesaf y cynigir N/A  
Semester nesaf y cynigir N/A  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   20 Hours. 0 x 1 hour lectures  
  Seminarau / Tiwtorialau   8 Hours. x 1 Hour seminars  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Arholiad Semester2 Awr  70%
Asesiad Semester 1 x 2000 word essay  30%

Canlyniadau dysgu

Wedi cwblhau'r modiwlau, dylai myfyrwyr allu:

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn yn darparu cyflwyniad i wahanol ffurfiau a deinameg trefniadaeth, ymddygiad a meddwl gwleidyddol; i'r gwahanol agweddau tuag at astudio gwleidyddiaeth, a natur ddadleuol grym.

Nod

Nod y modiwl hwn yw rhoi cyflwyniad i astudio a dadansoddi gweithgaredd gwleidyddol a'i berthynas a syniadau, sefydliadau, prosesau, strwythurau a gwerthoedd. Bydd yn cynnig i fyfyrwyr amrywiaeth o offer dadansoddol fydd yn eu galluogi i archwilio'r berthynas rhwng meddwl gwleidyddol, ideoleg a thraddodiadau ar un llaw a threfniadaeth lywodraethol, systemau gwleidyddol a llunio polisiau ar y llaw arall. Bydd y cwrs yn galluogi myfyrwyr: i) i adnabod prif gysyniadau a phynciau astudio gwleidyddiaeth; ii) i drafod natur gwrthdaro a grym; iii) i egluro deinameg systemau gwleidyddol; a iv) i ddangos sut mae syniadau yn dylanwadu ar dybiaethau ac ymddygiad gwleidyddol.

Cynnwys

Ar ol darparu braslun cychwynnol o gysyniadau cyffredinol gwleidyddiaeth a grym, mae'r cwrs yn edrych ar ddetholiad o agweddau damcaniaethol tuag at ddechreuadau'r wladwriaeth, amrywiaeth y natur ddynol ac ystyr a chwmpas dyletswydd gwleidyddol. Wedyn ceir dadansoddiad o ryddid, cydraddoldeb a chenedlaetholdeb, ynghyd a'r cysylltiadau gyda'r wladwriaeth a dulliau ac ieithwedd trafodaeth wleidyddol. Canolbwyntir ar achosion a chanlyniadau'r norm rhyddfrydol democrataidd, cyn symud ymlaen i edrych yn fanwl ar y thema o systemau gwleidyddol ac yn arbennig eu strwythurau, prosesau a'u swyddogaethau, gan gynnwys cyfansoddiadau, llysoedd, cyrff deddfwriaethol, gweithrediadau, etholiadau, pleidiau a llunio polisi. Mae'r adran nesaf yn ymdrin a chyfundrefnau gwleidyddol o dan bwysau, gan gynnwys yr anawsterau a geir wrth geisio creu systemau gwleidyddol sefydlog mewn cenhedloedd newydd, y sialensiau sy'n codi wrth wynebu llywodraethau awdurdodaidd a llygredd, a'r problemau a ddaw pan fydd gwladwriaethau'n gorymestyn ac, yn y gorffennol, gan ideoleg totalitaraidd. Bydd yr adran olaf yn edrych ar arwyddocad syniadau newydd (e.e. ffeministiaeth, y meddylfryd gwyrdd), materion newydd (dinasyddiaeth, integreiddio rhanbarthol), a datblygiadau newydd (e.e. mudiadau cymdeithasol newydd, e-ddemocratiaeth) o ran cynnal a hygrededd y norm rhyddfrydol democrataidd.

Sgiliau trosglwyddadwy

Caiff y myfyrwyr gyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy fydd yn eu helpu i ddeall, dadansoddi a chloriannu esiamplau a syniadau. Caiff y myfyrwyr eu hannog i ymarfer ac ehangu eu sgiliau darllen, deall a meddwl, yn ogystal a'u sgiliau rhifedd sylfaenol a hunanreolaeth. Mewn darlithoedd, bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau gwrando a chymryd nodiadau, yn ogystal a sgiliau dadansoddol. Mewn seminarau bydd myfyrwyr yn ehangu eu sgiliau dadansoddol. Byddant yn ymarfer gwrando, esbonio a thrafod, yn ogystal a phrofi gwaith tim a datrys problemau. Bydd ysgrifennu traethodau yn annog myfyrwyr i ymarfer eu sgiliau ymchwil annibynnol, ysgrifennu a TG, a bydd yr arholiadau yn profi'r sgiliau o dan amodau amser.

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC