Cod y Modiwl |
GW11120 |
Teitl y Modiwl |
CYMRU YN EWROP |
Blwyddyn Academaidd |
2006/2007 |
Cyd-gysylltydd y Modiwl |
Dr Elin Royles |
Semester |
Semester 1 |
Staff Eraill sy'n Cyfrannu |
Mr John Glyn |
Elfennau Anghymharus |
IP10120 , GW12120 , IP12120 |
Manylion y cyrsiau |
Darlithoedd | 18 Hours. (18 x 1 awr) |
|
Seminarau / Tiwtorialau | 8 Hours. (8 x 1 awr) |
Dulliau Asesu |
Assessment Type | Assessment Length/Details | Proportion |
Arholiad Semester | 2 Awr | 70% |
Asesiad Semester | 1 x traethawd 2,000 o eiriau | 30% |
Arholiad Ailsefyll | Os bydd y Gyfadran yn rhoi cymeradwyaeth, caiff myfyrwyr ailsefyll y modiwl hwn. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch a Gweinyddwr Academaidd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol. | |
|
Canlyniadau dysgu
Ar ol iddynt gwblhau'r modiwl, dylai'r myfyrwyr allu:
- Gwerthuso datblygiadau cyfoes yng ngwleidyddiaeth Cymru a'u lleoli o fewn fframwaith ehangach gwleidyddiaeth Prydain ac Ewrop.
- Meddu ar wybodaeth gyflawn o hanes sylfaenol, sefydliadau, ymarfer gwleidyddiaeth a llunio polisiau yng Nghymru, y Deyrnas Gyfunol a'r Undeb Ewropeaidd, a'r gyd-berthnasau rhwng y lefelau hyn.
- Arddangos ymwybyddiaeth feirniadol o'r prif faterion damcaniaethol a chysyniadol y gwahanol lefelau llywodraethol a'r cysylltiadau rhwng y lefelau hyn.
- Gwneud defnydd effeithiol o sgiliau dynodi a lleoli ffynonellau addas; astudio annibynnol; ysgrifennu (traethodau ac arholiadau); sgiliau TG yn ogystal a rheolaeth amser.
10 credydau ECTS
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl yn darparu cyflwyniad cyffredinol i hanes, sefydliadau allweddol ac ymarfer cyfoes gwleidyddiaeth yng Nghymru, Prydain a'r Undeb Ewropeaidd.
Nod
Prif amcan y modiwl yw rhoi cyflwyniad i hanes, sefydliadau, ac ymarfer gwleidyddiaetrh yng Nghymru a'u lleoli yng nghyd-destun y Wladwriaeth Brydeinig a Gwleidyddiaeth yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r modiwl hefyd yn darparu cyflwyniad i drefn wleidyddol y wladwriaeth Brydeining a'r Undeb Ewropeaidd. Y bwriad yw y bydd myfyrwyr yn gallu yn ystyried yn feirniadol rhai o'r prif gwestiynau a materion cysyniadol wrth wraidd gwleidyddiaeth ar y tair lefel. Dyma¿r modiwl craidd Rhan Un ar gyfer y cynlluniau gradd mewn Gwleidyddiaeth a Gwleidyddiaeth Cymru a Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Gwleidyddiaeth Cymru.
Cynnwys
Bydd rhan gyntaf y modiwl yn gosod cyd-destun gwleidyddiaeth yng Nghymru drwy ystyried cyfundrefn wleidyddol y Deyrnas Gyfunol a'r camau at ddatganoli. Yna, bydd yn canolbwyntio ar natur datganoli i Gymru, effaith creu'r Cynulliad Cenedlaethol ar wleidyddiaeth a chreu polisiau yng Nghymru, ac ar y berthynas a'r wladwriaeth Brydeinig. Yna bydd ail ran y modiwl yn canolbwyntio ar yr Undeb Ewropeaidd. Wedi cyflwyno hanes, strwythurau sefydliadol yr Undeb Ewropeaidd, bydd y modiwl yn bwrw golwg ar rai o'r prif faterion syniadaethol ac ymarfer gwleidyddiaeth ar lefel yr Undeb Ewropeaidd. Yn olaf, bydd y modiwl yn lleoli rol Cymru yn Ewrop ac yna'n gwerthuso yn feirniadol rol Cymru yng ngwleidyddiaeth Prydain ac Ewrop, a'r berthynas rhwng Cymru, Prydain ac Ewrop.
Sgiliau trosglwyddadwy
Bydd y myfyrwyr yn cael cyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn eu helpu i ddeall, gwerthuso enghreifftiau a syniadau. Drwy gydol y cwrs dylai myfyrwyr ymarfer a gwella eu sgiliau darllen, deall l, rhesymu a dadansoddi, yn ogystal a'u sgiliau hunanreoli. Yn ystod darlithoedd, bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau gwrando ac ysgrifennu nodiadau, yn ogystal â sgiliau dadansoddi. Mewn seminarau, bydd myfyrwyr yn gwella eu sgiliau dadansoddi ac yn ymarfer sgiliau gwrando, egluro a dadlau, yn ogystal a gweithio mewn tim a datrys problemau. Bydd ysgrifennu traethodau yn annog myfyrwyr i ymarfer eu sgiliau ymchwilio annibynnol, ysgrifennu a TG, a bydd yr arholiadau yn profi'r sgiliau hyn o dan amgylchiadau amser cyfyngedig. Bydd elfen o ddatblygu sgiliau dadansoddi data mesurol hefyd i'r cwrs.
Nodau
Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC