Cod y Modiwl GW12120  
Teitl y Modiwl GWLEIDYDDIAETH YN EWROP  
Blwyddyn Academaidd 2006/2007  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Professor Roger M Scully  
Semester Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod  
Blwyddyn nesaf y cynigir N/A  
Semester nesaf y cynigir N/A  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Ms Anwen M Elias, Dr Elena A Korosteleva-Polglase  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   16 x 1 awr  
  Seminarau / Tiwtorialau   8 x Seminar 1 awr  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Arholiad Semester2 Awr Arholiad  70%
Asesiad Semester Un traethawd 2,000 o eiriau  30%
Asesiad Ailsefyll Os bydd y Gyfadran yn rhoi cymeradwyaeth, caiff myfyrwyr ailsefyll y modiwl hwn. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch a Gweinyddwr Academaidd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol. 

Canlyniadau dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Arddangos, trwy waith ysgrifenedig ac arholiad, wybodaeth o nodweddion canolog bywyd gwleidyddol yn y prif wladwriaethau Ewropeaidd
2. Dangos, trwy waith ysgrifenedig ac arholiad, ymwybyddiaeth o¿r gwahanol systemau gwleidyddol ar draws y prif wladwriaethau Ewropeaidd
3 Ysgrifennu traethodau mewn cyd-destun academaidd
4. Defnyddio technegau cyfeirio priodol
5. Llunio llyfryddiaeth
6. Adnabod a defnyddio strategaethau darllen addas

Nod

Bydd y modiwl diwygiedig hwn yn un o chwe modiwl a gynigir gan yr Adran i fyfyrwyr israddedig blwyddyn gyntaf. Bydd y modiwl yn cynnwys llawer o'r deunydd cysyniadol a ddysgir yn y fersiwn gyfredol o GW10220 (Gwleidyddiaeth a Llywodraethiant) ond yn ceisio gwneud y deunydd yn fwy hygyrch trwy sylfaenu'r cysyniadau canolog o fewn cyd-destun nifer o'r prif wledydd Ewropeaidd.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl yn rhoi i fyfyrwyr israddedig y Flwyddyn Gyntaf gyflwyniad cymharol i wleidyddiaeth nifer o wladwriaethau Ewropeaidd pwysig (e.e. y Deyrnas Gyfunol, Ffrainc, yr Almaen, Sbaen a Rwsia). Bydd y modiwl yn archwilio datblygiad hanesyddol pob gwladwriaeth; prif nodweddion eu cyfansoddiadau a'u systemau gwleidyddol; eu cyd-destun cymdeithasol ac economaidd; a phrif nodweddion y gystadleuaeth wleidyddol. Bydd y modiwl yn cloi gyda thrafodaeth ar oblygiadau datblygiad yr UE i'r gwladwriaethau hyn ac i Ewrop.

Cynnwys

Cyflwyniad
Y Deyrnas Gyfunol
Ffrainc
Yr Almaen
Sbaen
Rwsia
Yr UE ac Integreiddio Ewropeaidd
Diweddglo

Sgiliau Modiwl

Problem_solving Un o amcanion canolog y modiwl fydd gwaith prosiect annibynnol a datrys problemau; bydd cyflwyno traethawd yn gofyn i'r myfyriwr ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal â datrys problemau. Bydd y gwaith ymchwil a pharatoi at gyflwyniadau seminar hefyd yn gymorth i'r myfyriwr ddatblygu sgiliau prosiect annibynnol. Datblygir ac asesir gallu¿r myfyriwr i ddatrys problemau trwy ofyn iddynt: ystyried gwahanol agweddau a barn; trefnu data ac amcangyfrif ateb i broblem; ystyried achosion eithafol. Trafod yn rhesymegol; llunio modelau damcaniaethol; ystyried achosion tebyg; edrych am batrymau; rhannu materion yn broblemau llai. Bydd arholiad terfynol yn sicrhau asesiad o allu¿r myfyriwr i weithio ar ei ben/phen ei hun.  
Research skills Bydd cyflwyno traethawd yn adlewyrchu sgiliau ymchwil annibynnol y myfyriwr. Bydd yr angen i leoli adnoddau ymchwil priodol a chofnodi'r canlyniadau hefyd yn hybu sgiliau ymchwil. Bydd ymchwilio a pharatoi ar gyfer cyflwyniad seminar hefyd yn galluogi'r myfyriwr i ddatblygu sgiliau prosiect annibynnol. Bydd arholiad terfynol yn sicrhau asesiad o allu'r myfyriwr i weithio ar ei ben/phen ei hun.  
Communication Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno eu syniadau ar lafar ac yn ysgrifenedig a sut i fynegi eu hunain yn gadarn. Byddant yn deall pwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu clir a sut i ddefnyddio'r sgiliau hyn. Byddant yn gwybod sut i ddefnyddio'r nifer o ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael a sut i ddefnyddio'r ffurf addas o gyfathrebu yn y ffordd orau. Byddant yn dysgu bod yn eglur ac yn uniongyrchol ac yn gadarn yngl'n â nodau ac amcanion. Byddant yn dysgu ystyried yr hyn sy'n berthnasol i bwnc, ffocws ac amcanion eu dadl neu drafodaeth. Bydd y seminarau ar gyfer grwpiau llai lle mai trafodaeth lafar a chyflwyniadau fydd prif ddull y dysgu a bydd pwyslais y modiwl i gyd ar gyfraniad a chyfathrebu'r myfyrwyr.  
Improving own Learning and Performance Mae'r modiwl yn ceisio hybu hunanreolaeth o fewn cyd-destun o gymorth oddi wrth y cynullydd a'r cyd-fyfyrwyr. Disgwylir i fyfyrwyr wella eu perfformiad addysgol eu hunain trwy wneud gwaith ymchwil annibynnol a chymell eu hunain i chwilio am ffynonellau, paratoi rhestru darllen a phenderfynu (gydag arweiniad) gyfeiriad eu traethawd a'u pynciau cyflwyno. Rhaid iddynt arwain cyflwyniad seminar a chyflwyno traethawd ar amser a dylai hyn eu helpu i reoli amser a'r adnoddau sydd ar gael yn y ffordd orau.  
Team work Bydd y seminarau yn cynnwys trafodaeth mewn grwp bychan lle bydd rhaid i fyfyrwyr drafod fel grwp y materion creiddiol sy'n gysylltiedig â phwnc y seminar. Mae trafodaethau a dadleuon fel hyn yn y dosbarth yn rhan hollbwysig o'r modiwl.  
Information Technology Disgwylir i fyfyrwyr gwblhau eu gwaith ar brosesydd geiriau. Anogir myfyrwyr hefyd i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we a thrwy gyfrwng ffynonellau gwybodaeth electronig (megis BIDS ac OCLC).  
Personal Development and Career planning Mae'r trafodaethau yn arbennig yn gymorth i ddatblygu sgiliau llafar a chyflwyno'r myfyrwyr. Bydd dysgu am y broses o gynllunio traethawd a chyflwyniad, llunio fframwaith y prosiectau, hogi a datblygu'r prosiectau a'u cwblhau, i gyd yn cyfrannu tuag at eu portffolio o sgiliau trosglwyddadwy.  
Subject Specific Skills Caiff myfyrwyr y cyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau sy'n benodol i'r pwnc i'w helpu i ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau ar y modiwl. Mae'r sgiliau pwnc penodol yma'n cynnwys: - Casglu a deall ystod eang o ddata yn ymwneud â'r modiwl - Y gallu i werthuso persbectifau gwahanol - Arddangos technegau ymchwil pwnc penodol - Cymhwyso ystod o fethodolegau i broblemau gwleidyddol cymhleth  

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC