Cod y Modiwl GW11220  
Teitl y Modiwl CYFLWYNIAD I WLEIDYDDIAETH  
Blwyddyn Academaidd 2006/2007  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Elin Royles  
Semester Semester 2  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Yr Athro Howard L Williams, Ms Anwen M Elias, Mr John Glyn, Huw Lloyd Williams, Miss Lora Sian Gibson, Mr Patrick Joseph Carlin, Mr Huw Dylan  
Elfennau Anghymharus IP10220 , GW12220 , IP12220  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   18 Awr (18 x 1 awr)  
  Seminarau / Tiwtorialau   8 Awr (8 x 1 awr)  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Arholiad Semester2 Awr  70%
Asesiad Semester Un traethawd 2,000 o eiriau  30%
Arholiad Ailsefyll Students may, subject to Faculty approval, have the opportunity to resit this module, normally during the supplementary examination period. For further clarification please contact the Teaching Programme Administrator in the Department of International Politics. 

Canlyniadau dysgu

Ar ol i fyfyrwyr gwblhau'r modiwl dylent gallu trafod y canlynol mewn modd ddeallus a beirniadol:
- tarddiad y wladwriaeth a pherthynas y wladwriaeth a syniadau/arferion cysylltiedig megis sofraniaeth a chenedlaetholdeb;
- tarddiad cyfalafiaeth a dadleuon cyferbyniol parthed 'naturioldeb' a chyfiawnder y gyfundrefn gyfalafol; a,
- natur grym mewn gwleidyddiaeth gyfoes ac ymdrechion i ffrwyno a chyfeirio grym trwy ddulliau democrataidd;
- y prif ddulliau astudio a ddefnyddir gan y sawl sy'n astudio gwleidyddiaeth.
Yn ogystal, trosgwlyddir nifer o sgiliau sylfaenol i fyfyrwyr er mwyn gwella eu gallu i astudio'r pynciau hyn ac i gyfathrebu ffrwyth eu gwaith.

Disgrifiad cryno

Bwriad y modiwl yw cyflwyno myfyrwyr i'r astudiaeth o wleidyddiaeth

Nod

Bwriad y modiwl yw rhoi cyflwyniad i'r astudiaeth o wleidyddiaeth. O ganlyniad, mae'r modiwl yn cwmpasu sawl elfen wahanol: trafodaeth gyffredinol ar darddiad a nature y prif elfennau sy'n gosod y fframwaith ar gyfer gwleidyddiaeth gyfoes (Y Wladwriaeth, Grym a Chyfalafiaeth); trafodaeth o syniadau rhai o'r Meddylwyr Creiddiol sydd wedi bwrw golwg ar agweddau allweddol o'r elfennau hyn (Hobbes, Rousseau, Marx, Machiavelli a Gramsci); a chyflwyniad i rai o'r dulliau astudio pwysicaf sy'n cael eu defnyddio gan y rhai sy'n ceisio astudio a deall gwleidyddiaeth gyfoes (Dulliau Ansoddol (qualitative), Meintiol (quantitative) a Chymharol (comparative).

Cynnwys

Bydd rhan gyntaf y cwrs yn trafod y cysyniad o'r wladwriaeth gan drafod tarddiad y wladwriaeth a syniadau sy'n gysylltiedig a gweithredu gwleidyddiaeth o fewn gwladwriaethau. Dilynir hyn gan ddadansoddiad o natur cyfalafiaeth a'r safbwyntiau eraill ar ffyrdd o drefnu'r economi a'r goblygiadau ehangach i wleidyddiaeth a chymdeithas. Bydd rhan olaf y cwrs yn trafod y gwahanol agweddau ar rym.

Sgiliau trosglwyddadwy

Bydd y myfyrwyr yn cael cyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn eu helpu I ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau. Cant eu hannog i ennill gwybodaeth ac i'w gysylltu a thasgau penodol. Drwy gydol y cwrs dylai myfyrwyr ymarfer a gwella eu sgiliau darllen, deall a meddwl, yn ogystal a'u sgiliau rhifedd a hunanreoli sylfaenol. Yn ystod darlithoedd bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau gwrando ac ysgrifennu nodiadau, yn ogystal a sgiliau dadansoddi. Mewn seminarau bydd myfyrwyr yn gwella eu sgiliau dadansoddi. Byddant yn ymarfer sgiliau gwrando, egluro a dadlau, yn ogystal a gweithio mewn tim a datrys problemau. Bydd ysgrifennu traethodau yn annog myfyrwyr i ymarfer eu sgiliau ymchwilio annibynnol, ysgrifennu a TG, a bydd yr arholiadau yn profi'r sgiliau hyn o dan amgylchiadau amser cyfyngedig.

Rhestr Ddarllen

Llyfrau
** Testun Ychwanegol Atodol
Almond, Gabriel A. Comparative Politics Today edition 7n.e.of r.e. . Addison-Wesley Educational Publishers 0321089820
Annas, Julia Introduction to Plato's Republic Oxf.U.P. 0198274297
Bryson, Valerie Feminist political theory : an introduction Macmillan
Crick, Bernard Socialism Open U.P. 0335153879
D. Emrys Evans Y wladwriaeth / Plato Gwasg Prifysgol Cymru
Eccleshall, Robert Political Ideologies edition n.e. . Routledge 0415094429
Goodwin, Barbara Using Political Ideas edition 4r.e. . Wiley 0471973432
Hague, Rod Comparative Government and Politics edition 5r.e. . Palgrave 0333929713
Hampsher-Monk, Iain History of Modern Political Thought Blackwell,U.S. 1557861471
Held, David Models of Democracy edition 2r.e. . Polity P. 0745617492
Landman, Todd Issues and Methods in Comparative Politics Routledge 0415187281
Locke, John, edited by David Wootton Political writings Penguin
Mahler, Gregory S. Comparative Politics edition 4r.e. . Prentice-Hall 0130985961
Skinner, Quentin Machiavelli edition n.e. . Oxf.U.P. 0192854070
Vincent, Andrew Modern Political Ideologies edition 2r.e. . Blackwell 0631195076
Williams, H. International Relations in Political Theory Open U.P. 0335156274
Williams, Howard Ll Marx Gwasg Gee
Wollstonecraft, Mary Political Writings edition n.e. . Oxf.U.P. 0192836528
Democracy and the Capitalist State Camb.U.P. 0521280621

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC